Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n dymuno cael cymhwyster cydnabyddedig sy'n gysylltiedig â diwydiant neu sector penodol, efallai mai Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) yw'r peth i chi. Gallwch astudio ar gyfer NVQ yn eich gwaith, yn y coleg, neu fel rhan o Brentisiaeth.
Ystyr NVQ yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol. Mae'n gymhwyster sy'n 'seiliedig ar gymhwysedd': golyga hyn eich bod yn dysgu sut mae gwneud tasgau ymarferol sy'n gysylltiedig â gwaith, a hynny er mwyn eich helpu i feithrin sgiliau a gwybodaeth i wneud swydd yn effeithiol.
Mae NVQs yn seiliedig ar safonau cenedlaethol ar gyfer galwedigaethau gwahanol. Mae'r safonau'n dweud beth y mae disgwyl i berson sy'n gymwys mewn swydd allu ei wneud. Wrth i chi symud ymlaen drwy'r cwrs, rydych yn cymharu'ch sgiliau a'ch gwybodaeth gyda'r safonau hyn wrth i chi ddysgu, fel y gallwch weld beth y mae angen i chi ei wneud i gyrraedd y safonau hynny.
Gallai gwneud cwrs NVQ fod yn addas os oes gennych sgiliau'n barod, a'ch bod yn awyddus i'w gwella, neu os ydych yn dechrau o'r dechrau.
Mae NVQs ar lefelau 1 i 5 ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.
Cymwysterau galwedigaethol newydd
Rhwng nawr a diwedd 2010, mae cymwysterau newydd yn cael eu datblygu a fydd ymhen hir a hwyr yn cymryd lle cymwysterau galwedigaethol presennol. Fodd bynnag, bydd rhai o’r cymwysterau newydd hyn yn cadw’r enw ‘NVQs’ yn eu teitl. Bydd NVQs yn parhau i gael eu had eu cydnabod a’u gwerthfawrogi gan gyflogwyr.
I gael gwybod mwy ynghylch y cymwysterau newydd hyn, gweler ‘Cymwysterau galwedigaethol ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF)’.
Mae NVQs ar gael i oedolion a phobl ifanc fel ei gilydd. Gallwch ddilyn cwrs NVQ:
Gallwch hefyd ddilyn cymhwyster NVQ ar lefel 2 neu 3 fel rhan o Brentisiaeth. Mewn rhai achosion gallwch hefyd wneud NVQ os ydych yn yr ysgol.
Mae dros 1300 o gymwysterau NVQ ar gael. Maent ar gael yn y mwyafrif llethol o sectorau busnes, gan gynnwys:
Nid oes angen cwblhau NVQ o fewn amser penodol - o fewn rheswm. Mae cymwysterau NVQ wedi'u cynllunio fel y gallwch eu gwneud mewn amser sy'n cyd-fynd â'ch anghenion chi. Fodd bynnag, ryw flwyddyn y bydd yn ei chymryd i'r rhan fwyaf gwblhau NVQ lefel 1 a 2, a rhyw ddwy flynedd i gwblhau NVQ lefel 3.
Gallwch chwilio am gyrsiau NVQ yn eich ardal chi ar Cross & Stitch, gan gynnwys manylion unrhyw ofynion mynediad penodol.
Bydd NVQs yn cael eu hasesu ar sail aseiniadau ymarferol a phortffolio sy'n dangos tystiolaeth. Fel arfer, bydd asesydd cymwys yn eich arsylwi ac yn eich holi am y gwaith go iawn y byddwch yn ei wneud yn y gweithle (neu mewn amgylchedd gweithio realistig). Byddant yn profi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth yn ogystal â'r perfformiad ei hun.
Bydd eich asesydd yn llofnodi unedau unigol yn yr NVQ ar ôl i chi gyrraedd y safon ofynnol.
Fe'ch asesir ar y sail eich bod naill ai'n 'gymwys' neu 'ddim yn gymwys eto'.
Os nad ydych yn hapus â'r canlyniad a gawsoch mewn uned benodol, gallwch apelio i'r corff dyfarnu.
Gall cwblhau NVQ arwain at hyfforddiant pellach ar y lefel NVQ nesaf. Gallech ddal ati nes i chi gyrraedd NVQ lefel 5 ac/neu gymwysterau proffesiynol, fel arfer mewn maes tebyg.
Os ydych chi wedi astudio ar gyfer NVQ ar lefel 3, gallech hefyd fynd ymlaen i astudio ar gwrs addysg uwch mewn maes galwedigaethol perthnasol, fel:
I gael gwybod pwy sy'n cynnig NVQs yn eich ardal chi, beth am gael sgwrs â'ch
Gallwch hefyd gael cyngor am gymwysterau NVQ a chymwysterau eraill i oedolion sy'n dysgu gan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd.
Nod y GNVQs, neu Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol, oedd darparu cyflwyniad mwy cyffredinol i faes gwaith.
Cafodd GNVQs eu diddymu'n raddol rhwng 2005 a 2007. Yn hytrach na GNVQs, gallwch ddewis o ystod eang o gymwysterau galwedigaethol, fel cymwysterau BTEC, Cymwysterau Cenedlaethol OCR, a TGAU a TAGau mewn pynciau cymwysedig. Ceir cymwysterau galwedigaethol newydd ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF).