Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Alcohol, pobl ifanc a’r gyfraith

Ceir deddfau caeth o ran defnyddio alcohol yn y DU. Mae’n bwysig i chi ofalu nad ydych chi’n torri’r gyfraith drwy adael i’ch plentyn yfed. Yma, cewch wybod beth mae’r gyfraith yn ei ddweud ynghylch yfed dan oed, eiddo trwyddedig ac yfed a gyrru.

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud

Mae’r canlynol yn erbyn y gyfraith:

  • bod yn feddw a chithau’n gyfrifol am blentyn dan saith oed, mewn man cyhoeddus neu mewn eiddo trwyddedig
  • gwerthu alcohol i rywun dan 18 oed, yn unrhyw le
  • i oedolyn brynu neu geisio prynu alcohol ar ran rhywun dan 18 oed
  • i rywun dan 18 oed brynu alcohol, neu geisio prynu alcohol, neu i rywun werthu alcohol iddo mewn unrhyw amgylchiadau (oni bai ei fod yn gwneud hynny ar gais yr heddlu neu arolygwr pwysau a mesurau)
  • i rywun dan 18 oed yfed alcohol mewn eiddo trwyddedig, gydag un eithriad – caiff plant 16 a 17 oed yfed (ond ddim prynu) cwrw, gwin neu seidr pan fyddant yn cael pryd o fwyd o amgylch bwrdd gydag oedolyn
  • i oedolyn brynu alcohol i unigolyn dan 18 oed i’w yfed mewn eiddo trwyddedig, ac eithrio yn yr amgylchiadau uchod

Yfed gartref

Nid yw yn erbyn y gyfraith i unigolyn dan 18 oed yfed alcohol gartref neu yn nhŷ ei ffrind. Gall rhieni ddewis rhoi rhywfaint o'u halcohol eu hunain i bobl ifanc pan fyddant gartref.

Yfed yn gyhoeddus

Mae gan rai trefi ardaloedd heb alcohol, lle na chaiff neb yfed yn gyhoeddus. Hyd yn oed pan nad yw’r ardaloedd hyn ar gael, gall yr heddlu gymryd alcohol oddi ar bobl, neu symud pobl ifanc ymlaen os ydynt wedi bod yn yfed. Gallant hyd yn oed gael dirwy neu gael eu harestio.

Yfed a gyrru

Gall unrhyw un sy’n gyrru neu sy’n ceisio gyrru ar ôl iddo fod yn yfed alcohol wynebu cael ei wahardd rhag gyrru, cael dirwy drom neu hyd yn oed gael ei garcharu. Mae’n anghyfreithlon gyrru pan na fyddwch yn ffit i wneud hynny. Diffiniad y gyfraith o ‘beidio â bod yn ffit’ yw cael:

  • dros 80 miligram (mg) o alcohol i bob 100 mililitr (ml) o waed
  • dros 35 mg o alcohol i bob 100 ml o anadl
  • dros 107 mg o alcohol i bob 100 ml o wrin

Gall yr heddlu stopio unrhyw un sydd, yn eu barn nhw, yn gyrru â gormod o alcohol yn ei gorff. Os caiff ei stopio, gofynnir i’r gyrrwr gymryd prawf anadl i fesur faint o alcohol sydd yn ei anadl.

Os bydd y prawf yn bositif, bydd y gyrrwr yn cael ei arestio a bydd yr heddlu yn mynd ag ef i’r orsaf heddlu i gael rhagor o brofion – mae’n bosib y bydd y profion yn cynnwys prawf gwaed a phrawf wrin. Mae’n anghyfreithlon gwrthod rhoi sampl pan fydd rhywun yn gofyn i chi am un.

Beth yw’r cosbau am yfed a gyrru?

Bydd unrhyw un a fydd yn ei gael yn euog o yfed a gyrru yn cael ei wahardd rhag gyrru am o leiaf 12 mis, ac yn cael dirwy o hyd at £5,000. Gall hyd yn oed wynebu chwe mis yn y carchar.

Bod yn ‘feddw ac yn gyfrifol’ am gerbyd

Os bydd rhywun dros y terfyn alcohol, gall gael ei arestio hyd yn oed os nad yw’n gyrru na’n ceisio gyrru. Er enghraifft, gall unigolyn gael ei arestio os yw dros y terfyn alcohol a bod ganddo allweddi car yn ei feddiant, os yw ei gar ger llaw.

Nid oes diffiniad cyfreithiol ar gyfer bod ‘yn gyfrifol’ am gerbyd, ond gallai’r canlynol fod yn rhai enghreifftiau:

  • cysgu mewn car os ydych chi dros y terfyn alcohol ac os ydych chi ag allweddi’r car yn eich meddiant
  • goruchwylio gyrrwr arall os ydych chi dros y terfyn (e.e. os mai trwydded dros dro yn unig sydd gan y gyrrwr)

Allweddumynediad llywodraeth y DU