Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
TGAU yw'r prif gymhwyster ar gyfer plant 14 i 16 mlwydd oed, ond maent ar gael i unrhyw un sy'n dymuno astudio pwnc sydd o ddiddordeb iddynt. Gallwch ddilyn TGAU mewn amrywiaeth eang o bynciau academaidd a 'chymhwysol' (cysylltiedig â gwaith).
Mae TGAU yn sefyll am 'Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd'. Mae ysgolion, colegau a chyflogwyr yn rhoi gwerth mawr arnynt, ac felly byddant yn ddefnyddiol beth bynnag yr ydych yn bwriadu ei wneud wedi hynny.
Mae'r cymhwyster yn golygu astudio theori pwnc, ynghyd ag ychydig o waith ymchwiliol. Bydd rhai pynciau'n cynnwys gwaith ymarferol hefyd. Fel arfer, astudir TGAU ar sail amser llawn mewn ysgol neu goleg, a bydd yn cymryd pum tymor i'w gwblhau.
Mae TGAU ar lefelau 1 a 2 ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, yn dibynnu ar y radd a gewch. Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.
Mae TGAU ar gael mewn dros 40 pwnc academaidd a naw pwnc 'cymhwysol'. Mae'r pynciau cymwysedig yn ymwneud â maes eang o waith, megis peirianneg neu dwristiaeth, ac mae llawer ohonynt yn werth dwywaith cymaint â chymwysterau TGAU.
Gallwch hefyd astudio sawl TGAU fel cyrsiau byr. Mae'r rhain yn cyfateb i hanner TGAU llawn, felly gellir eu cwblhau yn hanner yr amser. Fodd bynnag, os ydych chi'n dysgu'n arafach nag eraill, gallwch ddewis astudio cwrs byr dros yr un cyfnod â TGAU traddodiadol.
Mae cyrsiau byr hefyd yn galluogi myfyrwyr mwy galluog ddilyn pynciau ychwanegol, fel ail iaith dramor.
Gall eich ysgol neu goleg eich cynghori am y pynciau sydd ar gael i chi. Gallwch hefyd chwilio am gyrsiau TGAU yn eich ardal chi ar wefan Cross & Stitch.
I gael cyngor am ddysgu ac am gymwysterau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 13 a 19 oed, gallwch gysylltu â Connexions Direct.
Gallwch hefyd edrych ar eich prosbectws lleol ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed i gael gweld pa gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yn eich ardal chi.
I fyfyrwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 (rhwng 14 a 16 oed), mae'n rhaid astudio rhai pynciau fel rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Felly efallai y byddai'n werth dilyn TGAU er mwyn cael rhywbeth o werth ar ddiwedd y ddwy flynedd.
Gall oedolion sy'n dysgu gael cyngor am TGAU a chymwysterau eraill gan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfa.
Caiff cymwysterau TGAU eu hasesu'n bennaf ar sail arholiadau ysgrifenedig, er bod rhywfaint o waith cwrs mewn rhai pynciau. Mewn rhai pynciau, fel celf a dylunio, gall fod mwy o waith cwrs a llai o arholiadau.
Bydd rhai TGAU yn cynnwys unedau; ar gyfer y rhain, byddwch yn sefyll arholiadau ar ddiwedd pob uned. Bydd gan eraill arholiadau ar ddiwedd y cwrs.
Gyda rhai pynciau, bydd pawb yn sefyll yr un arholiad. Gyda phynciau eraill, ceir dewis o ddwy haen: 'haen uwch' neu 'haen sylfaenol'. Bydd pob haen yn arwain at ystod wahanol o raddau. Fel arfer, eich athro pwnc fydd yn penderfynu pa haen sydd orau i chi.
Fel rheol, cynhelir arholiadau ym mis Ionawr a mis Mai/Mehefin.
Bydd arholwyr yn cyfrifo faint o 'farciau crai' fydd eu hangen arnoch i gael gwahanol raddau. Os ydych wedi dilyn TGAU sy'n cynnwys unedau, mae'n bosib y bydd eich papur canlyniadau yn dangos sgôr pwyntiau ar y raddfa marciau unffurf. Mae arholwyr yn defnyddio'r raddfa i gyfuno marciau gwahanol unedau er mwyn cyfrifo'ch gradd TGAU.
Caiff TGAU eu graddio o A*-G ac U (di-ddosbarth):
Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi ym mis Mawrth a mis Awst.
Gall ennill TGAU arwain at sawl llwybr: er enghraifft, gwaith, astudio pellach neu Brentisiaeth.
Os byddwch yn cwblhau TGAU ar lefel 1, gallwch fynd ymlaen i wneud cyrsiau eraill neu hyfforddiant yn y gwaith ar lefelau 1 neu 2.
Gall cwblhau TGAU ar lefel 2 arwain ar gyrsiau lefel 2 eraill a chyrsiau lefel 3 o bob math. Fodd bynnag, weithiau, os ydych yn dymuno dilyn cwrs lefel 3 (megis Safon Uwch), bydd disgwyl i chi fod wedi gwneud TGAU yn yr un pwnc.
Os ydych chi'n meddwl am addysg uwch, efallai y bydd angen TGAU mewn pynciau penodol arnoch. Bydd y rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau yn gofyn am bump TGAU gyda graddau A*-C, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg (yn ogystal â chymwysterau Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol).
Os, ar ddiwrnod yr arholiad, y digwydd rhywbeth y tu hwnt i'ch rheolaeth i effeithio ar eich perfformiad, efallai y byddwch yn gymwys am ystyriaeth arbennig. Siaradwch â'ch athrawon cyn gynted ag sy’n bosibl.
Os yw'r TGAU yn seiliedig ar unedau, gallwch ddewis ailsefyll unedau unigol. Bydd y corff sy'n dyfarnu'n cyfri'r marc uchaf o'ch gwahanol gynigion. Fodd bynnag, mae ailsefyll yn golygu llai o amser i astudio ar gyfer unedau eraill, ac nid yw'n opsiwn hawdd o bell ffordd.
Os credwch y gallai rhywbeth fod wedi mynd o'i le wrth farcio eich arholiad, gall eich ysgol neu goleg ofyn am ei ail-farcio neu ei ail-gyfrif.
Os ydych chi'n dal yn anhapus, gall eich ysgol neu goleg apelio gerbron y corff sy'n dyfarnu, ac yna'n derfynol, os oes angen, gerbron y Bwrdd Apeliadau Arholiadau annibynnol.
Mae nifer o newidiadau'n digwydd i gymwysterau TGAU ar hyn o bryd. Mae'r rhain yn cynnwys cael gwared ar waith cwrs a chael rhywbeth a elwir yn 'asesiad dan reolaeth' yn ei le, lle caiff gwaith ei wneud yn yr ystafell ddosbarth neu mewn amgylchedd arall dan oruchwyliaeth.
Mae newidiadau eraill yn cynnwys codi nifer y cymwysterau TGAU sy'n cynnwys modiwlau ar wahân, a chyflwyno cymwysterau TGAU mewn Sgiliau Ymarferol mewn Saesneg, mathemateg a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) o 2010 ymlaen.