Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae addysg uwch yn golygu llawer mwy na chael cymhwyster yn unig. Mae hefyd yn cynnig y cyfle i chi gyfarfod pobl newydd a manteisio ar y cyfleoedd newydd.
Yn wahanol i’r ysgol, rydych mewn prifysgol neu goleg oherwydd eich bod yn dewis bod yno, i ddysgu mwy am bwnc neu swydd y mae gennych wir ddiddordeb ynddynt. Bydd gennych fwy o reolaeth dros sut a phryd y byddwch yn astudio – er mai eich dewis chi fydd manteisio ar hynny.
Bydd addysg uwch yn her i chi – gall dod i arfer â ffyrdd newydd o ddysgu a meddwl gymryd amser – ond byddwch yn cael llawer o hwyl ar y daith. Bydd gennych hefyd lawer o gyfleoedd i brofi pethau newydd a chyfarfod pobl newydd.
Gallwch astudio llawer o bynciau diddorol mewn prifysgol neu goleg sy’n cynnig cyrsiau addysg uwch. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn astudio un neu ddau o bynciau, ond yn fanwl iawn.
Mae cyrsiau addysg uwch ar gael mewn pynciau y gwnaethoch eu hastudio yn yr ysgol, fel mathemateg neu Saesneg. Neu bydd mwy o opsiynau annisgwyl, fel troseddeg (astudio troseddau) neu beirianneg meddalwedd (dysgu sut i ysgrifennu meddalwedd cyfrifiadurol – gemau neu raglenni eraill). Mae cyrsiau eraill yn arwain at swydd benodol: er enghraifft, newyddiaduriaeth neu feddygaeth.
Mae’n bosibl astudio cyrsiau ‘cyfunol’. Er enghraifft, gall rhywun sydd am ddilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth ond sydd â diddordeb mewn celf astudio’r ddau bwnc gyda’i gilydd.
Astudio
Mae addysg uwch yn brofiad gwahanol iawn i fod yn yr ysgol neu gael addysg bellach.
Mae disgwyl i chi wneud llawer mwy o waith drosoch eich hun. Bydd darlithoedd a seminarau yn rhoi arweiniad i chi, ond bydd angen i chi ehangu eich gwybodaeth drwy ddarllen deunydd cefndir.
Bydd staff pwnc yn cynnig llawer o gyngor i’ch helpu i ddod i arfer â’r ffordd newydd hon o weithio. Bydd staff y llyfrgell ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i’r deunyddiau sydd eu hangen arnoch a rhoi cyngor i chi ar sut i gyfeirio ac osgoi cael eich cyhuddo o lên-ladrad pan fyddwch yn ysgrifennu traethodau.
Cymdeithasu
Mae gwneud ffrindiau newydd yn rhan allweddol o’r profiad addysg uwch. Os ydych yn poeni na fyddwch yn ffitio i mewn, cofiwch fod myfyrwyr o bob cefndir a phob oed yn mynd i'r brifysgol a'r coleg.
Un ffordd o wneud ffrindiau yw drwy gymdeithasau myfyrwyr neu gymdeithasau chwaraeon. Mae bob amser yn haws dod yn ffrindiau â rhywun os oes gennych ddiddordebau cyffredin. Fwy na thebyg bydd rhestr lawn o'r cymdeithasau sydd ar gael ar wefan eich undeb myfyrwyr, a bydd gennych gyfle i ymuno â'r rhan fwyaf ohonynt yn 'ffair y glas'.
Mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau ganolfan chwaraeon eu hunain neu drefniant gyda’r ganolfan leol. Fel myfyriwr rydych yn debygol o gael defnyddio cyfleusterau chwaraeon, ac mae’n bosib y cewch ostyngiad wrth ymaelodi â champfa.
Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau yn cynnal diwrnodau agored. Yn gyffredinol cânt eu cynnal ddwy neu dair gwaith y flwyddyn, sy’n rhoi’r cyfle i aelodau o’r cyhoedd edrych o gwmpas y sefydliad a gweld yr hyn sydd ganddo i’w gynnig. Mae llawer o sefydliadau hefyd yn cynnig cyrsiau byr dros yr haf, gan roi’r cyfle i ddarpar fyfyrwyr gael blas ar addysg uwch.
Yn y digwyddiadau hyn cewch wybod gan ddarlithwyr a myfyrwyr yr holl bethau da a'r pethau drwg am fywyd prifysgol, cewch fynd am dro o amgylch y campws ac eistedd mewn darlithoedd a seminarau.
Mae gemau ar-lein UNIAID yn ffordd arall o gael syniad o sut beth yw bywydau myfyrwyr o ddydd i ddydd. Drwy fynd â chi drwy dymor fel myfyriwr rhith mae’n debygol y byddant yn codi rhai materion nad oeddech chi wedi'u hystyried hyd yn oed.