Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diplomâu i bobl ifanc 14 i 19 oed

Mae'r cymhwyster Diploma newydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc 14 i 19 oed gael profiad ymarferol yn ogystal â dysgu yn y dosbarth. Ei bwrpas yw helpu pobl ifanc i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau y bydd cyflogwyr a phrifysgolion yn chwilio amdanynt. Mae Diplomâu mewn deg maes pwnc ar gael mewn ysgolion a cholegau dethol.

Beth yw Diploma?

Cymhwyster newydd i bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed yw'r Diploma, sy'n cynnig ffordd fwy ymarferol o ennill y sgiliau a'r wybodaeth hanfodol y bydd cyflogwyr a phrifysgolion yn chwilio amdanynt. Ei nod yw cynyddu'r dewisiadau sydd ar gael i bobl ifanc a'u hannog i aros ym myd addysg am fwy o amser.

O fis Medi 2008 ymlaen, mae Diplomâu mewn pum maes pwnc ar gael mewn ysgolion a cholegau dethol ledled y wlad – a bydd rhagor o feysydd pwnc ar gael yn y blynyddoedd nesaf.

Beth sy'n wahanol am Ddiploma?

Mae diplomâu'n cyfuno dysgu academaidd gyda sgiliau ymarferol

Cynlluniwyd y Diploma mewn partneriaeth â chyflogwyr a phrifysgolion, ac fe all arwain at ragor o astudio - neu i fyd gwaith.

Mae'r Diploma'n cynnwys profiad ymarferol yn ogystal â dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Nod y cyfuniad hwn yw annog myfyrwyr i feithrin sgiliau sy'n berthnasol i waith - yn ogystal â'u gallu mewn Saesneg, mathemateg a TGCh - mewn ffordd greadigol a phleserus.

Bydd myfyrwyr wedi'u lleoli yn eu hysgol neu eu coleg eu hunain, ond efallai y cânt gyfle i ddysgu mewn lleoliad gwahanol - ysgol arall, coleg lleol, neu yn y gweithle. Byddant yn cael syniad o sut beth yw byd gwaith mewn gwirionedd, a fydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau ynghylch y dyfodol ac yn cadw eu hopsiynau'n agored o ran gyrfa.

Mae'r Diploma yn hyblyg, felly gall myfyrwyr ei gyfuno â chyrsiau TGAU a Safon Uwch. Bydd pobl ifanc yn astudio ar gyfer Diploma ar y cyd ag unrhyw bynciau gorfodol - er enghraifft Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth ac addysg gorfforol ym Mlynyddoedd 10 ac 11.

Pa feysydd pwnc fydd Diplomâu'n ymdrin â nhw?

Bydd deg maes pwnc ar gael o 2009 ymlaen

O fis Medi 2009 ymlaen, mae Diplomâu mewn pum maes pwnc ar gael mewn ysgolion a cholegau dethol o amgylch y wlad:

  • Gweinyddiaeth Busnes a Chyllid
  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
  • Creadigol a Chyfryngau
  • Peirianneg
  • Astudiaethau Amgylcheddol ac yn Seiliedig ar dir
  • Astudiaeth Gwallt a Harddwch
  • Lletygarwch
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Cymdeithas, Iechyd a Datblygiad

Ychwanegir rhagor o feysydd pwnc dros y blynyddoedd nesaf, a bydd yr amrywiaeth eang o 17 ar gael i bob myfyriwr erbyn 2013.

Elfennau gorfodol

Bydd yn rhaid i bob myfyriwr Diploma gwblhau nifer o elfennau gorfodol a dewisol.

Er enghraifft, bydd rhannau gorfodol y Diploma mewn Peirianneg yn ymdrin â'r canlynol:

  • byd peirianneg
  • technoleg peirianneg
  • dyfodol peirianneg

Hefyd, bydd myfyrwyr yn dal i astudio Saesneg, mathemateg a TGCh - ac yn meithrin sgiliau eraill megis gweithio mewn tîm, meddwl yn feirniadol a hunanreolaeth.

Elfennau dewisol

Yn ogystal â'r elfennau gorfodol, gall myfyrwyr Diploma ddewis o ystod o opsiynau. Gallant ymchwilio i un o feysydd eu diploma mewn mwy o fanylder, neu ddilyn pwnc y mae ganddynt ddiddordeb ynddo nad yw'n gysylltiedig â'u Diploma.

Er enghraifft, efallai y bydd myfyriwr sy'n astudio Diploma mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yn gallu dewis cwrs arbenigol mewn tirfesur, rheoli neu adfywio cymunedol - neu opsiwn anghysylltiedig megis iaith neu wyddoniaeth.

Prosiect a phrofiad gwaith

Bydd myfyrwyr Diploma yn cwblhau prosiect sy'n ymchwilio i bwnc sydd o ddiddordeb iddynt, er mwyn dangos eu bod yn deall yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu ac yn gallu ei ddefnyddio mewn ffordd ymarferol. Byddant hefyd yn treulio o leiaf deg diwrnod yn gweithio gyda chyflogwr.

Sut mae Diplomâu'n cyd-fynd â chymwysterau eraill?

Gall Diplomâu arwain at fynd i'r coleg neu i'r brifysgol, neu i swyddi fel gweithwyr medrus

Gall myfyrwyr sy'n dewis astudio ar gyfer Diploma wneud hyn yn lle dilyn cyrsiau TGAU neu Safon Uwch (er ei bod yn bosibl iddynt gynnwys rhai cyrsiau TGAU a Safon Uwch fel rhan o raglen eu Diploma).

Mae'r Diploma ar gael ar dair lefel, a bydd pob un ohonynt yn cymryd dwy flynedd i'w cwblhau:

  • Diploma Sylfaen - cymhwyster lefel 1, sy'n cyfateb i bump TGAU ar radd D i G
  • Diploma Uwch - cymhwyster lefel 2, sy'n cyfateb i saith TGAU ar radd A* i C
  • Diploma Pellach - cymhwyster lefel 3 i bobl dros 16 oed, sy'n cyfateb i dri chwrs Safon Uwch a hanner

Dewis arall i'r rheini dros 16 oed yw'r Diploma Cynnydd (sydd hefyd yn gymhwyster lefel 3). Bydd hwn yn addas i fyfyrwyr nad ydynt am gwblhau Diploma cyfan.

Gall myfyrwyr Diploma Sylfaenol ac Uwch barhau â'u haddysg neu ddefnyddio'u sgiliau newydd mewn swydd sy'n cynnig rhagor o hyfforddiant. Gall y rheini sy'n penderfynu aros ym myd addysg symud ymlaen at y lefel Diploma nesaf, neu ddilyn math gwahanol o gymhwyster - megis TGAU, Safon Uwch neu Brentisiaeth.

Gall Diplomâu Pellach arwain at gwrs prifysgol neu at yrfa.

Sut allwch chi gael gwybod mwy am y Diploma?

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am y Diploma. Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth gan yr ysgolion a'r colegau sydd yn cymryd rhan.

Ble gall pobl ifanc gael gwybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael iddynt yn 14-19 oed?

Mae gwybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i bobl ifanc i'w chael drwy ddilyn y dolenni isod.

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU