Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymwysterau ôl-radd

Os ydych chi'n dymuno dal ati i astudio ar ôl cwblhau gradd baglor, neu os ydych am ddysgu mwy am bwnc penodol, mae amrywiaeth o gymwysterau ôl-radd ar gael. Mae rhai'n gysylltiedig â phroffesiwn penodol, tra bo eraill yn eich galluogi i gwblhau darn o ymchwil gwreiddiol.

Beth ydyn nhw

Gyda rhai cymwysterau addysg uwch, mae'n ofynnol bod gennych radd baglor yn barod. Gelwir y rhain yn gymwysterau 'ôl-radd'.

Yn gyffredinol, maent yn arwain at bedwar prif fath o gymhwyster ôl-radd:

  • tystysgrifau ôl-radd
  • diplomâu ôl-radd
  • graddau meistr
  • doethuriaethau

Bydd y rhan fwyaf o gymwysterau ôl-radd yn cynnwys elfennau sy'n cael eu dysgu ac elfennau ymchwil.

Mae cymwysterau ôl-radd ar y lefelau 'meistr' a 'doethur' yn y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch. Mae'r fframwaith yn dangos sut mae'r gwahanol gymwysterau addysg uwch yn cymharu o ran y gofynion a roddir ar ddysgwyr.

Pwy all eu dilyn

Fel arfer, i astudio ar gyfer cymhwyster ôl-radd, bydd angen i chi gael gradd baglor ail-isaf (2:2) neu uwch. I gael gwybod beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer cwrs ôl-radd penodol, gallwch chwilio am gyrsiau ar-lein ar Cross & Stitch.

Tystysgrifau a diplomâu ôl-radd

Gall diplomâu ôl-radd a thystysgrifau ôl-radd fod yn gymwysterau academaidd neu'n gymwysterau galwedigaethol. Byddant fel arfer yn cymryd 9 i 12 mis i'w cwblhau'n llawn. Bydd faint o ddarlithoedd a seminarau y byddwch yn eu mynychu, a faint o brosiectau a phapurau ymchwil y bydd angen i chi eu cynhyrchu, yn amrywio, gan ddibynnu ar y math o gwrs y byddwch yn ei ddilyn, ac ar y coleg neu'r brifysgol y byddwch yn eu mynychu.

Pynciau sydd ar gael

Mae amrywiaeth eang o bynciau i ddewis ohonynt. Mae'r rhain yn aml yn gysylltiedig â phroffesiwn penodol.

Gallwch astudio pwnc sy'n newydd i chi, neu ddewis pwnc sy'n datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau yr ydych wedi eu meithrin wrth gyflawni gradd baglor.

Graddau

Dyma sut y dyfernir graddau fel arfer:

  • rhagoriaeth
  • clod
  • pasio
  • methu

Ble gallant eich arwain

Gall tystysgrifau ôl-radd arwain at ddiplomâu ôl-radd.

Gallwch hefyd ddefnyddio diploma neu dystysgrif ôl-radd fel llwybr at yrfa benodol neu i astudiaeth bellach, fel gradd meistr.

Graddau meistr

Cymhwyster yn dilyn astudiaeth academaidd yw gradd meistr. Gall fod yn radd ar sail ymchwil, yn gwrs sy'n cael ei ddysgu, neu'n gyfuniad o'r ddau, a bydd yn cymryd o leiaf 12 mis o astudio'n llawn-amser i'w gwblhau.

Bydd nifer y darlithoedd, y seminarau, y prosiectau a'r papurau ymchwil yn amrywio, yn dibynnu ar y math o gwrs ac ar y sefydliad.

Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd gyflwyno traethawd estynedig ar ddiwedd eich cwrs.

Pynciau sydd ar gael

Ymhlith y mathau o raddau meistr sydd ar gael y mae:

  • MA: meistr yn y celfyddydau
  • MSc: meistr yn y gwyddorau
  • MBA: meistr mewn gweinyddiaeth fusnes
  • LLM: meistr yn y gyfraith
  • MEd: meistr mewn addysg
  • MPhil: meistr mewn athroniaeth
  • MRes: meistr ymchwil

Graddau

Dyma sut y dyfernir graddau meistr fel arfer:

  • rhagoriaeth
  • clod
  • pasio
  • methu

neu:

  • rhagoriaeth
  • pasio
  • methu

Ble gallant eich arwain

Bydd rhai graddau meistr, fel gweinyddu busnes a'r gyfraith, yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn maes penodol. Gall eraill, fel meistr ymchwil, eich paratoi ar gyfer cymhwyster doethuriaeth.

Doethuriaethau

Bydd cymhwyster doethuriaeth yn rhoi cyfle i chi gyflawni darn o waith ymchwil gwreiddiol. Fel arfer, bydd angen tair blynedd o astudiaeth amser llawn i'w gwblhau.

Drwy gydol eich cwrs, disgwylir i chi weithio'n annibynnol, dan arweiniad goruchwylydd. Bydd y goruchwylydd yn eich cynghori ynghylch a yw'ch ymchwil ar ben ffordd ac yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd angen i chi gwblhau rhannau o'ch gwaith.

Rhwng blwyddyn gyntaf a thrydedd blwyddyn eich doethuriaeth, byddwch yn ymchwilio i'r pwnc o'ch dewis ac yn cynllunio'ch traethawd estynedig.

Yn eich blwyddyn derfynol y byddwch yn ysgrifennu'ch traethawd estynedig fel arfer.

Mae llawer o gyrsiau doethuriaeth yn arwain at gymhwyster fel Doethur Mewn Athroniaeth - PhD neu Dphil.

Graddau

Gyda doethuriaeth, bydd rhywun naill ai'n pasio neu'n methu; mewn achosion prin rhoddir rhagoriaeth.

Pwy sy'n eu cynnig

Mae cymwysterau doethuriaeth yn cael eu cynnig gan brifysgolion sy'n cynnig cyfleoedd ymchwil.

Cael gwybod mwy

I gael gwybod mwy am ennill cymhwyster ôl-radd, cysylltwch â phrifysgolion a cholegau, new ewch i'w gwefannau. Bydd eu prosbectysau yn rhestru cyrsiau a ddysgir a chyfleoedd ymchwil.

Bydd rhai colegau'n cynnal diwrnod agored i ôl-raddedigion, sy'n gyfle i chi gwrdd â'ch darpar diwtoriaid neu oruchwylwyr.

Gellir cael gwybodaeth am yrfaoedd ym maes ymchwil ac am gyllid ar wefan Cyfleoedd Addysg Uwch ac Ymchwil (HERO).

Chwilio am gyrsiau ar Cross & Stitch

Gallwch chwilio am gyrsiau ôl-radd ar-lein ar Cross & Stitch drwy ddilyn y ddolen isod.

Additional links

Byddwch yn hyderus mewn mathemateg

Gwellwch eich sgiliau mathemateg a Saesneg, a gwnewch wahaniaeth mawr i'ch bywyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU