Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae addysg alcohol yn cael ei gynnig ym mhob ysgol yn Lloegr fel rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Diben hyn yw rhoi'r sgiliau y mae arnynt eu hangen i blant a phobl ifanc, er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau diogel a chyfrifol ynghylch alcohol wrth iddynt fynd yn hŷn. Yma, cewch wybod yn union beth fydd eich plentyn yn cael ei addysgu am alcohol, a faint fydd oed eich plentyn yn cael yr wybodaeth honno.
Bydd eich plentyn yn dechrau cael addysg alcohol yn yr ysgol gynradd. Y syniad yw y dylent gael gwybod y ffeithiau am alcohol cyn cael unrhyw brofiad ohono eu hunain. Bydd eu haddysg ynghylch alcohol yn parhau wrth iddynt fynd i’r ysgol uwchradd.
Bydd addysg alcohol bob amser yn briodol i oedran, dealltwriaeth ac aeddfedrwydd eich plentyn. Bydd pynciau a materion perthnasol yn cael eu cyflwyno wrth i’ch plentyn fynd yn hŷn.
Ysgol eich plentyn fydd yn penderfynu pryd i gyflwyno'r gwahanol agweddau ar addysg alcohol. Fodd bynnag, dylai’r ysgol roi’r cyfle i chi ddweud eich dweud ynglŷn â hyn.
Ni fydd eich plentyn yn dysgu dim ynghylch camddefnyddio alcohol nes ei fod yn saith. Cyn hynny, bydd yn cael ei addysgu sut i fod yn ddiogel gyda meddyginiaethau a sylweddau’r cartref. Bydd hefyd yn dysgu'r sgiliau sylfaenol ar gyfer gwneud dewisiadau iach a dilyn rheolau diogelwch.
Dylai hyn ei baratoi ar gyfer unrhyw brofiad y bydd yn ei gael yn ddiweddarach o effeithiau niweidiol alcohol.
Yn ei flynyddoedd olaf yn yr ysgol gynradd, bydd eich plentyn yn dysgu am effeithiau niweidiol alcohol ar iechyd a pheryglon eraill sy'n gysylltiedig ag alcohol. Bydd yn dysgu’r sgiliau sylfaenol ar gyfer gwneud dewisiadau da ynghylch ei iechyd, ac adnabod a rheoli sefyllfaoedd peryglus.
Dylai hyn ei helpu i wrthsefyll pwysau gan gyfoedion pan fydd angen iddo wneud hynny, a’i helpu i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros ei weithredoedd.
Pan fydd eich plentyn yn mynd i’r ysgol uwchradd, bydd yn dysgu mwy am effeithiau a pheryglon alcohol. Bydd yn parhau i ddatblygu ei sgiliau wrth reoli peryglon, gwrthsefyll pwysau a gwneud dewisiadau iach. Bydd hefyd yn dysgu am y gyfraith sy’n ymwneud ag alcohol, a lle y gall pobl fynd i gael cymorth a chyngor ynglŷn ag alcohol.
Bydd eich plentyn bellach yn ei arddegau, ac wrth iddo ddod at derfyn ei amser yn yr ysgol uwchradd, bydd yn dysgu am effeithiau camddefnyddio alcohol ar deulu, ar ffrindiau, ar y gymuned leol ac ar y gymdeithas ehangach. Bydd hefyd yn cael ei annog i ffurfio ei farn ei hun drwy drafod a dadlau.
Nid dim ond addysgu plant ynghylch alcohol a wna ysgolion – byddant hefyd yn cynnig cefnogaeth i blant os bydd ei angen arnynt. Bydd ysgolion yn cadw golwg am ddisgyblion y mae camddefnyddio alcohol yn effeithio arnynt, neu’r rheini a allai fod yn agored i hynny. Bydd yr ysgolion hefyd yn parhau i helpu a chefnogi'r plant hyn, un ai yn yr ysgol ei hun neu drwy gysylltiadau â gwasanaethau plant eraill sy’n lleol.