Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dewis pynciau ar gyfer blynyddoedd 10 ac 11: beth sy’n orfodol a beth sy’n ddewisol

Ym Mlynyddoedd 10 ac 11, mae rhai pynciau y mae'n rhaid i chi eu dilyn (pynciau 'gorfodol') a rhai pynciau y cewch eu dewis (pynciau 'dewisol'). Siaradwch â'ch rhieni, eich gofalwyr, eich athrawon a chynghorwyr Connexions i'ch helpu i benderfynu pa bynciau sy'n addas i chi.

Gwneud dewisiadau

Wrth ddewis pa bynciau i’w hastudio ym Mlynyddoedd 10 ac 11, meddyliwch pa bynciau y byddwch yn eu mwynhau fwyaf a pha bynciau y byddwch yn gwneud yn dda ynddynt.

Mae llawer o wybodaeth a chyngor ar gael i'ch helpu i wneud eich penderfyniad – ewch i 'Eich Dewisiadau ym Mlwyddyn 9' i gael manylion.

Dewis pynciau ar gyfer gyrfa

Os oes gennych yrfa benodol mewn golwg, mae'n werth holi a oes unrhyw bynciau y mae angen i chi eu cymryd. Fodd bynnag, mae’n syniad da cadw'ch opsiynau'n agored drwy ddewis amrywiaeth eang o bynciau eraill.

Beth sy'n orfodol?

Mae rhai pynciau’n orfodol oherwydd eu bod yn ymdrin â gwybodaeth a sgiliau hanfodol y mae ar bawb eu hangen yn y dyfodol.

Bydd yn rhaid i chi sefyll arholiadau yn y pynciau canlynol:

  • Saesneg
  • mathemateg
  • gwyddoniaeth

Fel arfer, mae hyn yn golygu TGAU, ond efallai y bydd y pynciau hyn ar gael ar lefel mynediad hefyd.

Mae rhai pynciau eraill y bydd yn rhaid i chi eu hastudio, ond mae'n bosib na fyddant yn arwain at arholiadau:

  • addysg gyrfaoedd
  • dinasyddiaeth
  • technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh)
  • addysg gorfforol
  • astudiaethau crefyddol
  • addysg rhyw a chydberthynas
  • dysgu sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae gan rai ysgolion bynciau gorfodol eraill – holwch eich athrawon.

Beth sy'n ddewisol?

Bydd y pynciau dewisol y cewch eu hastudio ym Mlynyddoedd 10 ac 11 yn amrywio o ysgol i ysgol. Bydd eich athrawon yn dweud wrthych pa bynciau sydd ar gael – bydd rhai ysgolion yn rhoi'r wybodaeth hon ar eu gwefan.

Fodd bynnag, rhaid i'ch ysgol ddarparu o leiaf un cwrs ym mhob un o'r pedwar maes isod ar eich cyfer. Dyma'r pedwar maes ‘hawl a haeddiant’:

  • y celfyddydau (gan gynnwys celf a dylunio, cerddoriaeth, dawns, drama a chelfyddydau'r cyfryngau)
  • dylunio a thechnoleg
  • dyniaethau (hanes a daearyddiaeth)
  • ieithoedd tramor modern

Er ei bod yn rhaid i'ch ysgol gynnig o leiaf un cwrs ym mhob un o'r meysydd hyn, eich penderfyniad chi fydd dewis a ydych am eu hastudio ai peidio.

Dyma bynciau eraill a allai fod ar gael i chi ddewis o'u plith:

  • astudiaethau busnes
  • peirianneg
  • iechyd a gofal cymdeithasol
  • hamdden a thwristiaeth
  • sgiliau ar gyfer gwaith a sgiliau bywyd
  • gweithgynhyrchu
  • gwyddorau cymdeithasol

Mae'n bosib bod enwau gwahanol ar y pynciau hyn yn eich ysgol chi.

Cyngor ar ddewis pynciau

Gallwch ddod o hyd i gyngor ar ddewis pynciau ar wefan Connexions Direct.

Pa gyrsiau allwch chi eu dilyn?

Bydd modd i chi ddewis o blith nifer cynyddol o gyrsiau pan fyddwch yn 14 oed.

Eto, dylech holi pa rai o’r rhain sydd ar gael yn eich ysgol chi – ni fydd pob ysgol yn cynnig yr un dewisiadau.

Fe allwch weld beth yn union sydd ar gael i chi wrth edrych ar eich prosbectws ardal lleol, sydd ar gael ar-lein.

Cymwysterau Lefel Mynediad

Gallwch gymryd y rhain cyn gwneud TGAU neu ochr yn ochr â hwy. Maent ar gael mewn ystod eang o bynciau felly fe allant eich helpu i symud ymlaen at gymwysterau eraill.

TGAU

Yn ogystal â TGAU mewn pynciau traddodiadol, gallwch hefyd ddewis TGAU cysylltiedig â gwaith neu gwrs TGAU byr.

Sgiliau Allweddol a Sgiliau Ymarferol

Mae Sgiliau Allweddol yn sgiliau hanfodol a fydd yn eich helpu i lwyddo wrth astudio, wrth wneud gwaith hyfforddi ac mewn bywyd. Maent yn ymdrin â chyfathrebu, gweithio gydag eraill, datrys problemau, sgiliau rhif a mwy. Gallwch astudio'r rhain fel cymwysterau a gydnabyddir, ynghyd â’ch cymwysterau eraill.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd sgiliau iaith, mathemateg a TGCh (‘Sgiliau Ymarferol’) yn dod yn rhan o bob cymhwyster, gan gynnwys TGAU, Diplomâu a Phrentisiaethau. Bydd hefyd yn bosib i Sgiliau Ymarferol fod yn gymwysterau ar eu pen eu hunain.

Cymwysterau galwedigaethol

Bydd rhai ysgolion yn cynnig cymwysterau galwedigaethol. Mae'r rhain yn rhoi i chi sgiliau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â byd gwaith.

Prentisiaethau Ifanc

Efallai y gallwch hefyd gael profiad gwaith drwy'r cynllun Prentisiaethau i Bobl Ifanc. I gael gwybod mwy, ewch i ‘Profiad Gwaith ym Mlwyddyn 10 ac 11’.

mae’r Diploma newydd ar gael bellach mewn ysgolion a cholegau dethol

Cymhwyster Diploma Newydd

Mae ysgolion a cholegau dethol o amgylch y wlad hefyd yn cynnig y cymhwyster Diploma newydd ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed.

Mae’r Diploma yn ffordd ymarferol o ennill y wybodaeth a’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer coleg, prifysgol neu waith.

Cael y cydbwysedd cywir

Ar ôl i chi weld pa opsiynau sydd ar gael yn eich ysgol chi, mae'n amser dod o hyd i gydbwysedd o bynciau a chymwysterau sy'n addas i chi.

Cofiwch ei fod yn syniad da cadw'ch dewisiadau'n agored drwy ddewis amrywiaeth eang o bynciau. Ond bydd angen i chi hefyd wneud yn siŵr eich bod yn gallu ffitio popeth yn eich amserlen, a’ch bod wedi ystyried a oes unrhyw bynciau a fydd yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer eich cynlluniau yn y dyfodol.

Bydd eich athrawon, eich rhieni/gofalwyr, y cydgysylltydd gyrfaoedd neu gynghorydd personol Connexions yn gallu rhoi cyngor i chi ynghylch sut i gael y cydbwysedd iawn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU