Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd eich plentyn yn mynd i drafferth gyda'r heddlu am gyflawni trosedd a bod camau cyfreithiol wedi'u cymryd, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o beth i'w ddisgwyl a ble y gallwch gael cyngor.
Os caiff eich plentyn ei arestio am drosedd ac yntau o dan 17 oed, rhaid i'r heddlu ddweud wrthych cyn gynted â phosibl. Ni ddylai'r heddlu gyfweld â'ch plentyn hyd nes y byddwch chi'n bresennol, oni bai y byddai oedi yn arwain at risg uniongyrchol o niwed i rywun neu golled neu ddifrod difrifol i eiddo. Mewn achosion o'r fath, rhaid i'r heddlu sicrhau bod 'oedolyn priodol' annibynnol yn bresennol i wneud yn siŵr y caiff eich plentyn ei drin yn deg.
Mae gan eich plentyn yr un hawliau i gyngor cyfreithiol ag oedolyn.
Os yw eich plentyn o dan deg mlwydd oed, ni ellir ei gyhuddo o drosedd. Fodd bynnag, unwaith y bydd dros deg oed, bydd yn cael ei drin yn yr un ffordd ag unrhyw berson ifanc arall o dan 18 oed.
Os mai dyma'r tro cyntaf i'ch plentyn fynd i drafferth, ymddwyn yn wrthgymdeithasol neu gyflawni mân drosedd, gellir delio ag ef y tu allan i system y llys. Gellir rhoi orchymyn cyn achos llys iddynt a fydd yn golygu ei fod yn cael ei geryddu'n ffurfiol neu ei rybuddio gan swyddog yr heddlu. Caiff hyn ei gofnodi fel cofnod troseddol. Fel arfer bydd rhywun o'r tîm troseddau ieuenctid yn cysylltu â chi i weld a oes angen cymorth neu gyngor arnoch chi neu ar eich plentyn. I gael gwybod mwy, dilynwch y ddolen isod ‘Tîm troseddau ieuenctid: beth ydynt’.
Os bydd yr heddlu'n cyhuddo eich plentyn, caiff ei fechnïo (caniatâd i fynd adref) neu ei remandio yn y ddalfa (gorfod aros). Yna bydd yn rhaid iddynt ymddangos gerbron llys ieuenctid. Os bydd eich plentyn yn pledio'n euog neu'n cael ei gollfarnu o'r cyhuddiad, bydd yn cael ei ddedfrydu gan y llys ieuenctid. Ar gyfer troseddau mwy difrifol, bydd y llys ieuenctid yn cyfeirio'r achos i Lys y Goron.
Os caiff eich plentyn ei gyhuddo ar y cyd ag oedolyn, bydd llys oedolion yn delio ag ef.
Os bydd eich plentyn yn wynebu cyhuddiadau troseddol neu'n gorfod mynd i'r llys, mae'n bwysig eich bod yn siarad â chynghorydd profiadol.
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant yn cynnig cyngor am ddim ar ystod eang o faterion. Llinell gymorth 0845 120 2948 rhwng 09.00 am a 5.00 pm bob dydd.
Ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol a chyngor yn eich ardal, dilynwch y ddolen isod ‘Ble i gael cyngor cyfreithiol’.