Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Addysg eich plentyn: beth sy'n newydd i blant 14-19 oed

Mae newidiadau i addysg a hyfforddiant yn golygu bod mwy o ddewis o gyrsiau i bobl ifanc 14 i 19 oed, a mwy o bwyslais ar ddysgu sgiliau defnyddiol. Mae angen rhoi'r sgiliau a'r cymwysterau i bobl ifanc i lwyddo, boed hynny wrth astudio ymhellach neu wrth weithio.

Beth ydy amcanion y newidiadau

Mae cymwysterau newydd yn cael eu hychwanegu at y cwricwlwm, a rhai sydd yno eisoes yn cael eu diweddaru fel y gall plant ddod o hyd i bynciau sydd o ddiddordeb iddynt hwy a ffyrdd o ddysgu sy'n addas ar eu cyfer.

Cyflwynwyd y newidiadau er mwyn annog plant i aros mewn addysg am hirach, fel y bydd ganddynt well cyfle o ddod o hyd i swyddi addas.

Yn ogystal â'r cymhwyster Diploma newydd, bydd newidiadau mewn cymwysterau TGAU a Lefel A, mwy o gyfleoedd i ddilyn Prentisiaeth a rhaglen newydd i gefnogi pobl ifanc nad ydynt yn cyflawni eu potensial.

Diplomâu i bobl ifanc 14 i 19 oed

Mae'r Diploma'n gymhwyster newydd ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed. Fe'i cynlluniwyd i bontio'r bwlch rhwng dysgu academaidd a dysgu galwedigaethol. Mae'n cynnig ffordd fwy ymarferol o ennill y sgiliau a'r wybodaeth hanfodol y bydd cyflogwyr a phrifysgolion yn chwilio amdanynt.

O fis Medi 2008 ymlaen, bydd rhai ysgolion a phrifysgolion o amgylch y wlad yn cynnig y Diploma newydd fel cymhwyster ochr yn ochr â TGAU a Lefel A.

Newidiadau i TGAU

Bydd newidiadau i'r modd yr asesir TGAU o fis Medi 2009 ymlaen:

  • bydd asesiadau dan reolaeth, a oruchwylir gan athrawon yn yr ysgol, yn cymryd lle gwaith cwrs yn y rhan fwyaf o bynciau
  • bydd asesiadau athrawon yn parhau ym maes celf a dylunio, dylunio a thechnoleg, economeg y cartref, cerddoriaeth ac addysg gorfforol - ond gyda mwy o ragofalon
  • o fis medi 2010 ymlaen, bydd TGAU Saesneg, mathemateg a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) yn rhoi mwy o bwyslais ar y sgiliau hanfodol y mae eu hangen ar bobl ifanc i'w paratoi ar gyfer byd gwaith a bywyd fel oedolyn

Newidiadau i lefel A

O fis Medi 2008 ymlaen, bydd gan fyfyrwyr lai o amser i'w dreulio ar asesiadau. Bydd y rheini sy'n cyflawni i safon uwch yn cael mwy o gyfleoedd i ddangos eu gallu – gan ei gwneud yn haws i brifysgolion a cholegau eu canfod. Bydd:

  • mwy o gwestiynau penagored, i'w hateb drwy gyfrwng traethodau estynedig
  • prosiect estynedig newydd (dewisol)
  • gradd A* newydd ar gyfer y rhai sy'n perfformio'n rhagorol

Disgwylir i fwy o golegau ac ysgolion gynnig cyfleoedd i bobl ifanc astudio modylau addysg uwch wrth iddynt astudio ar gyfer Lefel A.

Cymorth ar gyfer y rhai sydd ddim yn cyflawni eu potensial

Nid yw cwricwlwm y brif ffrwd yn apelio at rai pobl ifanc, ac nid ydynt yn teimlo ei fod yn berthnasol iddyn nhw.

Mae'r rhaglen newydd ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed wedi'i hanelu at y rheini nad ydynt yn debygol o ennill Lefel 1 – gan gynnwys y rheini y mae'r gallu ganddynt i wneud yn dda, ond heb gymhelliant. Mae'n dangos i bobl ifanc sut y gall dysgu greu cyfleoedd gyrfa a'u helpu i feithrin sgiliau sylfaenol fel llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â'r agwedd a'r sgiliau personol a chymdeithasol sy'n bwysig wrth ddysgu ac ym myd gwaith.

Bydd fframwaith newydd o gymwysterau ar Lefel Mynediad a Lefel 1 yn cefnogi hyn, gan helpu dysgwyr i ddatblygu at Lefel 2 (sy'n gyfystyr â phump TGAU da). Bydd cymwysterau a gydnabyddir dan y fframwaith yn cynnwys sgiliau ar gyfer bywyd a gweithio, dysgu galwedigaethol ac ar sail pwnc, a datblygiad personol a chymdeithasol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU