Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cefnogaeth anabledd mewn addysg uwch

Mae prifysgolion a cholegau yn dod yn fwyfwy ymwybodol o anghenion myfyrwyr anabl a myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol. Gallant ddarparu cymorth mewn sawl ffordd - ac efallai y gallwch gael cymorth ariannol ychwanegol.

Beth yw addysg uwch?

Addysg uwch yw’r cam nesaf ar ôl addysg bellach. Drwy astudio mewn prifysgol neu goleg, byddwch yn gweithio tuag at un o amrywiol gymwysterau – megis gradd (er enghraifft, BA neu BSc) gradd sylfaen, neu ddiploma/tystysgrif addysg uwch. Gallwch fynd i addysg uwch ar unrhyw oedran ond mae llawer o bobl yn gwneud hyn pan fyddant tua 18 oed.

Mae llawer o bethau i’w hystyried os ydych yn bwriadu mynd i addysg uwch, ac fel myfyriwr anabl bydd angen i chi ystyried y pethau canlynol yn ofalus:

  • ble i astudio
  • y gefnogaeth y bydd ei hangen arnoch o bosibl wrth astudio
  • cymorth gyda byw bob dydd
  • arian a chyllido

Am wybodaeth gyffredinol am brifysgolion ac addysg uwch, gweler adran 'addysg a dysgu - cyffredinol' Cross & Stitch.

Ble i astudio

Mae’n ddyletswydd ar brifysgolion a cholegau addysg uwch i ddarparu ar gyfer myfyrwyr anabl.

Dylai pob man astudio gyhoeddi Datganiad Anabledd sy'n nodi sut y maent yn darparu cefnogaeth. Gallwch ofyn am gael gweld copi o'r datganiad hwn, yn ogystal ag edrych ar eu gwefan i weld manylion am eu polisïau.

Gall y gefnogaeth a ddarperir gan golegau a phrifysgolion gynnwys:

  • llety wedi'i addasu ar gyfer anghenion myfyrwyr anabl
  • staff gofal proffesiynol
  • cymorth gan wirfoddolwyr

Mae gan bob prifysgol neu goleg Gynghorydd Anabledd neu Gydlynydd Cymorth Dysgu er mwyn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich cyfnod mewn addysg uwch. Gallant ddweud wrthych am y gefnogaeth sydd ar gael - er enghraifft, cyfarpar i'ch helpu chi astudio. Pan fyddwch yn gwneud cais i brifysgol, nid oes yn rhaid i chi roi gwybod iddynt am eich anabledd – ond bydd angen i chi wneud hynny i gael unrhyw gymorth neu arian ychwanegol.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gysylltu â chynghorydd anabledd eich prifysgol neu goleg neu’r cydlynydd anabledd cyn i chi wneud eich penderfyniad terfynol o ran ble i astudio. Mae hefyd yn syniad da ymweld â'r sefydliad eich hun.

Cymorth tra’r ydych yn astudio

Mae llawer o bethau y gall prifysgolion ei wneud i helpu myfyrwyr ag anableddau. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • darparu deunyddiau cwrs mewn Braille a fformatau hawdd eu defnyddio eraill
  • sicrhau bod modd defnyddio adeiladau a chyfleusterau
  • annog dulliau addysgu hyblyg
  • darparu cymorth adeg arholiadau
  • rhoi amser ychwanegol i gwblhau cyrsiau

Efallai hefyd y bydd angen cymorth bob dydd arnoch i'ch helpu i astudio. Gallai hwn fod yn rhywun:

  • i drosi geiriau i iaith arwyddion
  • i gymryd nodiadau i chi
  • i ysgrifennu'r hyn y byddwch yn ei ddweud - er enghraifft, mewn arholiad
  • i'ch helpu chi i oresgyn rhwystrau corfforol

Byddai’n ddefnyddiol cysylltu â’ch ymgynghorydd anabledd neu gydlynydd anabledd yn fuan ar ôl i chi gyrraedd y brifysgol neu’r coleg fel y gallwch gael gwybod am y cymorth sydd ar gael.

Lwfansau Myfyrwyr Anabl a chymorth ariannol arall

Os oes gennych anabledd, anhawster dysgu penodol (megis dyslecsia) neu gyflwr iechyd meddwl, efallai fod gennych yr hawl i gael cymorth ariannol ychwanegol tuag at gostau offer arbenigol, cynorthwyydd anfeddygol neu gostau teithio ychwanegol.

Os byddwch yn gymwys i gael Lwfansau Myfyrwyr Anabl, cânt eu talu yn ychwanegol i unrhyw gymorth myfyriwr safonol y byddwch yn ei gael. Nid ydynt yn amodol ar brawf modd, ac nid oes yn rhaid i chi eu talu yn ôl.

Cymorth gyda byw bob dydd

Mae gennych hawl i ofyn i'ch adran gwasanaethau cymdeithasol yn lleol am asesiad o'ch anghenion byw bob dydd, gan gynnwys unrhyw gymorth neu ofal personol y gallech fod ei angen. Wrth fynd i'r brifysgol neu'r coleg, efallai na fydd y gefnogaeth a oedd ar gael gartref ar gael mwyach. Fodd bynnag, dylai'r gwasanaethau cymdeithasol ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

Gallwch ddewis derbyn 'taliadau uniongyrchol' i brynu gwasanaethau sy'n bodloni'ch anghenion asesedig yn hytrach na derbyn gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Cymorth a chyngor pellach

Os ydych mewn addysg bellach ar hyn o bryd, gallwch gael cyngor ac arweiniad gan eich athro neu'r coleg am y cyrsiau, y colegau neu'r prifysgolion y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Mae'r gwasanaeth Connexions yn helpu pobl anabl gydol eu hamser mewn addysg bellach ac uwch, weithiau hyd at 25 oed.

Mae digon o wybodaeth ddefnyddiol am bob agwedd ar fywyd myfyrwyr ar gael drwy Skill: y Biwro Cenedlaethol i Fyfyrwyr ag Anableddau. Yn ogystal â rhedeg gwefan, mae gan Skill linell gymorth hefyd - ffoniwch 0800 328 5050.

Additional links

Cyngor gyrfa am ddim

Awgrymiadau am eich CV, dod o hyd i gwrs, proffiliau swydd a llawer mwy ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd

Allweddumynediad llywodraeth y DU