Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae cymwysterau'n profi eich bod wedi ennill gwybodaeth a'ch bod wedi meithrin sgiliau penodol. Fe allan nhw eich helpu i gael gwell swydd neu i ddysgu rhywbeth newydd. Mae cyngor am ddim ar gael i'ch helpu i benderfynu ar y cymhwyster mwyaf addas i chi a sut mae cael y cymhwyster hwnnw.
Mae angen cymwysterau penodol ar gyfer swyddi a gyrfaoedd penodol, er enghraifft, ym maes meddygaeth a'r gyfraith. Mae cymwysterau hefyd yn eich rhoi mewn sefyllfa gryfach wrth i chi wneud cais am swydd neu ddyrchafiad.
Bydd llawer o hysbysebion am swyddi'n nodi'r cymwysterau y maen nhw'n chwilio amdanynt. Mae'n bosib y bydd arnoch angen cymwysterau penodol i wneud cais am gwrs addysg bellach neu i gael bod yn aelod o gorff proffesiynol.
Fel oedolyn sy'n dysgu, gallwch ddewis o ystod eang o gymwysterau. Gallech ddewis pwnc academaidd, neu rywbeth sy'n fwy perthnasol i'ch swydd. Neu gallech ddewis cymhwyster sy'n canolbwyntio ar sgiliau y gallwch eu defnyddio mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.
Os yw'r dewis yn ddigon i'ch dychryn, peidiwch â mynd i banig am y peth: mae digon o gymorth a chyngor ar gael i'ch helpu i ddewis cymhwyster sy'n addas i chi.
I gael cyngor di-dâl a diduedd dros y ffôn, ffoniwch y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd:
Hefyd, cewch drefnu i rywun roi galwad ffôn yn ôl i chi ar amser cyfleus, neu anfon eich cwestiwn dros yr e-bost at gynghorydd dysgu.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd modd i chi hefyd gael cyngor wyneb-yn-wyneb gan eich gwasanaeth nextstep lleol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.
Cymwysterau academaidd
Dengys cymwysterau academaidd traddodiadol eich bod wedi cyrraedd safon addysgol arbennig. Gall y rhain gynnwys TGAU, Safon UG a Safon Uwch, ynghyd â graddau.
Cymwysterau galwedigaethol
Bydd cymwysterau galwedigaethol neu gymwysterau cysylltiedig â gwaith yn canolbwyntio ar ddysgu sgiliau ymarferol. Gall y rhain gynnwys NVQ, City and Guilds, BTEC a chymwysterau galwedigaethol ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau.
Cymwysterau seiliedig ar sgiliau
Gall cymwysterau eraill ddangos bod gennych y sgiliau i fynd yn eich blaen yn y gwaith ac yn eich bywyd yn gyffredinol, fel darllen, ysgrifennu, gweithio â rhifau neu ddefnyddio cyfrifiadur. Gelwir y rhain yn Sgiliau am Oes.
Gallwch hefyd wneud cymwysterau Sgiliau Allweddol, sy'n gallu cynnwys sgiliau eraill megis gweithio ag eraill.
Mae dysgu'n werthfawr hyd yn oed os nad yw'n arwain at gymhwyster, ac efallai y cewch dystysgrif i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs. Mae gwybodaeth ymarferol, megis gallu siarad ail iaith, yn gallu bod yr un mor bwysig â chymhwyster swyddogol
Mae sawl llwybr yn arwain at addysg uwch, gan gynnwys cymwysterau academaidd a galwedigaethol. Mae angen cymwysterau penodol ar gyfer rhai cyrsiau ac felly, mae'n werth edrych ar brosbectws y brifysgol neu'r coleg i gael gwybodaeth fanylach.
Os nad yw eich cymwysterau'n ateb y gofynion mynediad safonol, fe allwch ddilyn cwrs Mynediad. Does dim angen llawer o gymwysterau blaenorol i ddilyn cwrs Mynediad - weithiau, does dim angen cymwysterau o gwbl. Bydd cwrs fel hyn yn gymorth i chi feithrin sgiliau, gwybodaeth a hyder.
Os ydych chi wedi ennill cymwysterau o wlad arall, bydd angen i chi ddarganfod a ydynt yn cael eu hadnabod yn y DU. Mae gwefan y Ganolfan Wybodaeth Genedlaethol ar gyfer Cydnabod Cymwysterau Academaidd yn cynnig gwybodaeth a chyngor am gymwysterau tramor a sut mae'r rhain yn cymharu â'r rhai y gellir eu hennill yn y DU.
Dod o hyd i gefnogaeth gyrfaoedd a dysgu wyneb-yn-wyneb gan eich swyddfa nextstep leol