Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Deall y Cwricwlwm Cenedlaethol

Mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn nodi'r cyfnodau a'r pynciau craidd a ddysgir i blant yn ystod eu hamser yn yr ysgol. Rhaid i blant rhwng pump ac 16 oed yn ysgolion y wladwriaeth neu mewn ysgolion a 'gynhelir' gael eu dysgu'n unol â'r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Y Cwricwlwm Cenedlaethol - beth mae'n ei nodi

Fframwaith yw'r Cwricwlwm Cenedlaethol a ddefnyddir gan bob ysgol a gynhelir i sicrhau bod yr addysgu a'r dysgu'n gytbwys ac yn gyson.

Mae'n nodi:

  • pa bynciau a ddysgir
  • yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y mae eu hangen ym mhob pwnc
  • y safonau neu'r targedau cyrhaeddiad ym mhob pwnc - gall athrawon ddefnyddio'r rhain i fesur cynnydd eich plentyn a chynllunio'r camau dysgu nesaf ar eu cyfer
  • sut y caiff cynnydd eich plentyn ei asesu a'i gofnodi mewn adroddiad

O fewn fframwaith y Cwricwlwm Cenedlaethol, bydd gan ysgolion y rhyddid i gynllunio a threfnu'r addysgu a'r dysgu yn y ffordd orau i ddiwallu anghenion eu disgyblion.

Mae llawer o ysgolion yn defnyddio Cynlluniau Gwaith yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm i gynllunio'u cwricwlwm. Mae'r rhain yn helpu i drosi amcanion y Cwricwlwm Cenedlaethol yn weithgareddau addysgu a dysgu.

Cyfnodau allweddol y Cwricwlwm Cenedlaethol

Trefnir y Cwricwlwm Cenedlaethol yn flociau o flynyddoedd a elwir yn 'gyfnodau allweddol'.

Ceir pedwar cyfnod allweddol yn ogystal â ‘Chyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar’. Mae'r ‘Cyfnod Sylfaen Blynyddoedd Cynnar’ yn edrych ar addysg i blant cyn iddynt fod yn bump oed (oed ysgol gorfodol).

Oed Cam Blwyddyn Asesu
3-4

Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar

4-5

Derbyn

5-6 Cyfnod Allweddol

1

Blwyddyn 1
6-7

Blwyddyn 2

Asesiadau athrawon mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth
7-8 Cyfnod Allweddol

2

Blwyddyn 3
8-9

Blwyddyn 4

9-10

Blwyddyn 5

10-11

Blwyddyn 6

Profion cenedlaethol ac asesiadau athrawon mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth
11-12 Cyfnod Allweddol

3

Blwyddyn 7 Asesiadau athrawon parhaus
12-13 Blwyddyn 8 Asesiadau athrawon parhaus
13-14 Blwyddyn 9 Asesiadau athrawon mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth a phynciau craidd eraill
14-15 Cyfnod Allweddol

4

Blwyddyn 10 Bydd rhai plant yn sefyll arholiadau TGAU
15-16 Blwyddyn 11 Bydd y rhan fwyaf o blant yn sefyll arholiadau TGAU neu gymwysterau cenedlaethol eraill

Mesur cynnydd

Rhaglenni astudio

Ceir rhaglen astudio ar gyfer pob pwnc yn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae'r rhaglenni astudio'n disgrifio'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y disgwylir i ddisgyblion eu datblygu yn ystod pob cyfnod allweddol.

Lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol

Mae'r rhaglenni astudio hefyd yn mapio graddfa cyrhaeddiad yn y pwnc. Yn y rhan fwyaf o bynciau Cyfnod Allweddol 1, 2 a 3, rhennir y “targedau cyrhaeddiad” hyn yn wyth lefel, yn ogystal â disgrifiad o “berfformiad eithriadol”. Dinasyddiaeth yw'r eithriad, sydd â thargedau cyrhaeddiad ar wahân ar gyfer diwedd Cyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4.

Mae plant yn datblygu ar raddfa wahanol, ond gall lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol roi syniad i chi ynglŷn â sut mae datblygiad eich plentyn yn cymharu â'r hyn sy'n arferol ar gyfer ei oed. Er enghraifft, erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 1, bydd y rhan fwyaf o blant wedi cyrraedd lefel 2, ac erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2, bydd y rhan fwyaf ar lefel 4.

Bydd ysgol eich plentyn yn anfon adroddiad atoch yn dweud wrthych pa lefel yn y Cwricwlwm Cenedlaethol y mae eich plentyn wedi'i chyrraedd mewn unrhyw asesiadau ffurfiol.

Asesiadau athrawon

Bydd athro eich plentyn yn gwirio'i ddatblygiad ym mhob pwnc yn rheolaidd, fel rhan arferol o'i waith fel athro. Ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 byddant yn cynnal “asesiad athro” ffurfiol, yn nodi pa lefel Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n disgrifio orau berfformiad eich plentyn ym mhob un o'r meysydd dysgu.

Profion 'diwedd cyfnodau allweddol'

Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1, bydd asesiad yr athro o gynnydd eich plentyn yn ystyried eu perfformiad mewn gwersi Saesneg a mathemateg, a gaiff ei fesur yn ôl tasgau a phrofion a gaiff eu gweinyddu'n anffurfiol.

Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, bydd eich plentyn yn sefyll profion cenedlaethol mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth. Ni fydd eich plentyn yn sefyll prawf cenedlaethol ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3. Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4 mae'n debyg y bydd yn sefyll arholiadau TGAU a/neu gymwysterau cyfatebol.

Ni fydd y profion yn rhoi darlun llawn i chi o gyrhaeddiad eich plentyn yn yr ysgol – maent yn rhoi cipolwg, yn dangos sut mae'r plentyn wedi gwneud mewn rhannau dethol o bwnc ar ddiwrnod penodol. Ond gall ysgolion ddefnyddio canlyniadau profion fel mesur annibynnol o sut y maen nhw, a'u disgyblion, yn ei wneud o'u cymharu â safonau ar draws y wlad.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU