Cadw plant ifanc a phlant yn eu harddegau yn ddiogel pan fyddant yn mynd o gwmpas
Gall pob plentyn fod yn agored i niwed weithiau, ac fel rhiant mae’n naturiol i chi boeni am eu diogelwch. Os ydych yn poeni, gallwch helpu i amddiffyn eich plant ifanc a’ch plant yn eu harddegau gyda’r awgrymiadau synnwyr cyffredin hyn.
Amddiffyn plant ifanc
Mae ystadegau'n dangos fod troseddau yn erbyn plant ifanc yn brin. Serch hynny, gall y saith awgrym canlynol helpu i amddiffyn eich plentyn:
- dywedwch wrth eich plentyn am osgoi siarad â phobl ddieithr pan na fyddwch chi o gwmpas
- gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod na ddylai gerdded i ffwrdd ag unrhyw un heb ddweud wrth y person sy'n gyfrifol yn gyntaf
- gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn deall y dylai bob amser ddweud wrthych os bydd dieithryn yn mynd ato, ac i beidio byth â chadw hyn yn gyfrinach
- os yw eich plentyn yn teithio ar ei ben ei hun, dywedwch wrthyn nhw am eistedd ar bwys teuluoedd eraill ar y trên neu’r bws
- os oes rhaid i’ch plentyn ddefnyddio lifft - dywedwch wrthyn nhw i ddefnyddio lifftiau gyda ffrindiau yn unig ac i beidio â phoeni ynghylch mynd allan os ydynt yn anghyfforddus gyda rhywun arall bod yn y car
- os yw eich plentyn yn mynd ar goll, dylai ofyn am help gan aelod o'r heddlu, oedolyn arall gyda phlant neu rywun yn gweithio mewn siop gyfagos
- mynnwch fod eich plant yn rhoi eu cyfeiriad a'u rhif ffôn ar gof a chadw
Pan fyddwch chi allan gyda’ch plant
Weithiau, gall plant ifanc dal i fod yn agored i niwed hyd yn oed os ydych chi gyda nhw. Dylai dilyn y rhagofalon syml hyn roi tawelwch meddwl i chi:
- ceisiwch gadw'ch plant lle gallwch eu gweld neu yng ngolwg oedolyn arall yr ydych yn ymddiried ynddo
- defnyddiwch harnais ar gyfer eich plentyn bach - bydd y rhain yn cadw'ch plentyn gerllaw hyd yn oed os oes rhywbeth arall yn tynnu'ch sylw
- pan fyddwch chi’n mynd o gwmpas yn ymweld â llefydd, dylech bob amser drefnu man cyfarfod i chi a’ch plentyn, rhag ofn bydd un ohonoch yn mynd ar goll
- gwnewch yn siŵr eich bod chi gyd yn teithio yn yr un cerbyd ar y trên, neu’ch bod chi’n cael seddau ar fws neu fws moethus sy’n agos at ei gilydd
- dylech fynd gyda’ch plentyn i mewn i doiledau cyhoeddus bob amser
- dylech atgoffa’ch plentyn ni ddylent siarad â phobl ddieithr, hyd yn oed os ydych chi gerllaw
Cadw plant hŷn yn ddiogel
Cyflawnir mwy o droseddau yn erbyn plant hŷn nag unrhyw grŵp oed arall, ond mae rhai pethau y gall eich pobl ifanc yn eu harddegau eu gwneud er mwyn bod yn ddiogel ar y strydoedd:
- bod yn wyliadwrus, a sicrhau bod stereos personol/chwaraewyr MP3 wedi'u diffodd, fel y gallant glywed yr hyn sy'n digwydd o'u cwmpas
- cadw at strydoedd wedi eu goleuo'n dda, ac osgoi cymryd llwybr tarw drwy strydoedd bach
- os ydy eich plentyn yn meddwl fod rhywun yn ei ddilyn, dylai groesi'r ffordd neu fynd i rywle lle mae llawer o bobl, fel arosfan bws neu siop
- dylai eich plentyn wisgo chwiban neu larwm gwichlyd am ei wddf neu ar gadwyn er mwyn atal dieithriaid amheus
- wrth deithio ar fws, dylai eich plentyn ddefnyddio safleoedd bysiau sydd ar lonydd prysur
- os bydd rhywun yn ceisio cymryd rhywbeth gan eich plentyn, ddylen nhw ddim ceisio ymladd
- dylid cadw ffonau symudol a phethau eraill gwerthfawr o'r golwg, a dylid diffodd y sŵn er mwyn osgoi tynnu sylw
- peidiwch a gadael i'ch plentyn gario arfau oherwydd mae'n fwy tebygol iddynt gael eu defnyddio yn erbyn eich plentyn, ac mae’n anghyfreithlon
- anogwch eich plentyn i siarad am y peth os byddant yn cael eu bwlio neu'n teimlo y gallant fod mewn perygl