Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sgiliau Ymarferol

Mae Sgiliau Ymarferol yn gymwyster newydd sy'n cael ei lansio ledled Lloegr yn 2010. Maent wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol er mwyn manteisio i'r eithaf ar fywyd gwaith, bywyd addysgol a bywyd bob dydd.

Sgiliau Ymarferol: beth ydyn nhw

Mae Sgiliau Ymarferol yn sgiliau ymarferol mewn Saesneg, mathemateg a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh).

Maent yn gyfres newydd o gymwysterau, a gaiff eu lansio yn 2010. Byddant ar gael i bob dysgwr 14 oed a hŷn (er y bydd yn bosib eu sefyll yn iau na hyn hefyd).

Nid dim ond gwybodaeth am Saesneg, mathemateg a TGCh yw Sgiliau Ymarferol. Maent hefyd yn ymwneud â gwybod pryd a sut i ddefnyddio'r wybodaeth mewn sefyllfaoedd go iawn.

Lle a sut y gallwch eu sefyll

Bydd Sgiliau Ymarferol yn cynnwys sefyll profion ar wahân a fydd yn rhoi cymhwyster i chi os byddwch yn llwyddo ynddynt. Byddant hefyd yn cyfrif at gymwysterau eraill, gan gynnwys Diplomâu a Phrentisiaethau.

Byddant ar gael yn gyffredinol mewn ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant ac yn y gweithle yn Lloegr.

Cyflawni Sgiliau Ymarferol fel rhan o gymwysterau eraill

O fis Medi 2008 ymlaen, mae Sgiliau Ymarferol yn cael eu gwneud yn rhan o'r cwricwlwm uwchradd newydd. Golyga hyn y bydd pob person ifanc yn eu dysgu.

Bydd Sgiliau Ymarferol yn rhan annatod o:

  • Brentisiaethau
  • Ddiplomâu
  • TGAU
  • Yr Haen Dysgu Sylfaenol

Cyflawni Sgiliau Ymarferol ar eu pen eu hunain

O 2010 ymlaen, bydd modd i chi hefyd sefyll cymwysterau Sgiliau Ymarferol ar eu pen eu hunain.

Mae disgwyl iddynt ddisodli'r cymwysterau Sgiliau Bywyd a'r tri phrif gymhwyster Sgiliau Allweddol. Fodd bynnag, bydd cymwysterau Sgiliau Allweddol a Sgiliau Bywyd yn dal ar gael i ddysgwyr newydd tan o leiaf mis Awst 2010.

Dewis y lefel cymhwyster gywir

Mae Sgiliau Ymarferol yn cael eu treialu ar hyn o bryd ar gynllun tair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, cynigir y cymwysterau ar eu pen eu hunain ar Lefel Mynediad, Lefel 1 a Lefel 2 ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.

Y ffordd y cewch eich asesu

Cewch eich asesu'n bennaf drwy gwblhau cyfres o dasgau ymarferol o fewn cyfnod penodol.

Mae'r cyrff dyfarnu sy'n datblygu Sgiliau Ymarferol hefyd yn ystyried ffyrdd newydd o asesu dysgwyr, megis dulliau electronig ac ar-lein.

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU