Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os hoffech astudio ystod eang o bynciau'n fanwl, efallai y bydd Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol yn addas i chi. Fe'i cynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr sy'n llawn cymhelliant, ac fe'i cynigir gan fwy a mwy o ysgolion a cholegau erbyn hyn.
Mae Rhaglen Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol yn gymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer myfyrwyr rhwng 16 a 19 oed. Mae'n seiliedig ar astudiaeth academaidd o ystod eang o bynciau, gan gynnwys ieithoedd, y celfyddydau, mathemateg, hanes a daearyddiaeth.
Mae'n arwain at un cymhwyster, yn hytrach na chymwysterau ar wahân ar gyfer pynciau unigol. Fodd bynnag, os na lwyddwch i gyflawni'r diploma i gyd, rhoddir tystysgrif i chi am bob pwnc a astudiwyd gennych.
Mae'n cael ei gynnig mewn mwy na 100 o ysgolion a cholegau yn y Deyrnas Unedig (ysgolion a cholegau'r wladwriaeth a rhai annibynnol), a gellir dilyn y diploma mewn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg. Fe'i cynlluniwyd gyda'r bwriad o'ch annog i wneud y canlynol:
Mae Rhaglen Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol ar lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.
Mae Rhaglen Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol yn cynnwys astudiaeth 'graidd', sy'n orfodol, ynghyd â chwe phwnc ar wahân lle bydd gennych rywfaint o ddewis ynghylch beth i'w astudio.
Mae'r craidd gorfodol yn cynnwys y tair elfen hon:
Yn ogystal â thair elfen graidd, byddwch hefyd yn dewis un pwnc o bob un o'r chwe maes canlynol:
Fel arfer, byddwch yn astudio tri o'ch chwe phwnc dewisol ar lefel 'uwch' (240 awr o ddysgu i bob pwnc), ac yn astudio'r tri arall ar lefel 'safonol' (150 awr o ddysgu). Fodd bynnag, gallwch hefyd ddewis dilyn pedwar pwnc ar lefel uwch a dau ar lefel safonol.
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith asesu'n cael ei wneud drwy gyfrwng arholiadau, a'r rheini'n cael eu marcio'n allanol. Fodd bynnag, bydd eich athrawon yn asesu rhywfaint arnoch ym mhob un o'r pynciau bron, oherwydd y byddant yn marcio darnau o waith cwrs unigol.
Bydd yn cymryd dwy flynedd i gwblhau Diploma fel arfer, gydag arholiadau'n cael eu cynnal ym mis Mai ac ym mis Tachwedd.
Dyfernir pwyntiau i chi am bob rhan o'r rhaglen, hyd at uchafswm o 45:
I ennill diploma llawn, rhaid i chi ennill 24 neu fwy o bwyntiau.
Bydd cwblhau Diploma'n llwyddiannus yn ennill pwyntiau ar y 'Tariff UCAS' wrth gael mynediad at addysg uwch.
Mae Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol gyda chyfanswm o 24 pwynt yn werth 260 o bwyntiau UCAS - yr un fath â dwy 'B' ac 'C' Safon Uwch.
Mae’r uchafswm o 45 pwynt yn ennill 720 o bwyntiau UCAS - mae hynny'n gyfystyr â mwy na 6 Safon Uwch gradd 'A'.
Os nad ydych yn hapus â'ch canlyniadau, gallwch ail-sefyll un neu fwy o bynciau'r Diploma. Y marc uchaf o'r ddau gynnig fydd yn cyfrif tuag at y sgôr a ffurfir gyda phwyntiau'ch Diploma.
Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n dilyn Rhaglen Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol yn mynd ymlaen i addysg uwch; mae'r cymhwyster yn cael ei arddel gan brifysgolion mewn mwy na 100 o wledydd. Fodd bynnag, efallai y gofynnir i chi ennill nifer pendant o bwyntiau ar y lefel 'uwch' mewn pynciau penodol os ydych chi'n dymuno astudio ar gwrs penodol.
Gallech hefyd ddefnyddio'r cymhwyster fel llwybr i swydd, neu hyfforddiant yn y gwaith.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am Raglen Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol, gan gynnwys rhestr o ysgolion a cholegau sy'n cynnig y rhaglen, gan Gymdeithas y Fagloriaeth Ryngwladol.