Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch chi'n gwneud cais am le amser llawn drwy UCAS ac na chewch chi unrhyw gynnig, mae'n bosib y cewch chi ail gyfle i gael lle drwy UCAS Extra.
Mae UCAS Extra ar gael o ddiwedd Chwefror hyd ddiwedd Mehefin
Os bu i chi wneud cais ar gyfer pum cwrs ar eich cais UCAS ac na wnaethoch lwyddo i gael cynnig (neu os bu i chi wrthod y rhai a gawsoch), bydd gennych ail gyfle i wneud cais am le drwy ddefnyddio Extra. Mae’r gwasanaeth yn dechrau ddiwedd mis Chwefror ac yn weithredol hyd ddiwedd mis Mehefin.
Mae UCAS Track yn eich galluogi i gael y wybodaeth ddiweddaraf am hynt eich cais ar-lein. Os byddwch yn gymwys i gael Extra, bydd botwm yn ymddangos ar eich sgrîn Track a gallwch ei ddefnyddio i wneud cais am gwrs.
I ddod o hyd i gwrs drwy'r system Extra, chwiliwch am lefydd gwag ar gyrsiau ar wefan UCAS, neu cysylltwch yn uniongyrchol â'r prifysgolion a'r colegau.
Ni allwch wneud cais am fwy nag un cwrs ar y tro drwy Extra. Unwaith y byddwch wedi gwneud cais Extra (drwy eich sgrîn Track), bydd UCAS yn anfon eich cais ymlaen at y brifysgol neu’r coleg rydych wedi’i ddewis.
Os byddwch yn newid eich meddwl, bydd y system Track yn gadael i chi gyfeirio eich cais i rywle arall bob 21 diwrnod – ar yr amod nad ydych wedi cael cynnig yn rhywle.
Cysylltwch â’r lle sy’n ystyried eich cais yn uniongyrchol i roi gwybod iddynt nad ydych am gael eich ystyried bellach cyn cyfeirio eich hun at brifysgol neu goleg arall.
Cyn gynted ag y byddwch chi'n derbyn cynnig, boed hwnnw'n amodol neu'n ddiamod, byddwch yn ymrwymo i'r cwrs hwnnw a chewch chi ddim gwneud cais am fwy o gyrsiau drwy gyfrwng Extra.
Os byddwch chi'n gwrthod cynnig, neu os bydd y brifysgol neu'r coleg yn eich gwrthod chi, cewch wneud cais am gwrs arall - os oes gennych ddigon o amser i wneud hynny.
Os na chewch chi gynnig, rhaid i chi aros am ganlyniadau'ch arholiadau ac yna chwilio am le drwy'r system Glirio.