Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymwysterau galwedigaethol ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF)

Mae’r cymwysterau galwedigaethol ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau yn gymwysterau newydd sy’n gysylltiedig â gwaith. Maent wedi eu cynllunio i’ch galluogi chi i ddysgu mewn ffordd sy’n gweddu i chi, ac i roi i chi’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae llawer o ddewis ar gael yn barod, mewn amrywiaeth eang o bynciau.

Cymwysterau galwedigaethol newydd

Lleolir y cymwysterau newydd hyn sy’n gysylltiedig â gwaith ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF). Mae’r QCF yn grwpio cymwysterau i nifer o ‘lefelau’ sy’n gosod gofynion gwahanol arnoch chi fel dysgwr.

Am fwy o wybodaeth am y QCF a fframweithiau cymhwyster eraill, gwelwch ‘Cymwysterau: beth yw ystyr y gwahanol lefelau'.

Dysgu mewn ffordd sy'n gweddu i chi

Mae’r cymwysterau galwedigaethol ar y QCF wedi’u cynllunio i fod yn llawer mwy hyblyg na chymwysterau eraill sy’n gysylltiedig â gwaith.

Maent yn cynnwys unedau, felly fe allwch chi astudio ar gyflymder sy’n gweddu i chi. Dros gyfnod o amser, gallwch chi gyfuno unedau mewn gwahanol ffyrdd i gael cymhwyster llawn.

Golyga hyn na fydd unrhyw ddysgu rydych chi’n ei wneud yn cael ei ‘golli’ neu’n werth dim byd. Golyga hefyd na fydd rhaid i chi ailadrodd unrhyw ddysgu heb fod angen.

Olrhain eich cynnydd

Os ydych chi’n gwneud cymhwyster galwedigaethol ar y QCF, caiff eich dysgu ei ‘fancio’ dros gyfnod o amser, a chaiff ei storio ar eich cofnod dysgwr personol chi. Dangosa'r cofnod hwn pa hyfforddiant rydych eisoes wedi'i wneud, a bydd o gymorth i chi weld sut y gallwch chi wneud cynnydd pellach. O 2010 ymlaen, bydd yn bosib i chi edrych ar eich cofnod dysgwr ar-lein.

Maint y cymhwyster: faint o amser mae’n ei gymryd i'w gwblhau

Mae gan bob uned a chymhwyster newydd ar y QCF werth credyd, sy’n dangos faint o amser mae’n ei gymryd i’w cwblhau. Mae un credyd yn gyfwerth â 10 awr. Gall hyn gynnwys treulio amser yn dysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd - nid yn cael eich addysgu gan rywun arall o reidrwydd.

Ceir tri maint gwahanol o gymhwyster, sy’n werth nifer gwahanol o gredydau. Bydd cymwysterau mwy yn cymryd mwy o amser i’w cwblhau na rhai llai.

Dyfarniad

Dyfarniad yw’r math lleiaf o gymhwyster ar y QCF. Mae ganddo werth o rhwng un a 12 credyd. Golyga hyn ei fod yn cymryd rhwng 10 a 120 awr i’w gwblhau.

Tystysgrif

Mae gan dystysgrif werth o rhwng 13 a 36 credyd. Mae’n cymryd rhwng 130 a 360 awr i’w chwblhau.

Diploma

Mae gan ddiploma werth o 37 credyd neu fwy, felly mae’n cymryd o leiaf 370 awr i’w gwblhau.

Lefel y cymhwyster: pa mor anodd ydyw

Mae gan bob cymhwyster ar y QCF hefyd lefel rhwng Lefel Mynediad a lefel 8, sy’n dangos pa mor anodd ydyw.

Mae’r lefelau QCF yr un fath â’r lefelau ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, sy’n rhestru mathau eraill o gymwysterau. Er enghraifft, mae TGAU ar lefelau 1 a 2, mae Safon Uwch ar lefel 3 ac mae Doethuriaeth ar lefel 8.

Dewis cymhwyster sy’n gweddu i chi

Mae teitl pob cymhwyster ar y QCF yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • beth yw hanfod y cymhwyster
  • maint y cymhwyster (gwobr, tystysgrif neu ddiploma)
  • lefel y cymhwyster (Lefel Mynediad i lefel 8)

Golyga hyn y gallwch chi weld ar unwaith faint o amser y bydd arnoch chi ei angen i gwblhau’r cymhwyster, a pha mor anodd y mae’n debygol o fod o’i gymharu â chymwysterau eraill.

Gallwch chi ddewis maint a lefel y cymhwyster sydd yn gweddu fwyaf i’ch anghenion chi, cyn belled â’ch bod chi’n bodloni unrhyw feini prawf ar gyfer cael eich derbyn i wneud y cymhwyster. Er enghraifft, gallwch ddewis diploma ar lefel 1, neu ddyfarniad ar lefel 8.

Chwilio am gymwysterau galwedigaethol.

Mae dros 2,500 o’r cymwysterau galwedigaethol newydd hyn ar y QCF yn barod, ac maent ar gael mewn amrywiaeth eang o bynciau. Mae mwy yn cael eu hychwanegu drwy’r amser.

Gallwch chwilio amdanynt ar y Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig.

Dilynwch y ddolen isod. Yna, yn y blwch chwilio, ysgrifennwch ‘QCF’, a’r pwnc y mae gennych chi ddiddordeb ynddo. Er enghraifft: ‘QCF, trin gwallt’ (yn Saesneg).

Ym mhle mae’r cymwysterau newydd hyn ar gael?

Mae cymwysterau ar y QCF ar gael gan amrywiaeth eang o ddarparwyr dysgu. Mae nifer o gyflogwyr hefyd yn datblygu’r cymwysterau hyn.

Maent ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Maent hefyd yn cael eu cydnabod yn yr Alban.

Golyga hyn, er enghraifft, y gallwch chi gyflawni uned mewn un rhan o’r DU, yna'i chyfuno ag unedau eraill rydych chi wedi eu cyflawni rhywle arall yn y DU.

Newidiadau i gymwysterau galwedigaethol eraill

Rhwng nawr a diwedd 2010, bydd cymwysterau galwedigaethol eraill yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (megis Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) a BTEC) yn cael eu newid i gynnwys unedau ac yn cael eu symud i'r QCF.

Cymorth a chyngor

Cyngor i bobl ifanc

I gael cyngor am ddysgu ac am gymwysterau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 13 a 19 mlwydd oed, cysylltwch â Connexions Direct.

  • Ffoniwch gynghorydd: 0808 00 13 2 19

Mae gan adran ‘Chi biau'r dewis: opsiynau ar ôl 16’ wybodaeth am opsiynau ar ôl Blwyddyn 11.

Cyngor i oedolion sy'n dysgu

Cewch gyngor ar gymwysterau i oedolion sy'n dysgu gan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfa.

  • Llinell gymorth Cyngor Gyrfa: 0800 100 900

Ffynonellau eraill o gyngor

Gallwch chi hefyd gael cyngor gan eich ysgol, eich coleg, eich cyflogwr neu eich cynghorydd gyrfaoedd.

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU