Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i wneud cais am gyrsiau addysg uwch

Mae sut a phryd y byddwch yn gwneud cais am gyrsiau addysg uwch yn dibynnu ar ba fath o gwrs rydych yn gwneud cais ar ei gyfer - ac, mewn rhai achosion, pa brifysgolion neu golegau rydych yn gwneud cais ar eu cyfer. Pa bynnag lwybr y byddwch yn ei ddilyn, mae’n ddefnyddiol dechrau paratoi ymhell ymlaen llaw.

Cyrsiau llawn amser: sut i wneud cais

Gyda'r rhan fwyaf o gyrsiau israddedig llawn amser, bydd angen i chi wneud cais ar-lein drwy wefan UCAS. Ewch i ‘Canllaw i fynediad at addysg uwch drwy UCAS’ i gael sut y mae yn gweithio.

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd adref, yn yr ysgol neu yn y coleg, ceisiwch ymweld â’ch canolfan ar-lein DU agosaf.

Os ydych yn gwneud cais i ysgol gerdd

Ymdrinnir â cheisiadau i bob ysgol cerddoriaeth y DU, ac eithrio’r Guildhall School of Music and Drama a’r Academi Frenhinol Cerddoriaeth, gan y Gwasanaeth Derbyn Ysgolion Cerddoriaeth y DU (CUKAS).

Cyrsiau ôl-radd

Mae’r drefn am wneud cais yn wahanol ar gyfer cyrsiau ôl-radd, gan gynnwys Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon.. Ewch i ‘Dod o hyd i le ôl-radd’ am ragor o wybodaeth.

Cyrsiau llawn amser: pryd i wneud cais

Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r dyddiadau cau

Er mwyn cael eich ystyried ‘ar amser’, bydd angen i chi fodloni’r amserlen berthnasol. Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau llawn amser, bydd hyn yn digwydd ar 15 Ionawr cyn y byddwch yn dechrau chwilio (tua naw mis cyn i’r cyrsiau ddechrau ym mis Medi).

Am gyrsiau a sefydliadau penodol, gall y dyddiad cau fod yn gynt neu’n ddiweddarach.

Ewch i ‘Cwblhau eich cais UCAS’ i gael mwy o fanylion am amserlenni.

Cyrsiau rhan amser: sut i wneud cais

Gyda chyrsiau rhan amser, gwnewch gais uniongyrchol i'ch prifysgol neu'ch coleg. Gallwch chwilio am gyrsiau rhan amser ar-lein ar wefan Cross & Stitch.

Paratoi i wneud cais

Er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich cwrs addysg uwch, mae’n syniad da dechrau ymchwilio i’ch opsiynau ymhell ymlaen llaw.

Dechreuwch feddwl am y peth o leiaf blwyddyn cyn dyddiad cau’r cais. Gallwch gael awgrymiadau ar bethau i’w hystyried yn ‘Lle i fynd, beth i’w astudio’.

Os ydych yn gwneud cais drwy UCAS, mae’n syniad da cofrestru ar gyfer eu gwasanaeth ‘Apply' cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i chi weithio ar eich cais – yn enwedig yr adran ‘datganiad personol’.

Cyn i chi wneud cais

Os ydych yn bwriadu cymryd blwyddyn allan, sicrhewch eich bod yn cysylltu â’ch colegau a'ch prifysgolion i weld a wnânt dderbyn cais am fynediad wedi’i ohirio.

Os oes gennych amser, gall cael rhywfaint o brofiad gwaith sy’n berthnasol i’ch cwrs helpu i wneud eich cais yn fwy nodedig

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU