Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch yn dewis cwrs, meddyliwch am y pynciau sydd o ddiddordeb i chi, y math o gymhwyster rydych am ei gael a pha fath o astudio sydd fwyaf addas i chi. Gallwch chwilio am gwrs ar-lein.
Cewch wybod pa brifysgolion a cholegau sy’n cynnig y cwrs rydych am ei ddilyn ar-lein:
Proffiliau mynediad UCAS a phrosbectws prifysgolion
Mae peiriant chwilio cyrsiau UCAS yn rhoi’r cyfle i chi edrych ar ‘broffil mynediad’ cwrs. Yn ogystal â’r cymwysterau a’r graddau y bydd eu hangen arnoch, gall y rhain gynnwys gwybodaeth fanwl am y pwnc a strwythur y cwrs a mwy.
Mae prosbectws prifysgolion a diwrnodau agored yn ffynonellau defnyddiol eraill o wybodaeth.
Ond mae amrywiaeth eang o gyrsiau ar gael, a digon o bethau i chi eu hystyried cyn y byddwch yn gwneud eich dewis.
Mae llawer mwy o bynciau ar gael mewn addysg uwch nag yn yr ysgol. Cyrsiau galwedigaethol yw llawer o'r rhain ac maen nhw'n arwain yn syth at yrfa, er enghraifft nyrsio neu gyfrifyddeg. Mae eraill yn gyrsiau academaidd, sy'n amrywio o bynciau yr ydych o bosib wedi'u hastudio o'r blaen megis Ffrangeg neu Ddaearyddiaeth, i bynciau llai cyfarwydd, megis Polisi Cymdeithasol.
Bydd angen i chi edrych y tu hwnt i deitl y cwrs. Gall hyd yn oed cyrsiau gyda'r union yr un enw (ac mae hynny’n debygol iawn) amrywio’n fawr. Edrychwch yn ofalus ar y gwahaniaethau rhwng y cyrsiau o fewn eich pwnc cyn penderfynu pa un i wneud cais ar ei gyfer.
Er enghraifft, os oes gennych ddiddordeb mewn adeiladu ond yr hoffech ddefnyddio eich sgiliau creadigol, efallai y byddai cwrs Rheoli Dylunio Adeiladau yn fwy addas ar eich cyfer yn hytrach na chwrs Rheoli Prosiect Adeiladu.
Caiff cyrsiau addysg uwch eu rhoi at ei gilydd gan brifysgolion a cholegau unigol, felly bydd yr hyn y byddant yn eu cynnwys (a sut y cânt eu cyflwyno) yn amrywio llawer - gan ddefnyddio cryfderau'r staff a'r cyfleusterau sydd ar gael.
Mae llawer o bethau i’w hystyried wrth ddewis y cwrs sydd fwyaf addas i chi.
Cymwysterau addysg uwch
Mae llawer o bobl yn gwneud graddau, megis cymhwyster baglor yn y gwyddorau (BSc) neu faglor yn y celfyddydau (BA). Mae’r opsiynau eraill yn cynnwys astudio ar gyfer Gradd Sylfaen, Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC), Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu ddiploma addysg uwch.
Dull astudio
Meddyliwch am y math o ddysgu sydd fwyaf addas i'ch anghenion a'ch ymrwymiadau chi - gallwch ddewis cwrs amser llawn, cwrs rhan amser neu lwybr dysgu hyblyg megis cwrs e-ddysgu neu ddysgu o bell.
Elfennau ac opsiynau’r cwrs
Gweld pa fath o gyfuniadau o gyrsiau sydd ar gael. Mae cyrsiau ‘Cydanrhydedd’ yn cyfuno meysydd pwnc gwahanol: er enghraifft, gallech astudio Saesneg gyda Hanes.
Mae llawer o gyrsiau yn rhai ‘modiwlaidd’. Golyga hyn eu bod wedi eu creu o flociau pwnc gwahanol sy’n delio â meysydd o ddiddordeb penodol. Gellir cyflwyno modiwlau drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddarlithoedd, seminarau a/neu weithdai.
Efallai y bydd rhai o’r modiwlau y byddwch yn eu hastudio’n ddewisol, ac eraill yn orfodol. Y naill ffordd neu’r llall, mae’n bwysig ystyried yr elfennau a fydd yn ffurfio eich cwrs.
Mae rhai cyrsiau yn cynnwys lleoliadau, blynyddoedd ‘rhyng-gwrs’ neu hyd yn oed flynyddoedd dramor yn astudio neu’n cael profiad gwaith. Mae Graddau Sylfaen, er enghraifft, yn cynnwys dysgu yn seiliedig ar waith. Efallai fod yr opsiynau hyn o ddiddordeb i chi’n bersonol, neu i gyflogwyr y dyfodol. Os felly, chwiliwch am gyrsiau sy’n cynnig y cyfleoedd hyn.
Addysg uwch a’ch gyrfa
Er ei bod yn bwysig astudio pwnc rydych yn ei fwynhau, mae'n ddefnyddiol ystyried y math o yrfa rydych am ei chael ar ôl i chi orffen eich cwrs.
Os oes pwnc arbennig rydych yn ei fwynhau ond eich bod am ddilyn gyrfa mewn maes gwahanol, efallai y dylech ystyried gwneud cwrs cyfunol. Bydd y rhain yn eich galluogi i astudio dau bwnc (neu fwy).
Gall offer ar-lein fel y prawf Stamford eich helpu i gyfateb eich diddordebau a’ch galluoedd i wneud cyrsiau addysg uwch. Gallant roi syniad defnyddiol iawn o ba gwrs fyddai fwyaf addas i chi.
Unwaith y byddwch wedi creu rhestr fer o’r cyrsiau sy’n apelio atoch, mae'n syniad da edrych ar rai o’r ffynonellau gwybodaeth eraill amdanynt. Gweler ‘Prifysgolion, colegau a chyrsiau – ffeithiau a ffigurau’ i gael manylion am sut i gael adroddiadau annibynnol ar gyfraddau cwblhau, boddhad myfyrwyr a mwy.
Mae’n werth cofio hefyd nad dim ond wrth ddewis y cwrs iawn y gellir cael y gorau o addysg uwch. Gweler ‘Dewis coleg neu brifysgol’ i gael cyngor ar ddod o hyd i’r man cywir i astudio.