Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed

Pan fydd eich plentyn rhwng 11 ac 16 oed, bydd yn symud drwy Gyfnodau Allweddol 3 a 4. Nid oes dim profion cenedlaethol ym Mlwyddyn 9. Yn ystod Cyfnod Allweddol 4 bydd y rhan fwyaf yn gweithio tuag at gymwysterau cenedlaethol – TGAU fel rheol.

Cyfnod Allweddol 3 a'r Cwricwlwm Cenedlaethol

Bydd plant sy'n mynychu un o ysgolion y wladwriaeth pan fyddant rhwng 11 ac 14 oed (Blynyddoedd 7 i 9), yn dilyn Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Pynciau gorfodol Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol yw:

  • Saesneg
  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth
  • Dylunio a thechnoleg
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
  • Hanes
  • Daearyddiaeth
  • Ieithoedd tramor modern
  • Celf a dylunio
  • Cerddoriaeth
  • Dinasyddiaeth
  • Addysg gorfforol

Rhaid i ysgolion hefyd ddarparu:

  • Addysg a chyfarwyddyd ynglŷn â gyrfa (yn ystod Blwyddyn 9)
  • Addysg Rhyw a Chydberthynas
  • Addysg grefyddol

Gall rhieni ddewis atal eu plentyn rhag cymryd rhan yn y cwricwlwm addysg grefyddol ac yn elfennau anstatudol Addysg Rhyw a Chydberthynas, naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl. Gweler yr adran ar 'Addysg Rhyw a Chydberthynas ac addysg grefyddol' isod.

Yn dibynnu ar yr ysgol, gallai eich plentyn hefyd gael gwersi Addysg Iechyd, Bersonol a Chymdeithasol (AIBCh).

Dewisiadau Blwyddyn 9

Yn ystod Blwyddyn 9, bydd eich plentyn yn dewis pa bynciau y bydd yn eu hastudio yng Nghyfnod Allweddol 4. Bydd eu hastudiaethau yn nifer o'r pynciau hyn yn arwain at gymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, megis TGAU.

Bydd angen iddynt ddewis pynciau y maent yn eu mwynhau ac yn gwneud yn dda ynddynt, ond dylent hefyd geisio cael cydbwysedd rhwng y pynciau – bydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau iddynt pan ddaw'n amser penderfynu ar gyrsiau a swyddi yn y dyfodol.

Bydd yr ysgol yn rhoi gwybodaeth i chi am opsiynau ym Mlwyddyn 9. Efallai y bydd eich plentyn yn falch o drafod yr opsiynau hyn gyda chi.

Cyfnod Allweddol 4

Fel arfer, bydd disgyblion ym Mlwyddyn 10 ac 11 rhwng 14 ac 16 oed. Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4, bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn sefyll arholiadau cenedlaethol – TGAU fel rheol. Bydd eich plentyn hefyd yn cael dewis o amrywiaeth gynyddol o gymwysterau galwedigaethol

Yng Nghyfnod Allweddol 4, bydd eich plentyn yn astudio cyfuniad o bynciau gorfodol a dewisol. Dyma'r pynciau y bydd yn rhaid iddynt eu hastudio:

  • Saesneg
  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
  • Addysg gorfforol
  • Dinasyddiaeth

Yn ogystal â hyn, mae'n rhaid i ddisgyblion ymgymryd â dysgu sy'n gysylltiedig â gwaith ac addysg gyrfaoedd. Rhaid i ysgolion hefyd gynnig addysg grefyddol, Addysg Rhyw a Chydberthynas ac o leiaf un pwnc o bob un o'r meysydd 'hawl a haeddiant'.

Dyma’r meysydd hawl a haeddiant:

  • Pynciau'r Celfyddydau
  • Dylunio a thechnoleg
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd tramor modern

Addysg Rhyw a Chydberthynas ac addysg grefyddol

Addysg Rhyw a Chydberthynas

Mae Addysg Rhyw a Chydberthynas yn ymwneud â dysgu gydol oes am ddatblygiad corfforol, moesegol ac emosiynol. Mae’n golygu dysgu am ryw, rhywioldeb ac iechyd rhywiol, ac am bwysigrwydd perthnasoedd sefydlog a chariadus, a phriodas ar gyfer bywyd teuluol. Nid yw’n hyrwyddo unrhyw gyfeiriadedd rhywiol na gweithgarwch rhywiol penodol.

Rydych chi’n ganolog i’r modd mae eich plentyn yn dysgu am ryw a pherthnasoedd – bwriad Addysg Rhyw a Chydberthynas yw ategu eich rôl chi yn hyn o beth. Bydd ysgolion yn datblygu eu rhaglenni Addysg Rhyw a Chydberthynas eu hunain, gan ystyried gofynion statudol a chanllawiau'r llywodraeth – dylech chithau gael dweud eich barn hefyd. Anogir ysgolion i gysylltu â rhieni pan fyddant yn datblygu neu'n diweddaru eu rhaglen Addysg Rhyw a Chydberthynas.

Dylai bod copi o bolisi Addysg Rhyw a Chydberthynas yr ysgol ar gael i chi ei archwilio. Os oes gennych chi unrhyw bryderon yn ei gylch, trafodwch nhw gydag aelod o staff. Os nad ydych yn hapus, gallwch atal eich plentyn rhag cymryd rhan yn y rhaglen Addysg Rhyw a Chydberthynas, naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl. Allwch chi ddim atal eich plentyn rhag cymryd rhan yn yr elfennau statudol sy’n rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer gwyddoniaeth.

Addysg Grefyddol

Bydd cwricwlwm ysgol ar gyfer addysg grefyddol yn cael ei lunio’n lleol – naill ai gan yr ysgol ei hun, neu gan gorff sy’n cynnwys cynrychiolwyr o ysgolion cyfagos, athrawon a grwpiau ffydd. Mae gan rieni hawl i atal eu plant rhag cymryd rhan yn y cwricwlwm addysg grefyddol, naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl.

Adolygiad o'r cwricwlwm ar gyfer plant 11-16 oed

Ym mis Medi 2007, cyhoeddwyd cwricwlwm uwchradd newydd, gyda'r nod o roi mwy o hyblygrwydd i ysgolion. Nod y cwricwlwm newydd yw:

  • lleihau cynnwys pynciau gorfodol
  • rhoi mwy o ryddid ac amser i athrawon bersonoli eu dull addysgu drwy gynnig gwersi dal-i-fyny mewn meysydd sylfaenol, a chreu cyfleoedd i bob disgybl ddyfnhau ac ymestyn ei ddysgu
  • datblygu ffocws cryfach ar ddatblygu nodweddion personol a sgiliau byw ymarferol
  • helpu athrawon i wneud cysylltiadau rhwng y pynciau ac edrych ar y cwricwlwm yn ei gyfanrwydd

Mae’r cwricwlwm Cyfnod Allweddol 3 newydd yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o dair blynedd. Daeth yn orfodol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 ym mis Medi 2008. O fis Medi 2009 ymlaen, bydd yn berthnasol i bob disgybl Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8, ac o fis Medi 2010 ymlaen bydd yn berthnasol ar draws Blynyddoedd 7, 8 a 9. Cyflwynir newidiadau i gwricwlwm Cyfnod Allweddol 4 o fis Medi 2009 ymlaen.

I gael mwy o wybodaeth am y cwricwlwm uwchradd newydd, ewch i wefan yr Asiantaeth Datblygu Cymwysterau a Chwricwlwm (QCDA).

Newidiadau i addysg pobl ifanc 14 i 19 oed: Diplomâu newydd

Fel rhan o waith diwygio'r cwricwlwm i bobl ifanc 14 i 19 oed, o fis Medi 2008 ymlaen, cyflwynir cymhwyster Diploma newydd ochr yn ochr â TGAU a Safon Uwch mewn rhai ysgolion a cholegau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU