Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd y pynciau a’r cymwysterau y byddwch yn eu hastudio ym Mlwyddyn 10 ac 11 yn effeithio ar sut y byddwch yn treulio'ch amser yn ystod eich dwy flynedd nesaf yn yr ysgol. Gallai hefyd eich paratoi ar gyfer yr yrfa neu gwrs coleg rydych am ei ddilyn yn nes ymlaen.
Gall dewis pa bynciau a chymwysterau i'w hastudio ym Mlwyddyn 10 a Blwyddyn 11 fod yn eithaf brawychus. Peidiwch â chyffroi! Mae llawer o wybodaeth a chyngor i'ch helpu i ddewis beth sy'n iawn ar eich cyfer chi.
Mae gwefan 'Which way now?' yn lle da i ddechrau. Ceir cylchgrawn 'Which way now?' hefyd - gallwch ei lwytho oddi ar y wefan.
Er mwyn eich helpu i benderfynu ar yr hyn rydych am ei astudio ym Mlwyddyn 10 ac 11, gofynnwch i chi'ch hun i ddechrau beth rydych yn mwynhau ei wneud a'r hyn rydych yn gallu ei wneud yn dda.
Meddyliwch am:
Mae rhai pynciau mor bwysig fel bod yn rhaid i bawb eu dilyn, ond bydd gennych lawer o ddewisiadau ym Mlwyddyn 9.
Mae mwy i Flwyddyn 10 ac 11 na dim ond TGAU. Dysgir pynciau mewn gwahanol ffyrdd, ac mae'n bosibl y bydd un ffordd yn fwy addas i chi na'r lleill.
Gan ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn eich ysgol, mae'n bosib y gallwch gwneud cyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith megis Prentisiaethau Ifanc, neu gyrsiau mewn Sgiliau Allweddol megis Saesneg a mathemateg.
Mae rhai ysgolion a cholegau hefyd yn cynnig cymwysterau Diploma newydd ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed.
Sut y cewch eich asesu?
Mae'n debygol iawn y bydd yn rhaid i chi sefyll o leiaf un arholiad yn y rhan fwyaf o'ch pynciau, ond bydd nifer ohonynt hefyd yn rhoi cyfle i chi wneud gwaith cwrs a fydd hefyd yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol. Nid yw rhai pynciau'n ymwneud yn gyfan gwbl â gwaith ysgrifennu, a byddant yn rhoi cyfle i chi wneud asesiadau ymarferol hefyd. Fyddai hynny'n addas i chi?
Chi biau’r dewisiadau, ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn chwilio am gyngor ar benderfyniadau pwysig. Mae digon ar gael, ond dylech ymchwilio i bob dewis cymaint ag y gallwch eich hun.
Fwy na thebyg mai eich rhieni, gofalwyr, teulu a ffrindiau sy’n eich adnabod orau, felly gall siarad â hwy eich helpu i benderfynu ar yr hyn a allai fod yn addas i chi. Ond cofiwch na fydd ganddynt bob amser lawer o wybodaeth am yrfaoedd neu gyrsiau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Os ydych chi’n anelu i fynd ar drywydd cwrs gyrfa neu goleg penodol, daliwch ati, hyd yn oed os yw hynny'n golygu dilyn llwybr gwahanol i ffrindiau ac aelodau o'ch teulu.
Pobl yn yr ysgol
Gall llawer o bobl yn yr ysgol helpu:
Connexions
Mae Connexions yn cynnig gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc ar amrywiaeth o faterion, yn cynnwys gyrfaoedd:
Os ydych yn ystyried mynd i brifysgol neu goleg pan fyddwch yn 18 oed, ceir llawer o wybodaeth yn ‘Don’t stop doing what you love’ – canllaw Aimhigher i bobl ifanc ym Mlwyddyn 9.
Gallwch lawrlwytho copi isod, neu archebu un:
Nodwch y cyfeirnod ‘PRE1609’. Gellir cael copïau mewn Braille, mewn print bras neu ar dâp sain.