Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymwysterau lefel mynediad

Os ydych chi'n dymuno cael cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, ond nad ydych yn teimlo'n barod am TGAU neu gymwysterau cyfwerth, efallai y byddai tystysgrif lefel mynediad yn briodol i chi. Maent ar gael mewn amrywiaeth eang o bynciau.

Beth ydyn nhw

Gall cymwysterau lefel mynediad eich helpu i adeiladu sgiliau, cynyddu eich gwybodaeth a rhoi hwb i'ch hyder. Gelwir y rhain yn 'dystysgrifau' neu'n 'ddyfarniadau', ac maent ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Nid oes unrhyw ofynion mynediad.

Gallant fod yn addas os nad ydych yn barod i ddilyn cymwysterau mewn un neu fwy o feysydd dysgu ar lefel 1 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

Gallent hefyd fod yn briodol os nad oes gennych gymwysterau traddodiadol, neu os ydych heb fod yn dysgu ers amser maith. Gallech hefyd ddewis dilyn un i archwilio pwnc sydd o ddiddordeb i chi.

Pynciau sydd ar gael

Mae dros 100 o dystysgrifau lefel mynediad ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • pynciau traddodiadol megis Saesneg, gwyddoniaeth a mathemateg
  • meysydd sgiliau megis llythrennedd, rhifedd a sgiliau byw
  • pynciau galwedigaethol cyffredinol sy'n rhoi cyflwyniad bras i chi i fyd gwaith
  • pynciau galwedigaethol penodol sy'n rhoi gwybod i chi am faes gwaith penodol, megis adwerthu, trin gwallt neu ymarfer swyddfa

Gallwch chwilio ar-lein am gyrsiau lefel mynediad yn eich ardal chi ar Cross & Stitch.

Pryd a lle y gallwch ddilyn y cyrsiau

Gallwch astudio tystysgrifau lefel mynediad ar gyflymder sy'n gweddu i chi; nid oes amser penodol pryd y cewch eu dilyn. Os dewiswch dystysgrifau yn un o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn yr ysgol, fel arfer byddant yn cymryd blwyddyn neu ddwy i'w cwblhau ym Mlwyddyn 10 neu 11 (14 i 16 oed).

Mae cymwysterau lefel mynediad ar gael mewn nifer o wahanol leoliadau dysgu. Yn aml, cânt eu hastudio mewn colegau addysg bellach neu ysgolion, ond gallant hefyd fod ar gael:

  • yn y gweithle
  • mewn lleoliadau cymunedol drwy waith gwirfoddol
  • mewn carchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc
  • mewn lleoliadau preswyl neu ofal dydd

Sut cewch chi eich asesu

Mae cymwysterau lefel mynediad yn cynnwys nifer o unedau, ac asesir pob un ar wahân. Golyga hyn y caiff eich cyraeddiadau eu cydnabod ar bob cam, wrth i chi gwblhau pob uned.

Cewch eich asesu ar gyfuniad o brofion, aseiniadau a thasgau. Gall y rhain fod yn ysgrifenedig, ar lafar neu'n ymarferol.

Yn aml, byddwch hefyd yn cynhyrchu portffolio sy'n dangos tystiolaeth o'r hyn yr ydych wedi'i gyflawni. Gall gynnwys pethau fel datganiadau tystion (adroddiad am eich perfformiad yn ysgrifenedig neu ar lafar), fideo, sain a lluniau. Asesir hyn gan athrawon yn eich ysgol neu ganolfan ddysgu.

Bydd gwahanol bynciau a chyrsiau'n amrywio o ran strwythur, cynnwys a nifer yr unedau. Wedi i chi gwblhau pob uned, cewch y dystysgrif lawn.

Astudio ar lefel sy'n addas i chi

Gallwch ddilyn cymwysterau lefel mynediad ar dair gwahanol lefel:

  • mynediad 1
  • mynediad 2
  • mynediad 3

Mae'r lefelau hyn yr un fath yn fras â lefelau 1, 2 a 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Y 'lefel mynediad' yw'r lefel gyntaf ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.

Ail-sefyll

Cewch ddewis ail-sefyll unedau unigol unrhyw bryd.

Apeliadau

Os nad ydych yn hapus â'r canlyniad a gawsoch mewn uned benodol, siaradwch â'ch athro yn eich ysgol neu fan dysgu. Os ydych chi'n dal i fod yn anfodlon, gallwch gysylltu â'r corff dyfarnu penodol sy'n cynnig y dystysgrif yr ydych yn ei dilyn.

Ble gallant eich arwain

Gallwch symud ymlaen o un lefel mynediad i'r nesaf. Ar lefel mynediad 3, mae'r cymwysterau wedi'u dylunio i'ch helpu i symud ymlaen i gymwysterau perthynol ar lefel 1 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, megis:

  • TGAU
  • Sgiliau Allweddol
  • Sgiliau Byw
  • NVQs
  • Dyfarniadau, Tystysgrifau neu Ddiplomâu BTEC Cyflwyniadol neu BTEC Lefel 1

Gallant hefyd arwain at ddysgu yn y gweithle (megis Prentisiaeth) neu'n syth i mewn i swydd.

Cymorth a chyngor

Siaradwch â'ch athro neu cysylltwch â'ch coleg lleol am yr amrywiaeth o gymwysterau lefel mynediad sydd ar gynnig.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd ynglŷn â chyrsiau.

  • llinell gymorth Cyngor Gyrfaoedd: 0800 100 900


Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU