Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Asesiadau athrawon a phrofion cyfnodau allweddol y Cwricwlwm Cenedlaethol

Pwrpas profion ac/neu asesiadau athrawon y Cwricwlwm Cenedlaethol yw rhoi gwybodaeth i chi ac i'r ysgol ynghylch sut mae'ch plentyn yn dod yn ei flaen.

Asesiadau athrawon

Ar ddiwedd pob cyfnod allweddol, bydd athrawon yn asesu perfformiad eich plentyn yn ffurfiol i fesur eu cynnydd er mwyn iddynt wybod pa blant y mae’n bosib y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt. Er enghraifft, ym mis Mehefin bydd plant ym mlwyddyn 1 yn sefyll gwiriad ffoneg. Dim ond ychydig funudau bydd hwn yn cymryd i gwblhau.

Ffoneg yw’r ffordd fwyaf effeithlon o ddysgu plant ifanc i ddarllen. Drwy ffoneg mae plant yn dysgu sut i adnabod sain pob llythyren, a’r seiniau y mae gwahanol gyfuniadau o lythrennau yn eu gwneud. Er enghraifft, “sh” neu “oo”, a chymysgu seiniau gyda’i gilydd o’r chwith i’r dde i wneud gair.

Wrth gwrs, bydd athro/athrawes eich plentyn yn asesu'r modd y mae eich plentyn yn dysgu yn anffurfiol ar adegau eraill, er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, mae'n bosib y byddan nhw'n gwrando ar eich plentyn yn darllen neu'n edrych ar waith mathemateg y mae wedi bod yn ei wneud. Bydd rhai ysgolion hefyd yn defnyddio profion dewisol i asesu cynnydd plant.

Lefelau y Cwricwlwm Cenedlaethol

Yn ystod Cyfnod Allweddol 1, 2 a 3 asesir y cynnydd yn y mwyafrif o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn erbyn wyth lefel. Ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 bydd yr ysgol yn anfon adroddiad atoch yn dweud wrthych ar ba lefel y mae eich plentyn yn gweithio.

Yng Nghyfnod Allweddol 1, seilir y lefel ar asesiad yr athro, gan ystyried perfformiad eich plentyn mewn amryw o dasgau a phrofion.

Yng Nghyfnod Allweddol 2, bydd y lefel yn adlewyrchu asesiad yr athro a chanlyniadau'ch plentyn mewn profion cenedlaethol.

Yng Nghyfnod Allweddol 3, seilir y lefel ar asesiad yr athro.

I gael gwybod mwy am lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, edrychwch ar ‘Deall y Cwricwlwm Cenedlaethol’

Profion 'diwedd cyfnod allweddol'

Bydd eich plentyn yn cymryd profion cenedlaethol ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2. Bwriad y profion yw dangos a yw'ch plentyn yn gweithio ar yr un lefel, ar lefel uwch neu ar lefel is na'r lefel darged ar gyfer eu hoed.

Mae hyn yn helpu'r plentyn i gynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Mae hefyd yn golygu bod ysgolion yn gallu gweld a ydyn nhw'n dysgu plant mewn ffordd effeithiol, drwy gymharu perfformiad eu disgyblion â'r canlyniadau cenedlaethol.

Asesiadau athrawon, tasgau a phrofion yng Nghyfnod Allweddol 1

Bydd asesiad yr athro/athrawes ar gyfer plant saith oed yn cynnwys y canlynol:

  • darllen
  • ysgrifennu
  • siarad a gwrando
  • mathemateg
  • gwyddoniaeth

Mae'r asesiadau hyn yn ystyried perfformiad eich plentyn yn nhasgau Cyfnod Allweddol 1 ac yn y profion ar gyfer plant saith oed. Mae'r tasgau a'r profion yn delio â:

  • darllen
  • ysgrifennu (gan gynnwys llawysgrifen a sillafu)
  • mathemateg

Gellir cynnal y tasgau a'r profion unrhyw bryd, fel y dymuna'r ysgol. Ni fyddant yn para mwy na thair awr gyda'i gilydd. Ni cheir adroddiad ar y canlyniadau ar wahân ond fe'u defnyddir i helpu'r athrawon asesu gwaith eich plentyn. Erbyn iddynt gyrraedd saith oed, disgwylir i'r rhan fwyaf o blant gyrraedd lefel 2.

Bydd eich awdurdod lleol yn cysoni asesiadau athrawon. Pwrpas hyn yw sicrhau bod asesiadau'r athrawon o waith y plant yn gyson.

Profion ac asesiad athrawon yng Nghyfnod Allweddol 2

Ym Mhrofion Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer plant 11 oed, profir y canlynol:

  • Saesneg - darllen, ysgrifennu (gan gynnwys llawysgrifen) a sillafu
  • mathemateg - gan gynnwys mathemateg pen
  • gwyddoniaeth

Cynhelir y profion hyn ar ddiwrnodau penodol yng nghanol mis Mai, ac ni threulir mwy na phum awr a hanner i gyd ar y rhain.

Bydd asesiad yr athro/athrawes yn cynnwys:

  • Saesneg
  • mathemateg
  • gwyddoniaeth

Erbyn iddynt gyrraedd 11 oed, disgwylir i'r rhan fwyaf o blant gyrraedd lefel 4.

Asesiadau athrawon yng Nghyfnod Allweddol 3

Bydd asesiad yr athro/athrawes ar gyfer plant 14 oed yn cynnwys y canlynol:

  • Saesneg
  • mathemateg
  • gwyddoniaeth
  • hanes
  • daearyddiaeth
  • ieithoedd tramor modern
  • dylunio a thechnoleg
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
  • celf a dylunio
  • cerddoriaeth
  • addysg gorfforol
  • dinasyddiaeth
  • addysg grefyddol

Erbyn iddynt gyrraedd 14 oed, disgwylir i'r rhan fwyaf o blant gyrraedd lefel 5.

Adroddiad ysgol eich plentyn

Mae'n bosib y bydd canlyniadau'r profion ac asesiadau'r athrawon yn wahanol, ac mae'n bwysig edrych ar y ddau er mwyn cael golwg gyflawn ar gynnydd eich plentyn. Er enghraifft, mae'n bosib bod athro/athrawes yn teimlo bod eich plentyn yn gwneud yn well mewn pwnc drwyddo draw nag y mae yng ngwahanol elfennau'r pwnc a brofir mewn prawf.

Ar ddiwedd pob cyfnod allweddol, byddwch yn cael adroddiad gan yr ysgol yn dweud wrthych:

  • beth yw canlyniadau profion eich plentyn (ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3 yn unig)
  • beth yw lefel eich plentyn yn ôl asesiad yr athro/athrawes
  • beth yw canlyniadau holl blant grŵp oedran eich plentyn yn yr ysgol
  • beth yw'r canlyniadau cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn flaenorol

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU