Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gwahanol gymwysterau'n cael eu rhoi mewn grwpiau er mwyn cynrychioli gwahanol 'lefelau'. Gall hyn eich helpu chi (a chyflogwyr) i weld sut mae gwahanol gymwysterau'n cymharu â'i gilydd, a sut y gall un math o gymhwyster arwain at un arall.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ennill cymhwyster, gall ceisio dewis o'r amrywiaeth anferth sydd ar gael fod yn ddigon i godi braw ar rywun.
Peidiwch â chynhyrfu: mae digon o gymorth a chyngor ar gael i'ch helpu i ddewis cymhwyster sy'n addas ar eich cyfer chi.
I gael cyngor am ddysgu ac am gymwysterau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 13 a 19 mlwydd oed, cysylltwch â Connexions Direct.
Os ydych chi'n ystyried rhoi cynnig ar ennill cymhwyster addysg uwch, ceir llawer o gyngor a gwybodaeth yn yr adran 'Prifysgolion ac addysg uwch'.
Ceisiwch gyngor am gymwysterau ar gyfer oedolion sy'n dysgu gan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfa.
Efallai y clywch bobl yn sôn am 'lefelau' cymwysterau. Mae'r lefelau hyn wedi'u cynnwys mewn tri 'fframwaith' cymwysterau.
Mae'r fframweithiau yn grwpio cymwysterau tebyg yn ôl yr hyn a ddisgwylir gennych chi fel dysgwr. Fodd bynnag, hyd yn oed os ydynt ar yr un lefel, gall cymwysterau ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, a gall yr amser a gymerir i'w cwblhau amrywio hefyd.
Gall y fframweithiau eich helpu hefyd i weld sut y gall un math o gymhwyster arwain at gymwysterau eraill ar lefelau uwch.
Mae'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol yn nodi ar ba lefel y gosodir cymhwyster yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Dim ond cymwysterau sydd wedi'u hachredu gan y tri rheoleiddiwr dros Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y gellir eu cynnwys yn y Fframwaith. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl gymwysterau yn y fframwaith o safon uchel, a'u bod yn bodloni anghenion dysgwyr a chyflogwyr.
Lefel NQF |
Enghreifftiau o gymwysterau |
Yr hyn maent yn ei roi i chi |
---|---|---|
Mynediad |
- Tystysgrifau lefel mynediad - Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill - Sgiliau Bywyd - Sgiliau Gweithio ar y lefel mynediad (Saesneg, mathemateg a TGCh) |
- gwybodaeth a sgiliau sylfaenol - gallu defnyddio'r hyn a ddysgir mewn sefyllfaoedd bob dydd - ddim wedi'u hanelu at alwedigaethau penodol |
1 | - TGAU graddau D-G - Diplomâu a Thystysgrifau BTEC Cyflwyniadol - Cymwysterau Cenedlaethol OCR - Sgiliau Allweddol lefel 1 - Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) ar lefel 1 - Sgiliau Bywyd |
- gwybodaeth a sgiliau sylfaenol - gallu defnyddio'r hyn a ddysgir dan oruchwyliaeth neu dan arweiniad - gallai fod yn gysylltiedig â chymhwysedd mewn swydd |
2 | - TGAU graddau A* - C - Diplomâu a Thystysgrifau BTEC Cyntaf - Cymwysterau Cenedlaethol OCR - Sgiliau Allweddol lefel 2 - Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) ar lefel 2 - Sgiliau Bywyd |
- gwybodaeth a dealltwriaeth dda o bwnc - gallu cyflawni ystod o dasgau gyda rhywfaint o oruchwyliaeth neu arweiniad - addas ar gyfer amryw o swyddi |
3 | - Safon Uwch - Dyfarniadau Uwch Estynedig - TAG mewn pynciau cymwysedig - Bagloriaeth Ryngwladol - Sgiliau Allweddol lefel 3 - Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) ar lefel 3 - Diplomâu, Tystysgrifau a Dyfarniadau BTEC - Cymwysterau BTEC Cenedlaethol - Cymwysterau Cenedlaethol OCR |
- gallu meithrin gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth, a'u defnyddio'n fanwl - addas os ydych chi'n bwriadu mynd i'r brifysgol, gweithio'n annibynnol, neu (mewn rhai achosion) goruchwylio a hyfforddi eraill yn eu maes gwaith |
4 | - Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) ar lefel 4 - Diplomâu, Tystysgrifau a Dyfarniadau BTEC Proffesiynol |
- dysgu arbenigol, yn cynnwys dadansoddiad manwl o lefel uchel o wybodaeth mewn maes gwaith neu faes astudio - addas ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn swyddi technegol a phroffesiynol, ac/neu'n rheoli ac yn datblygu eraill |
5 | - Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNCs) a Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HNDs) - Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) - Diplomâu, Tystysgrifau a Dyfarniadau BTEC Proffesiynol |
- gallu edrych ar wybodaeth yn fanylach a chael mwy o ddealltwriaeth o faes gwaith neu faes astudio, er mwyn gallu ymateb i broblemau a sefyllfaoedd cymhleth - yn ymwneud â lefel uchel o arbenigedd a chymhwysedd ym maes gwaith wrth reoli a hyfforddi eraill - addas ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn swyddi proffesiynol, rheolwyr a thechnegwyr lefel uwch |
6 | - Diploma Genedlaethol mewn Sgiliau Cynhyrchu Proffesiynol - Diplomâu, Tystysgrifau a Dyfarniadau BTEC Proffesiynol Uwch |
- gwybodaeth lefel uchel, arbenigol, o faes gwaith neu faes astudio, i'ch galluogi i ddefnyddio'ch syniadau eich hun ac i ymchwilio er mwyn ymateb i broblemau a sefyllfaoedd cymhleth - addas ar gyfer pobl broffesiynol sy'n gweithio mewn meysydd sy'n dibynnu ar wybodaeth neu bobl sydd mewn swyddi rheoli proffesiynol |
7 | - Diploma mewn Cyfieithu - Diplomâu, Tystysgrifau a Dyfarniadau BTEC Proffesiynol Uwch |
- lefelau gwybodaeth cymhleth ac wedi'u datblygu i safon uchel, er mwyn eich galluogi i ddatblygu ymatebion gwreiddiol i broblemau a sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld - addas ar gyfer uwch weithwyr proffesiynol a rheolwyr |
8 | - dyfarniadau arbenigol |
- cyfle i feithrin dulliau gweithredu newydd a chreadigol sy'n ymestyn neu'n ailddiffinio gwybodaeth neu arfer proffesiynol sy'n bodoli eisoes - addas ar gyfer prif arbenigwyr neu ymarferwyr mewn maes penodol |
Mae’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau yn fframwaith newydd. Mae’n cynnwys cymwysterau galwedigaethol (neu gymwysterau sy’n gysylltiedig â gwaith) newydd sydd ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae’r cymwysterau hyn yn cynnwys unedau sy’n werth credydau. Gallwch astudio unedau yn ôl eich pwysau a chronni’r rhain yn gymwysterau llawn o feintiau gwahanol dros amser.
Mae unedau a chymwysterau hefyd yn amrywio o ran pa mor anodd ydynt, o lefel mynediad i lefel 8 (yn debyg i’r lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol).
Mae nifer o’r cymwysterau galwedigaethol newydd hyn ar gael yn barod. Bydd mwy yn cael eu hychwanegu at y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau rhwng nawr a 2010. I gael gwybod rhagor amdanynt, gweler ‘Cymwysterau galwedigaethol ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF)’.
Cynlluniwyd y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch gan y sector addysg uwch, ac mae'n disgrifio pob un o'r prif gymwysterau addysg uwch. Mae'n berthnasol i raddau, diplomâu, tystysgrifau a dyfarniadau academaidd eraill a roddir gan brifysgol neu goleg addysg uwch (ac eithrio graddau er anrhydedd ac uwch ddoethuriaethau).
Mae'r Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch yn fras gyfateb â lefelau 4 i 8 o'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, o ran y gofynion y mae'r cymwysterau'n eu rhoi ar ddysgwyr.
Lefel FHEQ |
Enghreifftiau o gymwysterau |
---|---|
Tystysgrif |
- tystysgrifau addysg uwch |
Canolradd |
- graddau sylfaen - graddau cyffredin (baglor) - diplomâu addysg uwch ac addysg bellach - diplomâu cenedlaethol uwch - diplomâu uwch eraill |
Anrhydedd |
- graddau baglor gydag anrhydedd - tystysgrifau graddedigion a diplomâu graddedigion |
Gradd Meistr |
- graddau meistr - tystysgrifau ôl-radd - diplomâu ôl-radd |
Doethur |
- doethuriaethau |
Gallwch chwilio am gymhwyster achrededig ar y Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig.
Mae’r llywodraeth a rheoleiddwyr cymwysterau yn ystyried gwneud newidiadau i’r fframweithiau cymwysterau. Yn benodol, maent yn ystyried a ddylai’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau newydd gael ei ehangu i gynnwys mathau eraill o gymwysterau.