Amddiffyn plant hŷn sy'n gadael cartref
Mae paratoi i adael cartref am y tro gyntaf yn gam pwysig ym mywyd eich plentyn, efallai mai mynd i'r brifysgol neu sefydlu eu cartref cyntaf. Siaradwch gyda'ch plentyn am sut i fod yn ofalus yn eu cartref eu hun i osgoi peryglon trosedd posibl.
Lleihau y peryglon o drosedd
Mae perchnogion tai rhwng 16 a 24 oed dair gwaith yn fwy tebygol na'r cyfartaledd o gael eu bwrglera. Dyma rai pethau y dylai eich plentyn eu hystyried wrth symud oddi cartref:
- os yw'n cychwyn am y brifysgol, dylai eich plentyn wybod fod y risg o gael ei fwrglera yn llawer is mewn neuaddau preswyl nag mewn tai neu fflatiau a rentir yn breifat
- mae oddeutu traean o'r holl fyrgleriaid yn mynd i mewn i adeiladau trwy ddrysau neu ffenestri heb eu cloi, felly sicrhewch fod cloeon sy'n gweithio ar holl ddrysau a ffenestri llety newydd eich plentyn
- sicrhewch fod eiddo personol eich plentyn dan warchodaeth yswiriant
- cynghorwch eich plentyn i roi cyfeiriad ar ei holl eiddo oherwydd fe fydd hyn yn helpu'r heddlu i adnabod eiddo wedi ei ddwyn
- prynwch switshis gydag amseryddion i'ch plentyn - gall y rhain droi systemau radio a goleuadau ymlaen a'u diffodd pan nad yw gartref, gan roi'r argraff bod rhywun yno
- sicrhewch fod eich plentyn yn dod ag eiddo gwerthfawr gartref yn ystod gwyliau, neu'n eu symud i rywle diogel