Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dewis prifysgol neu goleg

Os ydych wedi rhoi'ch bryd ar brifysgol neu goleg penodol neu os nad ydych wedi penderfynu lle i ddilyn eich dewis gwrs eto, mae rhywfaint o bwyntiau y dylech eu hystyried.

Dewis ble i astudio

Mae ble y byddwch chi'n astudio bron cyn bwysiced â beth y byddwch chi'n ei astudio. Dylech ystyried agweddau allgyrsiol eich sefydliad yn ogystal â’r rhai academaidd.

Ble bynnag yr ewch chi, byddwch chi am deimlo'n hapus ac yn fodlon. Er enghraifft, a fyddai’n well gennych fod mewn ardal wledig ynteu mewn ardal drefol? Ydych chi’n bwriadu byw gartref ynteu oddi cartref?

Byw gartref

Mae byw gartref wrth astudio wedi bod yn arfer mewn gwledydd fel Ffrainc ac Awstralia ers amser maith.

Drwy aros gartref, gallwch arbed arian ar rent yn aml a chadw mewn cysylltiad gyda bywyd cartref – ond gan barhau i wneud ffrindiau newydd a chael profiadau newydd.

I rai pobl mae’n cynnig 'y gorau o ddau fyd', ac mae'n dod yn fwy poblogaidd wrth i fwy o sefydliadau, megis colegau addysg bellach, gynnig cymwysterau addysg uwch.

Symud i ffwrdd

Mae symud i ffwrdd i astudio yn ddewis poblogaidd o hyd. Gallai symud wneud synnwyr os ydych am astudio cwrs arbennig mewn prifysgol neu goleg penodol.

Mae rhai myfyrwyr hefyd o’r farn bod y profiad o fyw mewn neuaddau preswyl, neu mewn llety sy'n cael ei rannu, yn rhan bwysig o fywyd y brifysgol. Mae eraill am gael y cyfle i fyw mewn rhan wahanol o’r wlad.

Cyfleusterau, llety a chostau

Er bod y cwrs a'r lleoliad yn hollbwysig pan fyddwch yn dewis lle i astudio, mae'n werth i chi hefyd feddwl am y pethau hyn:

  • maint y sefydliad: ai un campws sydd yno, ynteu ydy'r adeiladau wedi'u gwasgaru dros bob man?
  • cyfleusterau cymdeithasol: beth am y tafarnau, y clybiau, lleoliadau ar gyfer gwrando ar gerddoriaeth fyw, sinemâu, cyfleusterau chwaraeon?
  • llety: sut le sydd yn y neuaddau preswyl, a faint mae llety'r brifysgol a llety preifat yn ei gostio?
  • costau byw: pa mor ddrud yw costau bwyd ac adloniant?

Cymorth yn ystod eich cwrs

Mae’n ddefnyddiol ymchwilio i’r help a’r gefnogaeth a fyddai ar gael i chi mewn prifysgolion a cholegau gwahanol.

Bydd hyn yn amrywio llawer yn dibynnu ar y math o sefydliad yr ydych yn ei fynychu a’r math o help a chefnogaeth sydd ei angen arnoch. Er enghraifft, mae gan lawer o brifysgolion a cholegau ganolfannau sgiliau astudio er mwyn helpu myfyrwyr i addasu i fywyd academaidd.

Bydd gan bob prifysgol a choleg staff cymorth i’ch helpu gyda’r mathau o broblemau y gallech ddod ar eu traws, boed yn broblem ymarferol yn unig – yn broblem gyda thŷ, er enghraifft – neu’n broblem bersonol iawn.

Os oes gennych anabledd

Gall gwybod ymlaen llaw am y cymorth sydd ar gael fod yn arbennig o bwysig os oes gennych anabledd.

Mae colegau a phrifysgolion yn ymrwymedig i ddarparu ar gyfer myfyrwyr anabl - a gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol. Dilynwch y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.

Cael gwybod mwy am eich man astudio

Gan fod cymaint o gyrsiau addysg uwch ar gael, mae'n bwysig dewis yr un addas i chi. Ewch i ‘Dod o hyd i brifysgol neu goleg’ i gael rhagor o wybodaeth.

Mae mynychu diwrnod agored yn ffordd dda o gael gwybod mwy am gyfleusterau prifysgol neu goleg. Bydd hefyd yn rhoi’r cyfle i chi brofi’r awyrgylch a theimlad y sefydliad – a’r ardal y mae ynddi. Allwch chi ddychmygu treulio’r tair neu bedair blynedd nesaf yno?

Wrth gysylltu ag Undeb y Myfyrwyr yn y sefydliad o'ch dewis, byddwch chi'n gallu clywed barn myfyrwyr sydd yno'n barod am y lle. Mae llawer o undebau myfyrwyr yn cynhyrchu ‘prosbectws amgen’ yn seiliedig ar safbwyntiau myfyrwyr.

Prifysgolion a cholegau – cael ffeithiau a ffigurau

Cyn gwneud penderfyniad terfynol ar le yr hoffech astudio, rhowch rywfaint o’ch amser i edrych ar wybodaeth wrthrychol am berfformiad y coleg neu'r brifysgol. Ewch i ‘Prifysgolion, colegau a chyrsiau – ffeithiau a ffigurau’.

Ymysg ffynonellau eraill o wybodaeth, bydd dolen i wefan Unistats. Mae Unistats yn cynnwys canlyniadau o'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol, a all roi syniad i chi o farn myfyrwyr ar brifysgol neu goleg.

Allweddumynediad llywodraeth y DU