Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth all ddigwydd i chi os bydd eich plentyn yn mynd i drafferth gyda'r heddlu

Os bydd eich plentyn yn mynd i drafferth gyda'r heddlu, gallwch weithiau gael eich dwyn i gyfrif. Fodd bynnag, mae llawer iawn o gymorth ar gael i rieni os bydd eu plant yn troseddu. Mynnwch wybod beth all ddigwydd i chi a pha gymorth sydd ar gael.

Rhaglenni rhianta

Os bydd eich plentyn yn troseddu, efallai y gofynnir i chi ymuno â rhaglen rianta, a hynny er mwyn rhoi cymorth i chi i helpu eich plentyn rhag troseddu.

Bydd pob rhaglen yn wahanol yn dibynnu ar eich amgylchiadau a beth sydd orau i'ch plentyn.

Fel arfer byddwch yn mynd yn wirfoddol, ond gall tîm troseddau ieuenctid wneud pethau'n fwy ffurfiol drwy:

  • awgrymu Contract Rhianta
  • gwneud cais i'r llysoedd am Orchymyn Rhianta

Bydd hyn yn golygu bod yn rhaid i chi fynd ar raglen rianta.

Caiff rhaglenni rhianta eu cynnal gan dimau troseddau ieuenctid a sefydliadau cyfiawnder ieuenctid eraill, fel elusennau.

Os rhoddir Contract Rhianta i chi

Mae Contract Rhianta yn gytundeb gwirfoddol a wneir rhyngoch chi, eich plentyn a'r tîm troseddau ieuenctid. Yn y contract, bydd pob un ohonoch yn cytuno i chwarae rhan yn y broses o wella ymddygiad eich plentyn.

Mae Contract Rhianta yn cynnwys amodau penodol i helpu eich plentyn rhag mynd i drafferth. Er enghraifft, gellid gofyn i chi:

  • sicrhau bod eich plentyn gartref gyda'r nos
  • sicrhau ei fod yn mynd i'r ysgol
  • mynd ar raglen rhianta

Drwy lofnodi'r contract, byddwch yn cytuno gyda'r hyn mae'n ei ddweud y mae'n rhaid i chi ei wneud.

Nid oes terfyn amser penodol ar gyfer hyd y contract hwn, a bydd hefyd yn nodi'n glir beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn cydymffurfio â'r contract.

Os byddwch yn gwrthod cytuno â'r Contract Rhianta, neu'n torri'r amodau, efallai y bydd y llys yn cyflwyno Gorchymyn Rhianta.

Os rhoddir Gorchymyn Rhianta i chi

Nid yw cael Gorchymyn Rhianta yn golygu eich bod yn cael cofnod troseddol

Mae Gorchymyn Rhianta yn orchymyn llys sy'n nodi pethau y mae'n rhaid i chi a'ch plentyn eu gwneud neu beidio â'u gwneud.

Gall y rhain gynnwys sicrhau bod eich plentyn yn aros gartref ar adegau penodol, neu fynd i gyfarfodydd gydag athrawon eich plentyn. Gall Gorchmynion Rhianta bara am hyd at 12 mis.

Nid yw cael Gorchymyn Rhianta yn golygu bod gennych gofnod troseddol, ond gellir mynd â chi i'r llys os na fyddwch yn cydymffurfio â'r gorchymyn.

Os rhoddir Gorchymyn Rhianta i chi, bydd yn rhaid i chi fynd ar 'raglen cymorth rhianta' am hyd at dri mis. Bydd hyn yn eich helpu gydag unrhyw broblemau sydd gennych gydag ymddygiad eich plentyn.

Pryd y gellir rhoi Gorchmynion Rhianta

Gellir rhoi Gorchmynion Rhianta os bydd eich plentyn yn:

  • colli'r ysgol yn gyson
  • cael ei wahardd o'r ysgol oherwydd ymddygiad drwg difrifol, naill ai'n barhaol neu am yr ail waith mewn 12 mis
  • cael Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBO), Gorchymyn Diogelwch Plant neu Orchymyn Troseddwr Rhyw
  • torri rheolau ei ASBO
  • cael ei gollfarnu o drosedd

Gellir eu rhoi hefyd os na fyddwch yn gwneud yr ymdrech i helpu eich plentyn rhag cyflawni trosedd.

Gorchmynion eraill a all effeithio arnoch

Mae rhai gorchmynion yn effeithio arnoch chi, er y cânt eu rhoi i'ch plentyn.

Gorchmynion cymorth unigol

Os rhoddir ASBO i'ch plentyn, gallai hefyd gael Gorchymyn Cymorth Unigol. Mae hyn yn golygu y gallai gael sesiynau cwnsela ar gyfer problemau fel cyffuriau neu reoli dicter, a'u bwriad yw helpu eich plentyn i wella ei ymddygiad.

Os bydd eich plentyn yn torri unrhyw un o reolau'r gorchymyn, gallech gael dirwy.

Gorchymyn diogelwch plant

Mae'r rhain yn orchmynion arbennig a all gael eu rhoi i blant o dan ddeg oed yn unig.

Os rhoddir y gorchymyn hwn i'ch plentyn, caiff ei oruchwylio gan weithiwr cymdeithasol am hyd at dri mis (neu'n hwy, mewn achosion difrifol).

Os bydd eich plentyn yn torri unrhyw un o reolau'r gorchymyn, gellid rhoi Gorchymyn Rhianta i chi. Mewn achosion difrifol pan fo'ch plentyn yn parhau i fynd i drafferth â'r heddlu, gellid ei symud i mewn i ofal. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen 'Gorchmynion gofal' isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU