Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Safon Uwch a Safon UG

Os hoffech astudio pwnc penodol yn fanwl, efallai y bydd cymwysterau Safon UG a Safon Uwch yn addas i chi. Maent yn cael eu hystyried yn bwysig iawn gan ysgolion, colegau a chyflogwyr.

Safon UG a Safon Uwch: beth ydyn nhw

Mae cymwysterau Safon UG (Uwch Gyfrannol) a Safon Uwch yn canolbwyntio ar sgiliau astudio traddodiadol. Fel arfer, byddant yn cymryd dwy flynedd i'w cwblhau ar sail amser llawn, er eu bod hefyd ar gael i'w hastudio ar sail rhan-amser.

Gallwch ddewis o amrywiaeth eang o bynciau academaidd, yn ogystal â rhai pynciau 'cymwysedig' (cysylltiedig â gwaith).

Mae cyrsiau Safon UG a Safon Uwch ar lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.

Pa lwybrau fydd yn agored i chi

Cymwysterau Safon Uwch a Safon UG yw un o'r prif lwybrau i addysg uwch, ond maent hefyd yn ddefnyddiol os ydych am fynd i weithio ar unwaith, megis gwaith gweinyddol mewn swyddfa neu gyfrifydd dan hyfforddiant.

Safon Uwch: UG ac A2

Mae'r cyrsiau Safon Uwch yn cynnwys y cwrs Safon UG a'r A2. Mae'r ddwy ran yn 50 y cant o gyfanswm y radd Safon Uwch.

Safon UG

Gall y cwrs Safon UG fod yn gymhwyster sy'n sefyll ar ei ben ei hun, neu gellir ei ystyried yn hanner cyntaf y cwrs Safon Uwch llawn.

Ar ddiwedd blwyddyn Safon UG, bydd gennych ddau ddewis (yn dibynnu ar ddewis eich ysgol neu'ch coleg):

  • dilyn y cymhwyster Safon UG yn unig

neu:

  • barhau i'r ail flwyddyn a mynd am y Safon Uwch llawn

Blwyddyn dau: yr A2

Ym mlwyddyn dau cwrs Safon Uwch llawn, byddwch yn dilyn yr A2 - nid cymhwyster ar wahân yw hwn, ond ail hanner y cwrs Safon Uwch. Mae'r A2 wedi'i gynllunio i edrych yn ddyfnach ar yr wybodaeth a gawsoch yn ystod Safon UG.

Gwireddu eich llawn botensial

Os gwnaethoch ddechrau eich cymwysterau Safon Uwch ar ôl mis Medi 2008, gallwch hefyd ddewis gwneud y prosiect estynedig. Mae hyn yn cyfateb i hanner cymhwyster Safon Uwch ac yn golygu bod yn rhaid i chi lunio un darn o waith o'ch dewis chi, yn dangos tystiolaeth o gynllunio, paratoi, ymchwilio a gweithio ar eich pen eich hun.

Os ydych yn sefyll eich arholiadau A2 cyn mis Mehefin 2009, ac yn disgwyl cael gradd A mewn cwrs Safon Uwch, efallai y byddai'n werth i chi ystyried cyflawni Dyfarniad Uwch Estynedig (DUE). Mae'r rhain ar gael mewn 19 o bynciau gwahanol.

Cynhelir yr arholiadau DUE diwethaf ym mis Mehefin 2009.

Pwy all eu dilyn

Mae nifer o fyfyrwyr yn dilyn cymwysterau Safon Uwch ac UG ym Mlynyddoedd 12 a 13, ar ôl cwblhau eu cyrsiau TGAU. Fodd bynnag, caiff oedolion eu dilyn hefyd.

Mae rhai ysgolion hefyd yn cynnig cyrsiau Safon UG mewn rhai pynciau penodol ar gyfer myfyrwyr galluog a thalentog ym Mlynyddoedd 10 ac 11 (14 i 16 mlwydd oed).

Gofynion mynediad

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i chi fod wedi pasio o leiaf pum pwnc TGAU gyda graddau A*-C. Weithiau, bydd arnoch angen TGAU gradd B neu uwch mewn pwnc penodol er mwyn ei ddilyn ar lefel Safon UG neu Safon Uwch.

Mae rhai ysgolion a cholegau hefyd yn gofyn bod gennych TGAU gradd C neu uwch mewn Saesneg a mathemateg.

Pynciau sydd ar gael

Mae oddeutu 80 o bynciau Safon UG a Safon Uwch ar gael. Gallwch barhau i astudio pynciau a gymerir ym Mlynyddoedd 10 ac 11 a/neu ddilyn rhai newydd.

Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer Safon Uwch yn dilyn tri neu bedwar Safon UG yn eu blwyddyn gyntaf. Golyga hyn y cewch fwy o ddewis o ran pa bynciau i'w hastudio ar gyfer Safon Uwch llawn.

Cyrsiau Safon Uwch Galwedigaethol

Hefyd, ceir amrywiaeth o gyrsiau Safon Uwch galwedigaethol, dan y teitl 'TAGau cymwysedig'.

Mae 10 pwnc, sy'n cynnig cyflwyniad eang i faes galwedigaethol megis busnes neu dwristiaeth.

Dewis pwnc Safon Uwch

Cyngor i bobl ifanc

I gael cyngor ar Safon UG a Safon Uwch ac ar gymwysterau eraill ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 13 a 19 oed, cysylltwch â Connexions Direct.

  • Ffoniwch gynghorydd: 080 800 13 2 19

Mae'r adran 'Dewisiadau yn 16 oed' yn cynnwys gwybodaeth am ddewisiadau ar ôl Blwyddyn 11. Gallwch hefyd edrych ar eich prosbectws lleol ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed i gael gweld pa gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yn eich ardal chi.

Cyngor i oedolion sy'n dysgu

Cael cyngor ar gymwysterau i oedolion sy'n dysgu gan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfa.

  • Llinell gymorth Cyngor Gyrfa: 0800 100 900

Sut cewch chi eich asesu

Yn y rhan fwyaf o bynciau, mae'r cymwysterau UG ac A2 yn cynnwys dwy uned, er bod tair uned mewn rhai pynciau.

Cânt eu hasesu'n bennaf ar sail arholiadau ysgrifenedig, er bod rhywfaint o waith cwrs mewn rhai pynciau. Ceir hefyd asesiad o sgiliau ymarferol mewn pynciau megis gwyddoniaeth neu gelf.

Graddau, marciau a 'setlo'

Graddau

Rhoddir graddau A-E am Safon UG a Safon Uwch. Dyfernir gradd A* am y tro cyntaf mewn Safon Uwch yn 2010. Cyhoeddir y canlyniadau ym mis Awst a mis Mawrth bob blwyddyn.

Marciau

Bydd eich papur canlyniadau hefyd yn dangos sgôr ar rywbeth a elwir yn 'raddfa marciau unffurf' (GMU). Caiff y cwrs Safon UG ei sgorio allan o 300 marc GMU, a'r cwrs Safon Uwch allan o 600 marc.

'Setlo'

Pan fyddwch wedi cwblhau tair uned y cwrs Safon UG, ac yn hapus gyda'ch dyfarniad, gadewch i'r bwrdd arholi wybod. Gelwir hyn yn 'setlo'. Os ydych chi'n anhapus, cewch ddewis ail-sefyll uned.

Os nad yw'r arholiad yn mynd yn dda

Os, ar ddiwrnod yr arholiad, y digwydd rhywbeth y tu hwnt i'ch rheolaeth i effeithio ar eich perfformiad, efallai y byddwch yn gymwys am ystyriaeth arbennig. Siaradwch â'ch athrawon cyn gynted ag sy’n bosibl.

Ail-sefyll arholiadau

Gallwch hefyd ddewis ail-sefyll unedau unigol (er bod terfynau amser yn bodoli, ac nid yw rhai ar gael ym mis Ionawr). Bydd y corff sy'n dyfarnu'n cyfri'r marc uchaf o'ch dau gynnig.

Ail-farcio ac ailgyfrif

Os credwch y gallai rhywbeth fod wedi mynd o'i le wrth farcio eich arholiad, gall eich ysgol neu goleg ofyn am ei ail-farcio neu ei ail-gyfrif.

Apeliadau

Os ydych chi'n dal yn anhapus, gall eich ysgol neu goleg apelio gerbron y corff sy'n dyfarnu, ac yna'n derfynol, os oes angen, gerbron y Bwrdd Apeliadau Arholiadau annibynnol.

Pwyntiau UCAS

Os ydych chi'n gwneud cais i brifysgol neu i goleg, mae cymwysterau Safon Uwch a Safon UG yn ennill y pwyntiau canlynol yn y 'Tariff UCAS':

Gradd Safon Uwch Safon UG
A* 140 amh
A 120 60
B 100 50
C 80 40
D 60 30
E 40 20


Fel arfer, bydd arnoch angen o leiaf dau gymhwyster Safon Uwch llawn neu gymwysterau cyfwerth er mwyn dilyn cwrs addysg uwch.

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU