Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Graddau Sylfaen

Cymwysterau addysg uwch yw Graddau Sylfaen, sy'n cyfuno astudiaeth academaidd gyda dysgu yn y gweithle. Maent wedi'u cynllunio ar y cyd gan brifysgolion, colegau a chyflogwyr, ac maent ar gael mewn amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â gwaith.

Graddau Sylfaen: beth ydyn nhw

Mathau penodol o raddau yw Graddau Sylfaen, a'u bwriad yw eich arfogi gyda'r sgiliau a'r wybodaeth y mae busnesau yn chwilio amdanynt. Gallant gynnig llwybr tuag at addysg uwch ar gyfer amrywiaeth eang o fyfyrwyr o sawl cefndir gwahanol.

Mae'r cymhwyster yn cyfateb yn fras i ddwy flynedd gyntaf gradd baglor. Gall arwain yn syth at swydd, neu'ch paratoi ar gyfer datblygu eich sgiliau proffesiynol yn y dyfodol.

Caiff Graddau Sylfaen eu cynnig gan nifer gynyddol o golegau addysg uwch ac addysg bellach. Byddwch yn dysgu mewn ffordd sy'n addas i chi: dysgu o bell, yn y gweithle neu ar-lein. Bydd yn cymryd oddeutu dwy flynedd i gwblhau Gradd Sylfaen ar batrwm amser llawn, neu dair i bedair blynedd os byddwch chi'n dilyn patrwm rhan-amser.

Mae Graddau Sylfaen ar lefel 'ganolradd' ar y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ). Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol gymwysterau addysg uwch yn cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.

Beth y gallwch chi ei astudio

Mae dros 1700 o gyrsiau Graddau Sylfaen ar waith, gyda 900 ychwanegol ar y gweill. Mae'r rhain yn ymwneud ag ystod eang o bynciau gan gynnwys nyrsio milfeddygol, e-fasnach, gofal iechyd a chymdeithasol a gwyddoniaeth fforensig.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad. Holwch eich prifysgol neu goleg i weld a oes gennych y profiad neu'r cymwysterau angenrheidiol i wneud Gradd Sylfaen benodol, neu chwiliwch am gyrsiau Gradd Sylfaen ar wefan UCAS.

Sut cewch chi eich asesu

Bydd gwahanol gyrsiau Gradd Sylfaen yn eich asesu mewn gwahanol ffyrdd. Bydd y rhan fwyaf o gyrsiau'n cynnwys cymysgedd o arholiadau a gwaith cwrs, yn ogystal ag asesiad o'r gwaith dysgu a wnewch yn y gweithle. Bydd rhai'n gofyn i chi lunio traethawd estynedig ysgrifenedig ar ddiwedd y cwrs.

Fel rheol nid oes system raddio ar waith gyda Graddau Sylfaen; yn y rhan fwyaf o achosion byddwch naill ai'n pasio neu'n methu. Fodd bynnag, gall rhai cyrsiau gynnig 'rhagoriaeth' hefyd.

Apeliadau

Os nad ydych chi'n hapus gyda'ch dyfarniad, a'ch bod yn dymuno apelio, bydd angen i chi ddilyn trefn apelio eich coleg neu brifysgol.

Pa lwybrau fydd yn agored i chi?

Yn aml, gall Graddau Sylfaen arwain yn syth at swydd, gan eu bod wedi'u cynllunio ar y cyd â busnesau.

Gallwch hefyd ddefnyddio'ch Gradd Sylfaen i symud ymlaen i radd faglor gydag astudio pellach (blwyddyn yw hyd hwn fel arfer).

Sut i wneud cais a chael gwybod mwy

Gallwch gael gwybod mwy am Raddau Sylfaen, gan gynnwys sut i wneud cais, yn 'Ymlaen â'r Radd Sylfaen'.

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU