Bwlio: cael cymorth
Dydych chi ddim ar eich pen eich hun os yw eich plentyn yn cael ei fwlio. Gallwch gysylltu â'r mudiadau hyn am gyfarwyddyd.
Cael cymorth
Os ydych wedi siarad ag athrawon eich plentyn ond nad yw'r bwlio'n peidio, neu os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y mae'r ysgol yn delio â'r sefyllfa, mae'r mudiadau canlynol yn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth:
- Parentline: 0808 800 2222 - cymorth brys i rieni 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
- llinell gymorth Kidscape i rieni: 08451 205204 (10.00 am i 8.00 pm dydd Llun a dydd Mawrth, 10.00 am i 4.00 pm dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener)
- llinell gyngor Anti Bullying Campaign ar gyfer rhieni a phlant: 020 7378 1446 (9.30 am i 5.00 pm)
- Canolfan Gyngor am Addysg (cyngor i rieni a phlant ar yr holl faterion sy'n ymwneud ag ysgolion) 0808 800 5793
- Canolfan Gyfreithiol y Plant (cyngor cyfreithiol am ddim ar bob agwedd o'r gyfraith sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc): 0845 120 2948