Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd prifysgolion a cholegau'n cynnig cyrsiau academaidd yn ogystal â chyrsiau cysylltiedig â gwaith. A dibynnu ar y pwnc a'r math o swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi, mae sawl math o gymwysterau ar gael i chi – mae mwy i addysg uwch na chael gradd.
Cymwysterau addysg uwch ydy graddau, sy'n eich helpu i feithrin gwybodaeth drylwyr am bwnc. Mae sawl gwahanol fath, a nifer helaeth o bynciau i ddewis ohonynt.
Gall gradd baglor (a elwir weithiau'n radd 'gyffredin' neu'n radd 'gyntaf') arwain at gymhwyster megis baglor y celfyddydau (BA), baglor Gwyddoniaeth (BSc), neu faglor meddygaeth (MB). Bydd fel arfer yn cymryd tair neu bedair blynedd i fyfyriwr amser llawn gwblhau gradd, yn dibynnu ar y pwnc.
I gael gwybod mwy, gweler 'Graddau Baglor'.
Graddau Sylfaen
Mae Graddau Sylfaen yn cyfuno astudiaeth academaidd gyda dysgu yn y gweithle. Maent yn cyfateb yn fras i ddwy flynedd gyntaf gradd baglor.
Mae'r rhain yn cynnig llwybr i'r brifysgol neu i'r coleg ar gyfer amrywiaeth eang o fyfyrwyr o sawl cefndir gwahanol.
Fel arfer, disgwylir bod gennych radd baglor cyn mynd ymlaen i wneud gradd uwch (a elwir hefyd yn gyrsiau ôl-radd), diplomâu a thystysgrifau uwch. Mae'r rhain yn arwain at gymwysterau megis meistr yn y celfyddydau (MA) a meistr yn y gwyddorau (MSc).
Gweler 'Cymwysterau ôl-radd' i gael gwybod mwy.
Cyrsiau cysylltiedig â gwaith yw HNC ac HND a ddarperir gan golegau addysg uwch a cholegau addysg bellach. Maent ar gael mewn amrywiaeth eang o bynciau'n amrywio o gyfrifeg i gynhyrchu fideo.
Yn ogystal ag ar gyfer HNC ac HND, fe allwch hefyd astudio i wneud amrywiaeth o ddiplomâu addysg uwch mewn pynciau mor amrywiol â chyfrifeg, adeiladu, peirianneg, nyrsio, gwyddoniaeth, technoleg a dylunio tecstilau. Cyrsiau dwy flynedd fydd y rhain fel arfer.
Fel arfer, gallwch drosi eich diploma addysg uwch yn radd gyda blwyddyn arall o astudio.
Cymwysterau academaidd, yn hytrach na rhai galwedigaethol, yw tystysgrifau addysg uwch. Maent yn cyfateb yn fras i HNC, ac fel arfer yn cymryd blwyddyn o astudio ar raddfa amser llawn i'w cwblhau.