Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cyn gwneud penderfyniad terfynol am eich cais, mae’n werth edrych ar wybodaeth am brifysgolion, colegau a chyrsiau gan ffynonellau annibynnol a gwrthrychol. Mae’r rhain yn cynnwys gwefan Unistats ac adroddiadau’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA).
Efallai na fydd y cwrs ‘gorau’ ar gyfer un myfyriwr y cwrs ‘gorau’ o anghenraid i fyfyriwr arall: mae blaenoriaethau pobl yn wahanol. Ond gallwch ddefnyddio gwefan Unistats i gymharu ffeithiau a ffigurau sefydliadau a chyrsiau. Fe welwch chi wybodaeth am y pethau hyn:
Fe welwch hefyd fanylion am farn myfyrwyr ar ansawdd dysgu, cefnogaeth academaidd a mwy yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol.
Nid oes unrhyw dablau swyddogol yn y DU ar gyfer prifysgolion a cholegau, er y bydd nifer o bapurau newydd yn cynhyrchu eu tablau answyddogol eu hunain.
Mae prifysgolion a cholegau’n gyfrifol am safonau ac ansawdd y cyrsiau a gynigant. Sicrhau ansawdd mewnol yw hyn. Fodd bynnag, bydd y QAA hefyd yn mynd ati i edrych pa mor dda mae sefydliadau'n cynnal y safonau hyn, gan sicrhau ansawdd yn allanol. Mae’r QAA yn llunio adolygiadau ac adroddiadau sy'n nodi arferion da ac yn argymell camau gweithredu. Mae hefyd yn darparu arweiniad ar ba mor ddibynadwy yw’r wybodaeth am safonau ac ansawdd a gyhoeddir gan bob prifysgol neu goleg.
Bydd rhai proffesiynau'n cymeradwyo neu'n achredu cyrsiau sy'n berthnasol i'w maes. Os ydych chi'n gobeithio dilyn gyrfa mewn maes penodol, holwch a yw eich cwrs chi'n un o'r rhai a gymeradwywyd gan y corff proffesiynol perthnasol. Dylai pob sefydliad allu rhoi'r wybodaeth hon i chi.
Mae dewis lle i fynd a beth i'w astudio'n benderfyniad pwysig, felly mae'n werth casglu cymaint o wybodaeth ag y gallwch. Defnyddiwch y ddolen isod i gael manylion am fwy o ffynonellau gwybodaeth.