Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae rhai plant yn rhagori mewn meysydd penodol, yn dysgu'n gynt nag eraill neu'n dangos llawer o botensial ond yn tangyflawni. Fe'u gelwir yn aml yn blant 'medrus a thalentog' ond gallai ysgolion ddefnyddio amrywiaeth o dermau gwahanol. Gallai'r rhain gynnwys: mwy abl a thalentog, mwy abl yn academaidd, abl neu fedrus. Dysgwch sut i nodi a yw eich plentyn yn fedrus ac yn dalentog, a pha gymorth addysgol ychwanegol sydd ar gael.
Mae 'medrus a thalentog' yn disgrifio plant a phobl ifanc sydd â'r gallu i ddatblygu i lefel yn sylweddol gynt na'u grŵp blwyddyn (neu sydd â'r potensial i feithrin y gallu hwnnw):
Ystyrir hefyd sgiliau fel arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau a threfnu wrth nodi plant medrus a thalentog a darparu ar eu cyfer.
Os credwch fod eich plentyn yn fedrus neu'n dalentog, dylech yn gyntaf drafod ei allu a'i anghenion ag athro neu bennaeth eich plentyn. Mae gan rai ysgolion gydlynydd Addysg i Ddisgyblion Medrus a Thalentog y gallech siarad ag ef hefyd. Efallai y bydd gan awdurdodau lleol arweinydd Disgyblion Medrus a Thalentog hefyd.
Bydd ysgolion yn nodi plant ar sail tystiolaeth gan gynnwys canlyniadau profion, ansawdd eu gwaith a barn athrawon a rhieni.
Mae llawer o ysgolion yn cadw cofrestr o'u plant medrus a thalentog. Fel arfer caiff plant eu hychwanegu at gofrestr eu hysgol a'u tynnu oddi arni dros amser - yn enwedig mewn ysgolion cynradd - wrth iddynt ddatblygu ar gyfraddau gwahanol i'w cyd-ddisgyblion.
Mae gan ysgolion gyfrifoldeb i ddiwallu anghenion addysgol eu disgyblion. O ran disgyblion medrus a thalentog, mae hyn yn cynnwys darparu mwy o heriau mewn gwersi a chyfleoedd i ddisgyblion ddangos a meithrin eu gallu. Gall ysgolion ac awdurdodau lleol hefyd ddarparu gweithgareddau ychwanegol y tu hwnt i'r amserlen ddyddiol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am addysg eich plentyn, dylech siarad â'i athro dosbarth neu lle y bo un ar gael, gydlynydd yr ysgol ar gyfer addysg i Ddisgyblion Medrus a Thalentog. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi siarad ag arweinydd Disgyblion Medrus a Thalentog eich awdurdod lleol hefyd, os oes un ar gael.
Y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Dawnus (NAGC)
Mae'r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Dawnus yn cynnal rhwydwaith cymorth i rieni annibynnol i helpu rhieni a gofalwyr i ddatrys anghydfodau ag ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae hefyd yn cynnig cyngor a chymorth i rieni a gofalwyr plant medrus a thalentog.
Cynllun Cerddoriaeth a Dawns
Gofynnir i rieni ac athrawon gadw golwg am blant â thalent eithriadol a'r ymroddiad sydd ei angen i ddod yn berfformwyr llwyddiannus. Gall hyfforddiant arbenigol gael ei roi i'r plant hyn. Ar hyn o bryd, mae'r Cynllun Cerddoriaeth a Dawns yn galluogi mwy na 2,200 o ddisgyblion i gael hyfforddiant arbenigol mewn:
• wyth ysgol breswyl arbenigol annibynnol yn Lloegr (pedair ysgol gerdd a phedair ysgol ddawns)
• 21 o Ganolfannau Hyfforddiant Uwch
• rhai ysgolion côr
Yn yr ysgolion cerdd a'r canolfannau hyfforddiant uwch sy'n rhan o'r cynllun, caiff plant 8 oed ac yn hŷn hyfforddiant arbenigol ochr yn ochr ag addysg academaidd dda. Gall plant 11 oed ac yn hŷn fynychu'r ysgolion dawns.
Mae pob plentyn sy'n mynychu'r canolfannau hyfforddiant uwch yn gwneud hynny y tu allan i oriau ysgol arferol. Mae'r cynllun yn helpu rhieni gyda'r ffioedd a'r costau eraill (gan gynnwys costau teithio) sy'n gysylltiedig â'u haddysg a'u hyfforddiant.
Rhaid i blentyn medrus a thalentog sydd â photensial yn y naill gelfyddyd berfformio neu'r llall fodloni'r rheolau dethol penodol ar gyfer yr ysgol neu'r ganolfan. Fel arfer ceir clyweliad a chyfweliad. Mae ysgolion a chanolfannau hyfforddiant uwch yn chwilio am blant â photensial a gallu eithriadol, felly bydd cystadleuaeth am y lleoedd sydd ar gael.
Mae plant yn gymwys os ydynt wedi bod yn y byw ar Ynysoedd Prydain am o leiaf ddwy flynedd galendr cyn dechrau mynychu un o'r ysgolion. Mae rheolau arbennig yn gymwys os yw plentyn:
• wedi bod dramor dros dro
• yn ffoadur
• yn blentyn i weithiwr o wledydd Ewropeaidd penodol eraill