Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Prosbectws a diwrnodau agored prifysgolion

I'ch helpu i benderfynu ble i astudio, mae pob prifysgol a choleg yn cyhoeddi prosbectws ac yn cynnal diwrnodau agored – a bydd gan rai stondin mewn digwyddiadau addysg uwch ledled y DU. Os ydych am archebu prosbectws neu archebu lle ar ddiwrnod agored, mae’n aml yn bosib i’w wneud ar y we.

Prosbectysau

Mae prosbectws prifysgol neu goleg yn rhoi gwybodaeth am gwrs neu sefydliad penodol, gwybodaeth am gyfleusterau, ffioedd hyfforddi, ysgoloriaethau, cyrsiau, llety, gwasanaethau cefnogi a mwy.

Gan amlaf, bydd prifysgolion a cholegau'n cyhoeddi dau brosbectws bob blwyddyn:

  • prosbectws i israddedigion, ar gyfer myfyrwyr a fydd yn dilyn eu cymhwyster addysg uwch cyntaf, megis gradd baglor neu Radd Sylfaen
  • prosbectws i ôl-raddedigion, sef i fyfyrwyr sydd eisoes wedi cael gradd ac sy'n dymuno gwneud gradd uwch neu gwrs ôl-radd arall

Gallwch gael gafael ar brosbectysau drwy gysylltu â’r prifysgolion a cholegau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Mewn ambell brifysgol a choleg, fe gewch chi hefyd 'brosbectws amgen' wedi'i ysgrifennu gan fyfyrwyr sy’n rhoi safbwynt myfyriwr i chi ar gyrsiau, cyfleusterau a bywyd myfyrwyr.

Digwyddiadau addysg uwch

Yn ystod blwyddyn gyntaf y chweched dosbarth, neu Flwyddyn 12, mae'n syniad da i chi fynd i ffair neu ddigwyddiad addysg uwch i gael gwybodaeth am y prifysgolion a’r colegau addysg uwch y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Ar stondinau'r arddangosfeydd, gallwch godi prosbectws a chael atebion i'ch cwestiynau – am bopeth o'r gofynion mynediad i gostau llety. Gallwch hefyd gael cyfarwyddyd am yrfa a gwybodaeth am gyllid myfyrwyr.

Cynhelir digwyddiadau addysg uwch mewn dinasoedd ar draws y DU. Ceir mynediad am ddim i’r digwyddiadau, ond efallai y bydd angen i chi gadw lle ymlaen llaw. Ar wahân i stondinau arddangos, mae'n bosib hefyd y rhoddir seminarau am bynciau megis y broses ymgeisio, blynyddoedd bwlch a chyllid myfyrwyr.

Diwrnodau agored

Fel arfer, cynhelir diwrnodau agored yn y gwanwyn neu yn yr hydref - pan fyddwch o bosib yn cael cynnig lle gan sawl prifysgol, ond cyn i chi wneud eich penderfyniad terfynol.

Er y gall darllen llenyddiaeth y brifysgol neu’r coleg roi syniad i chi o’r math o le ydyw, does dim byd tebyg i weld y lle drosoch eich hun. Mae diwrnod agored yn rhoi cyfle i chi edrych ar y safle, gweld y llety a chael sgwrs â'r staff. Mae llawer o fyfyrwyr yn dweud mai ymweld â'r lle ar ddiwrnod agored a'u helpodd i benderfynu ar eu dewis cyntaf.

Mae'n bosib y gallwch gofrestru a threfnu lle drwy wefan y brifysgol neu’r coleg. Os nad yw dyddiadau'r diwrnodau agored yn gyfleus i chi, mae'n bosib y gallwch drefnu i fynd ar daith dywys yn lle hynny, neu ymweld yn anffurfiol ar eich liwt eich hun.

I gael golwg manylach ar gwrs penodol, mae'n bosib y gallwch hyd yn oed gysgodi myfyriwr, lle byddwch yn treulio diwrnod gydag un o'r myfyrwyr sydd yno’n barod.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU