Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Bywyd yn yr ysgol: datrys problemau, cael cyngor

Bydd pawb yn cael problemau ar ryw adeg. Os oes gennych broblem yn yr ysgol, yn aml iawn, siarad â rhywun yw'r cam cyntaf tuag at ei datrys. Gall problemau yr ydych yn eu cadw i chi'ch hun ymddangos yn fwy o lawer nag yr ydynt mewn gwirionedd.

Problemau yn yr ysgol: â phwy y dylech siarad

Gall siarad â rhywun eich helpu i edrych ar bethau mewn goleuni gwahanol. Mae siarad â'ch rhieni, eich gofalwyr, eich athrawon neu'ch ffrindiau yn lle da i ddechrau. Efallai y gallant eich helpu i ddatrys y broblem, neu argymell ateb nad oeddech chi wedi meddwl amdano.

Connexions Direct

Gallwch gael cyngor cyfrinachol am ddim gan gynghorydd Connexions Direct.

  • Ffoniwch gynghorydd: 08080 013 219

Gallwch hefyd gysylltu â nhw dros yr e-bost, drwy sgwrsio ar y we neu anfon neges destun drwy wefan Connexions Direct.

Cymorth o ran perthynas ag eraill

Yn aml, gall perthynas ag eraill fod yn bwnc dyrys i siarad yn eu cylch. Gall problemau o ran perthynas ag eraill effeithio ar eich bywyd ysgol, felly mae'n bwysig eich bod yn gwneud rhywbeth amdanynt cyn iddynt fynd allan o reolaeth.

Ceir llawer o wybodaeth a chyngor ar y we. Mae adran 'Teulu a Pherthynas ag Eraill' Cross & Stitch yn lle da i ddechrau.

Bwlio

Does neb yn haeddu cael eu bwlio. Dydy bwlio ddim bob amser yn golygu brifo corfforol - gall rhywun gael ei fwlio mewn amryw o ffyrdd.

Os ydych chi'n poeni am fwlio yn yr ysgol, dilynwch y ddolen isod i gael help a chyngor ynghylch sut i roi terfyn arno.

Problemau iechyd

Nid yn unig mae iechyd yn bwysig ar gyfer eich lles yn gyffredinol - gall hefyd effeithio ar eich bywyd yn yr ysgol. Er enghraifft, ceir mwy a mwy o dystiolaeth y gallai bwyta deiet iach eich helpu i astudio'n well.

Dilynwch y ddolen isod i gael cyngor ar bopeth o brydau bwyd iach a chadw'n heini, i aros yn ddiogel yn yr haul a chofrestru â meddyg.

Poeni am gyffuriau?

Os ydych chi'n poeni am eich problem gyffuriau bersonol chi, neu os ydych chi'n adnabod rhywun sy'n camddefnyddio cyffuriau, mae'n bwysig gwybod y ffeithiau.

Gallwch gael cyngor cyfrinachol am ddim gan linell gymorth a gwefan Talk to FRANK.

  • Talk to FRANK: 0800 77 66 00

Ymdopi â gwaith cwrs a straen arholiadau

Gall adolygu ar gyfer arholiadau neu gwblhau aseiniadau gwaith cwrs fod yn straen.

Dyma awgrymiadau fel nad yw pethau'n mynd yn drech na chi:

  • trefnwch eich amser
  • cadwch yn iach
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o gwsg
  • peidiwch â gadael eich gwaith na'ch gwaith adolygu tan y munud olaf

Allweddumynediad llywodraeth y DU