Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymwysterau Sgiliau am Oes

Os ydych chi am wella eich sgiliau darllen, ysgrifennu, rhifedd neu sgiliau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, neu eich bod am ddangos y sgiliau sydd eisoes yn eich meddiant, efallai mai cymhwyster Sgiliau am Oes yw'r peth i chi.

Sgiliau am Oes: beth ydyn nhw

Diben Sgiliau am Oes yw eich helpu i ddatblygu'r sgiliau a ddefnyddiwch yn eich bywyd bob dydd, megis darllen, ysgrifennu neu fathemateg. Gallant hefyd roi hwb i'ch CV neu eich helpu i symud ymlaen at astudio ymhellach.

Cewch ddilyn cwrs cymhwyster Sgiliau am Oes:

  • os ydych chi dros 16 oed
  • os ydych chi wedi gadael addysg orfodol amser llawn
  • os nad oes gennych gymhwyster cyfredol mewn Saesneg neu fathemateg ar lefel 2 ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (megis TGAU)

Mewn rhai achosion, gall ysgolion hefyd gynnig cymwysterau Sgiliau am Oes i ddisgyblion 14 i 16 oed.

Yn ogystal â 'Sgiliau am Oes', mae'n siwr eich bod wedi clywed hefyd am bobl yn sôn am 'Sgiliau Sylfaenol'. Mae'r ddau derm yn golygu'r un peth, ac yn cyfeirio at yr un math o gymwysterau.

Pynciau sydd ar gael

Mae Tystysgrifau Sgiliau am Oes ar gael yn y canlynol:

  • llythrennedd ymhlith oedolion
  • rhifedd ymhlith oedolion
  • technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh)

Ceir hefyd gymhwyster Sgiliau am Oes mewn Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).

Ymhle a phryd ga i ddilyn y cyrsiau

Cynigir cyrsiau cymwysterau Sgiliau am Oes yn rheolaidd, felly gallwch ddilyn cwrs pan fyddwch chi'n barod.

Gallwch eu dilyn yn eich canolfan ddysgu, mewn canolfan brofi leol neu mewn rhai achosion mewn canolfan profion gyrru.

Astudio ar lefel sy'n addas i chi

Mae Tystysgrifau Sgiliau am Oes ar gael ar lefel ddysgu sy'n addas i chi. Dyma'r lefelau:

  • lefel derbyn (dewis o dair lefel derbyn)
  • lefel 1
  • lefel 2

Dim ond ar lefel derbyn y mae'r Dystysgrif Sgiliau am Oes mewn TGCh ar gael.

Mae'r gwahanol lefelau yn cyfeirio at y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol fathau o gymwysterau'n cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.

Dod o hyd i gwrs yn agos atoch chi

Gallwch chwilio am gyrsiau Sgiliau am Oes yn eich ardal chi ar Cross & Stitch.

Sut cewch chi eich asesu

Bydd y math o brawf a sefwch neu'r dasg a wnewch, a sut y caiff ei asesu, yn dibynnu ar lefel y cymhwyster a ddewiswch.

Lefelau derbyn

Yn y tair lefel derbyn, mae cymwysterau Sgiliau am Oes yn cynnwys tasgau a asesir gan eich canolfan ddysgu, eich coleg neu ysgol.

Lefelau 1 a 2

Ar lefelau 1 a 2, byddwch yn sefyll profion Sgiliau Sylfaenol Cenedlaethol. Cewch sefyll y prawf ar bapur neu ar sgrîn gan ddefnyddio cyfrifiadur.

Mae’r prawf yn cynnwys 40 o gwestiynau amlddewis. Ym mhob cwestiwn, byddwch yn dewis o bedwar ateb posib. Bydd gennych chi awr i gwblhau'r prawf llythrennedd ac awr a 15 munud i gwblhau'r prawf rhifedd.

Dyma'r un profion â'r rhai a sefir ar gyfer cymwysterau Sgiliau Allweddol lefel 1 a lefel 2 yn y sgiliau Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Dyfarniadau

Ar y Tystysgrifau Sgiliau am Oes dangosir eich bod naill ai wedi pasio neu wedi methu.

Beth am sefyll prawf byr ar-lein

I gael gweld pa lefel cymhwyster Sgiliau am Oes sy'n addas i chi, dilynwch y ddolen isod a rhoi cynnig ar brawf byr ar-lein.

Os na fyddwch chi'n pasio

Os na fyddwch chi'n pasio, fe gewch sefyll y prawf eto. Yn wir, fe gewch ei sefyll gymaint o weithiau ag y dymunwch chi nes i chi ei basio. Fodd bynnag, bob tro y byddwch chi'n ei sefyll, gofynnir set wahanol o gwestiynau i chi.

Ble gallant eich arwain

Mae cymwysterau Sgiliau am Oes yn seiliedig ar safonau cenedlaethol felly gall pawb gan gynnwys darpar gyflogwyr weld beth y gallwch chi ei wneud. Gallant wneud y canlynol:

  • rhoi mwy o hyder i chi yn eich galluoedd eich hun
  • dangos beth yr ydych chi wedi’i gyflawni yn eich rhaglen ddysgu
  • gwella'ch CV
  • eich helpu i gael eich derbyn ar gyrsiau eraill megis NVQ

Cael gwybod mwy

I gael gwybod mwy am gymwysterau Sgiliau am Oes, gallwch:

  • ymweld â’r wefan Move On
  • ffonio'r llinell gymorth Get On 0800 100 900 (mae'r llinellau ar agor saith niwrnod yr wythnos rhwng 8.00 am a 10.00 pm)
  • ymweld â'ch coleg addysg bellach lleol

Gallwch hefyd ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn yr adran 'Gloywi'ch sgiliau'.

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU