Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n dymuno ennill neu feithrin sgiliau i'ch helpu i wneud yn dda yn yr ysgol, yn y coleg, yn y gwaith neu gartref (neu ddangos beth rydych chi'n ei wybod yn barod), gallai cymhwyster Sgiliau Allweddol fod yn addas i chi.
Mae 'Sgiliau Allweddol' yn cyfeirio at y sgiliau sydd eu hangen fel arfer mewn amrywiaeth o weithgareddau ym maes addysg a hyfforddiant, gwaith a bywyd yn gyffredinol. Maent yn sgiliau trosglwyddadwy: unwaith i chi eu cael, gallwch eu defnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Gall cymwysterau Sgiliau Allweddol wneud y pethau hyn:
Gall unrhyw un fynd ati i ennill cymhwyster Sgiliau Allweddol - o ddisgyblion mewn ysgolion i brif weithredwyr cwmnïau mawr. Nid oes unrhyw ofynion derbyn sylfaenol, a gallwch eu hastudio ochr yn ochr â mathau eraill o gymwysterau, fel TGAU.
Gallwch astudio ar gyfer cymwysterau Sgiliau Allweddol mewn unrhyw ganolfan sydd wedi ei chymeradwyo, o ysgolion a cholegau i ddarparwyr hyfforddiant. Maent hefyd yn cael eu cynnig gan rai cyflogwyr, y lluoedd arfog a'r Gwasanaeth Carchardai.
Cewch astudio Sgiliau Allweddol ar sail amser llawn neu ran-amser yn yr ysgol neu'r coleg (fel NVQ), neu'n rhan o rai cyrsiau addysg uwch. Mae Sgiliau Allweddol hefyd yn un o elfennau Prentisiaeth.
Ceir chwech o wahanol bynciau Sgiliau Allweddol:
Sgiliau Allweddol Ehangach
Astudio ar lefel sy’n addas i chi
Mae Sgiliau Allweddol ar lefelau 1-4 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Gallwch ddilyn gwahanol bynciau ar wahanol lefelau fel sy'n addas i chi.
Mae'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.
Asesir pob Sgil Allweddol ar wahân. Seilir eich asesiad ar bortffolio y byddwch yn ei gynhyrchu - bydd hwnnw wedyn yn cael ei asesu'n fewnol gan eich ysgol, eich coleg neu'ch hyfforddwr. Bydd y ffolder hon yn dystiolaeth eich bod yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i basio.
Ar gyfer y tri phrif Sgil Allweddol, byddwch hefyd yn sefyll prawf, a fydd yn cael ei farcio'n allanol gan gorff dyfarnu.
Ar lefelau 1 a 2, mae'r prawf yn cynnwys 40 o gwestiynau amlddewis, a phob un o'r rheini gyda phedwar ateb posib. Bydd y prawf yn para awr, neu awr a chwarter ar gyfer y prawf Cymhwyso Rhif.
Ar lefel 3, mae'r prawf yn para 90 munud; bydd yn rhaid i chi ysgrifennu'ch atebion i'r cwestiynau, neu gwblhau tasg ymarferol ar gyfer y prawf TGCh.
Mae'r prawf lefel 4 yn para dwy awr a hanner.
Os nad ydych yn pasio'r prawf, yn gyffredinol, gallwch ei ail-sefyll gymaint o weithiau ag y dymunwch. Fodd bynnag, byddai'n syniad da holi'ch darparwr dysgu penodol am hyn.
I ymarfer, gallwch sefyll prawf ar gyfer y tri phrif gymhwyster Sgiliau Allweddol ar-lein ar wefan 'keyskills4u'.
Gall ennill cymhwyster Sgiliau Allweddol ar un lefel arwain at gymwysterau Sgiliau Allweddol pellach ar lefelau uwch. Gallant hefyd eich helpu i symud ymlaen at gymwysterau eraill, megis HND neu radd.
Pwyntiau UCAS
Bydd Sgiliau Allweddol yn ychwanegu pwyntiau at y 'Tariff UCAS' ar gyfer cael mynediad at addysg uwch. Mae'r pwyntiau a gewch am bob Sgil Allweddol yn dibynnu ar lefel y cymhwyster y byddwch y ei basio:
Lefel Sgiliau Allweddol | Pwyntiau UCAS |
---|---|
2 | 10 |
3 | 20 |
4 | 30 |
Holwch eich athro/awes yn eich ysgol neu'ch coleg, ewch i wefan 'keyskills4u' neu holwch eich cyflogwr am y cyrsiau Sgiliau Allweddol sydd ar gael yn eich gweithle.
I gael cyngor am ddysgu ac am gymwysterau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 13 a 19 oed, gallwch hefyd gysylltu â Connexions Direct.
Ffoniwch gynghorydd: 0808 00 13 2 19
Cael cyngor am Sgiliau Allweddol a chymwysterau eraill i oedolion sy'n dysgu gan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd.