Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi am fynd yn eich blaen i addysg uwch ac ennill cymhwyster cydnabyddedig er mwyn gwneud swydd benodol, efallai mai BTEC, HNC neu HND yw'r peth i chi. Mae Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC) a Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HND) yn canolbwyntio ar 'ddysgu trwy wneud' a gallant eich arwain at yrfa neu eich helpu i ddatblygu yn eich gyrfa bresennol.
Mae Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC) a Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HND) yn gymwysterau addysg uwch sy'n ymwneud â gwaith (galwedigaethol). Tra bo graddau baglor yn dueddol o ganolbwyntio ar ennill gwybodaeth, pwrpas HNC a HND yw rhoi'r sgiliau i chi er mwyn rhoi'r wybodaeth honno ar waith yn effeithiol mewn swydd benodol.
Mae cyflogwyr yn y DU a thramor fel ei gilydd yn rhoi gwerth mawr ar y rhain, a gallant hefyd gyfrif tuag at fod yn aelod o gyrff proffesiynol a sefydliadau eraill sy'n gysylltiedig â chyflogwyr.
Darperir cyrsiau HNC a HND gan dros 400 o golegau addysg uwch a cholegau addysg bellach. Mae HNC yn gwrs blwyddyn amser llawn a dwy flynedd rhan-amser (neu mewn sefyllfaoedd eraill megis dysgu o bell). Mae HND yn gwrs dwy flynedd amser llawn ac mae modd ei ddilyn rhan-amser hefyd (sy'n cymryd mwy o amser).
Mae HNC a HND ar lefel 5 ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.
Mae HNC a HND ar gael mewn amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys:
I astudio HNC neu HND, bydd angen i chi gael rhywfaint o gymwysterau blaenorol. Mae angen un Safon Uwch (neu gymhwyster cyfatebol) er mwyn dilyn y rhan fwyaf o gyrsiau HND.
Gallwch chwilio am gyrsiau HNC neu HND yn eich ardal chi ar Cross & Stitch, gan gynnwys manylion unrhyw ofynion mynediad penodol ar gwrs arbennig.
Gallwch hefyd chwilio am gyrsiau ar wefan y Gwasanaeth Mynediad Prifysgolion a Cholegau (UCAS).
Asesir HNC a HND yn bennaf trwy aseiniadau, prosiectau a thasgau ymarferol y byddwch chi'n eu cwblhau drwy gydol y cwrs.
Os byddwch chi'n llwyddo i gwblhau HNC neu HND, dyma sut y dangosir y graddau ym mhob uned pwnc:
Os ydych chi'n anhapus gyda'ch canlyniad mewn prosiect neu dasg ymarferol penodol, ceir cyfle i wella'ch perfformiad. Siaradwch â'ch athro/athrawes neu diwtor i ddechrau.
Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r marc neu'r radd a gawsoch, gallwch ddilyn trefn apelio. Unwaith eto, siaradwch â'ch athro/athrawes neu diwtor i gael rhagor o gyngor.
Gan mai diben HNC a HND yw rhoi'r sgiliau i chi ar gyfer maes gwaith penodol, gallant eich arwain yn syth at yrfa. Gallwch hefyd ddefnyddio'r cymwysterau i fynd yn eich blaen yn eich gyrfa bresennol, er enghraifft, yn gam i ennill statws proffesiynol.
Gallwch hefyd drosi eich HNC neu HND yn radd baglor gyda mwy o astudio. Ar ôl i chi orffen eich cwrs, gall HNC ganiatáu i chi fynd i ail flwyddyn gradd tra bo HND yn caniatáu i chi fynd i'r ail neu'r drydedd flwyddyn.
Mae diplomâu addysg uwch yn debyg i HND. Cymwysterau proffesiynol achrededig ydynt ac mae parch mawr iddynt ymhlith cyflogwyr yn y DU a thramor fel ei gilydd.
Cyrsiau dwy flynedd ydy'r rhain fel arfer a chynigir pynciau megis cyfrifeg, adeiladu, peirianneg, nyrsio, gwyddoniaeth, technoleg a dylunio tecstiliau.
Fel arfer, gallwch drosi eich diploma addysg uwch yn radd gyda blwyddyn arall o astudio. Mae'r diplomâu ar lefel 'ganolradd' ar y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ).
Cymwysterau academaidd, yn hytrach na rhai galwedigaethol, yw tystysgrifau addysg uwch. Maent yn cyfateb yn fras i HNC, ac fel arfer yn cymryd blwyddyn o astudio ar raddfa amser llawn i'w cwblhau. Maent ar y lefel 'tystysgrif' ar y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.
I gael gwybod mwy am sut i wneud cais am HNC, HND a thystysgrifau neu ddiplomâu addysg uwch, gweler 'Gwneud cais am gyrsiau addysg uwch'.
Y corff dyfarnu Edexcel sy'n cynnig HNC a HND; ymwelwch â'u gwefan i gael manylion y cymwysterau sydd ar gael.