Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cymwysterau addysg uwch ydy graddau baglor, sy'n eich helpu i feithrin gwybodaeth drylwyr am bwnc. Mae nifer helaeth o bynciau i ddewis ohonynt.
Mae gradd baglor (a elwir weithiau'n radd 'gyffredin' neu'n radd 'gyntaf') yn gwrs o astudiaeth academaidd sy'n arwain at gymhwyster megis baglor yn y celfyddydau (BA), baglor yn y gwyddorau (BSc), neu faglor mewn meddygaeth (MB).
Fel arfer, bydd yn cymryd tair neu bedair blynedd i'w chwblhau ar sail amser llawn (pedair blynedd fel arfer os ydych yn dilyn rhyng-gwrs, sy'n cynnwys blwyddyn mewn diwydiant neu dramor). Gall graddau baglor mewn rhai pynciau gymryd mwy o amser; er enghraifft, fel arfer bydd cyrsiau meddygol yn cymryd pump neu chwech o flynyddoedd. Gallwch hefyd astudio ar gyfer gradd baglor ar sail ran-amser neu drwy ddilyn cynllun dysgu hyblyg.
Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio i roi dealltwriaeth drwyadl o bwnc i chi. Mae'n eich helpu i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi, eich sgiliau deallusol a'ch sgiliau ysgrifennu traethodau neu draethodau estynedig. Bydd gennych hefyd lawer mwy o gyfraniad o ran cyfeiriad eich dysgu nag a gawsoch o'r blaen.
Mae graddau baglor ar lefelau 'canolradd' ac 'anrhydedd' y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch. Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol gymwysterau addysg uwch yn cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.
Mae nifer helaeth o wahanol gyrsiau gradd baglor i ddewis ohonynt.
Mae rhai pynciau fel meddygaeth, y gyfraith a phensaernïaeth yn eich paratoi ar gyfer gyrfa benodol. Gall eraill, fel Saesneg neu hanes, roi sgiliau i chi ar gyfer amrywiaeth eang o swyddi.
I astudio ar gyfer gradd baglor, bydd angen i chi gael rhywfaint o gymwysterau blaenorol.
Mae'r Gwasanaeth Mynediad i Brifysgolion a Cholegau (UCAS) yn gweithredu system o'r enw 'Tariff UCAS'. Gall eich cymwysterau blaenorol ennill pwyntiau ar y tariff er mwyn cael lle ar gwrs addysg uwch penodol; bydd gwahanol gyrsiau'n gofyn am wahanol nifer o bwyntiau.
Mae'r rhan fwyaf o raddau baglor yn gofyn am o leiaf ddwy Safon Uwch ar radd E neu uwch (neu raddau cyfwerth mewn cymwysterau eraill).
I ganfod gofynion mynediad cwrs penodol, gallwch chwilio ar wefan UCAS, neu ddarllen prosbectws y cwrs - mae'r rhan fwyaf ohonynt bellach ar gael ar wefannau'r prifysgolion.
Bydd gwahanol gyrsiau'n eich asesu mewn gwahanol ffyrdd. Yn gyffredinol, mae graddau baglor yn cynnwys cymysgedd o arholiadau a gwaith cwrs. Bydd rhai'n gofyn i chi gynhyrchu traethawd estynedig ysgrifenedig ar ddiwedd y cwrs.
Caiff graddau baglor eu graddio fel a ganlyn:
Os cewch drydydd neu uwch, derbyniwch radd baglor gydag anrhydedd.
Os nad ydych chi'n hapus gyda'r radd a roddwyd i chi, a'ch bod yn dymuno apelio, bydd angen i chi ddilyn trefn apelio eich coleg neu brifysgol.
Mae cyrsiau gradd baglor yn dechrau drwy gydol y flwyddyn, ond mae'r rhan fwyaf yn dechrau ym mis Medi neu Hydref. Edrychwch ar brosbectysau unigol i ganfod dyddiadau dechrau cyrsiau penodol.
Cewch astudio am radd baglor mewn prifysgolion, mewn colegau addysg uwch a thrwy ddysgu o bell.
Mae'r rhan fwyaf o raddedigion yn defnyddio eu gradd baglor i symud i swydd neu broffesiwn. Gallech hefyd ddefnyddio'r cymhwyster i fynd ar gwrs ôl-radd mewn addysg uwch, megis diploma neu radd meistr.
I ddysgu mwy am gyrsiau gradd baglor, gan gynnwys sut i wneud cais, gweler yr adran 'Prifysgolion ac addysg uwch'.