Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd y llys yn rhoi dedfryd gymunedol i chi, bydd yn rhaid i chi wneud gwaith cymunedol di-dâl neu fynd ar raglenni addysg neu driniaeth. Ni chewch eich rhoi dan glo. Mynnwch wybod am y mathau o ddedfrydau cymunedol y gallwch eu cael.
Os ydych o dan 18 oed ac yn cael eich dyfarnu'n euog o drosedd gyntaf neu fân drosedd, bydd y llys yn rhoi dedfryd gymunedol i chi.
Mae dedfrydau cymunedol:
Bydd y math o ddedfryd gymunedol a gewch yn dibynnu ar y canlynol:
Os byddwch yn pledio'n euog, mae cerydd, rhybudd terfynol neu Orchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBO) yn fathau eraill o gosbau.
Darllenwch fwy am y rhain drwy ddilyn y ddolen 'Beth all ddigwydd hyd yn oed os na chaiff person ifanc ei gyhuddo o drosedd' isod.
Os byddwch yn cael eich dyfarnu'n euog o drosedd ddifrifol - fel ymosodiad - efallai y rhoddir dedfryd i chi y byddwch yn ei bwrw yn y ddalfa.
Mae pedair prif ddedfryd gymunedol y gall y llys eu rhoi i chi.
Dirwyon
Gallwch gael dirwy am fân droseddau, fel peidio â thalu am docyn trên.
Os ydych o dan 16 oed, mae'n rhaid i'ch rhieni/gofalwyr dalu'r ddirwy.Bydd y llys yn ystyried beth y gallant ei fforddio pan fydd yn penderfynu faint yw'r ddirwy.
Os ydych yn 17 neu’n hŷn, bydd yn rhaid i chi dalu'r ddirwy. Bydd maint y ddirwy yn dibynnu ar ba mor ddifrifol oedd eich trosedd, a faint y gallwch ei dalu.
Gallwch ddarllen mwy drwy ddilyn y ddolen 'Dirwyon llys' isod.
Os mai hon yw eich trosedd gyntaf a'ch bod yn pledio'n euog, gallech gael gorchymyn cyfeirio
Gorchmynion cyfeirio
Os mai hon yw eich trosedd gyntaf a'ch bod yn pledio'n euog, gallech gael gorchymyn cyfeirio.
Mae hyn yn golygu y cewch eich anfon i banel troseddau ieuenctid, a fydd yn penderfynu ar ddedfryd a fydd yn eich helpu i beidio â chyflawni trosedd eto. Bydd y panel yn cynnwys dau wirfoddolwr o'ch cymuned leol ac aelod o'r tîm troseddau ieuenctid.
Byddwch chi a'ch rhieni neu'ch gofalwyr yn cymryd rhan yn y broses o gytuno ar y ddedfryd.
Weithiau bydd y dioddefwr yn cymryd rhan hefyd, os yw'n addas.
Fel rhan o'r ddedfryd, bydd yn rhaid i chi wneud iawn am y niwed rydych wedi'i achosi.
Bydd y ddedfryd hon yn para rhwng tri a 12 mis.
Gorchmynion gwneud iawn
Os rhoddir gorchymyn gwneud iawn i chi, byddwch yn gwneud iawn am y niwed a achoswyd gan eich trosedd. Er enghraifft, efallai y bydd y llys yn gorchymyn i chi:
Bydd fel arfer yn cymryd 24 awr i gwblhau Gorchymyn Gwneud Iawn, dros ychydig ddiwrnodau.
Y Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid
Mae Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid yn cynnwys pethau gwahanol y mae'n rhaid i chi eu gwneud neu na chaniateir i chi eu gwneud. Bydd y llys yn penderfynu ar y rhain.
Gall y gorchymyn bara am hyd at dair blynedd.
Mae pob Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid yn wahanol a bydd yn adlewyrchu'r math o drosedd rydych wedi'i chyflawni ac unrhyw anghenion a allai fod gennych, fel help gyda phroblem iechyd.
Felly, er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid i chi:
Os byddwch yn mynd yn groes i ofynion Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid, gallech orfod mynd i'r ddalfa.
Yn ogystal â phethau fel dirwyon a gorchmynion cyfeirio, mae dedfrydau eraill y gall y llys eu rhoi.
Rhyddhad
Ar gyfer mân droseddau, os byddwch yn cael eich dyfarnu'n euog neu'n cyfaddef eich bod yn euog, gallai'r llys eich 'rhyddhau'. Mae hyn yn digwydd pan fydd y llys yn penderfynu bod y profiad o gael eich arestio a mynd i'r llys yn ddigon o gosb.
Mae dau fath o ryddhad:
Gorchmynion sy'n cynnwys eich rhieni
Os byddwch yn mynd i drafferth am driwantiaeth neu droseddau eraill, gall y cyngor lleol neu'r heddlu ofyn am gymorth eich rhieni neu'ch gofalwyr. Gellir gwneud hyn drwy roi cyrffyw plant lleol neu orchymyn diogelwch plant.
Gellir rhoi gorchymyn i rieni hefyd i fod yn gyfrifol am ymddygiad eu plant, a gall olygu bod yn rhaid iddynt fynd ar raglen sgiliau rhianta.