Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cefnogaeth anabledd yn y coleg

Gall addysg bellach fod yn ffordd wych o agor drysau newydd yn eich gyrfa, ehangu'ch dewisiadau gyrfa neu baratoi at addysg uwch. Os ydych chi'n anabl neu os oes gennych anhawster dysgu penodol, ni ddylai hyn gyfyngu'ch dewisiadau.

Addysg bellach a’ch rhagolygon

Pa un a ydych yn 16 neu'n 60, mae amrywiaeth anferth o gyrsiau ar gael. Mae'r dewisiadau'n amrywio o gyrsiau sy'n canolbwyntio ar sgiliau darllen, ysgrifennu a rhifau sylfaenol i gyrsiau TGAU a Safon Uwch. Ceir cyfleoedd hefyd i ymgymryd â dysgu yn y gwaith, drwy gyfrwng cymwysterau NVQ a phrentisiaethau.

Os oes gennych nam neu anhawster dysgu, ni ddylai hyn gyfyngu ar eich dewisiadau. Bydd angen i chi fod yn ofalus wrth ddewis cwrs neu sefydliad a fydd yn addas i chi.

Cefnogaeth mewn coleg neu chweched dosbarth

Mae'n rhaid i bob coleg a chweched dosbarth wneud 'addasiadau rhesymol' er mwyn sicrhau nad yw pobl anabl dan anfantais sylweddol.

Efallai y byddant, er enghraifft, yn darparu cefnogaeth un i un, dehonglydd iaith arwyddion neu gopïau o ddogfennau ar ffurfiau eraill.

Mae'r mathau o gymorth sydd ar gael yn amrywiol, felly mae'n bwysig holi ymlaen llaw. Mae'n syniad da ymweld â'r lle er mwyn i chi allu gweld drosoch eich hun beth sydd ar gael. Gall Cynghorydd Cymorth Dysgu neu Gydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig y coleg roi manylion i chi.

Gallwch hefyd gael copi o Ddatganiad Cydraddoldeb Anabledd y coleg neu'r ysgol. Bydd hwn yn nodi sut mae'n bwriadu hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bobl anabl. Efallai y bydd arnoch chi angen cymorth nad yw'n cael ei gynnwys yn y Datganiad Anabledd. Fodd bynnag, efallai y gall y coleg ei gynnig, ac felly mae angen i chi ofyn.

Mynd i goleg arbenigol

Os na all eich coleg lleol gynnig cwrs addas ar gyfer eich anghenion anabledd chi, efallai y gallwch gael lle mewn coleg arbenigol. Mae'r rhan fwyaf o'r colegau hyn yn annibynnol ac yn darparu'n benodol ar gyfer myfyrwyr ag anableddau neu anawsterau dysgu. Byddant yn aml yn golegau preswyl.

Cysylltwch â'ch cynghorydd Connexions personol neu â Connexions Direct os ydych chi'n meddwl y gall hyn fod yn opsiwn i chi.

Bydd angen i chi gael cymorth ariannol gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau, yn seiliedig ar asesiad o'ch anghenion. Cynhelir yr asesiad gan y gwasanaeth Connexions. Gallwch hefyd gael cyngor am y broses ymgeisio gan y gwasanaeth.

Mynd i addysg bellach a chithau'n 16 oed

Pontio rhwng yr ysgol ac addysg bellach

Os oedd gennych ddatganiad anghenion addysgol arbennig pan oeddech yn yr ysgol, dylai fod gennych 'gynllun pontio' sy'n rhoi manylion y gefnogaeth y bydd ei hangen arnoch ar ôl i chi adael. Os byddwch yn parhau i astudio yn yr ysgol ac yn mynd i'r chweched dosbarth, byddwch yn parhau i gael y cymorth a nodir yn eich datganiad.

Dylai eich coleg chweched dosbarth dalu am eich cymorth i ddysgu. Trefnir gwasanaethau personol neu feddygol drwy'r awdurdod iechyd lleol neu'r adran gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal chi.

Dylai eich cynghorydd personol yn Connexions weithio gyda'r gwahanol asiantaethau hyn i wneud yn siŵr bod trefniadau ar waith.

Cyngor am eich dewisiadau a chithau'n 16 oed

Mae Connexions Direct yn rhoi cyngor am ddysgu, gyrfaoedd a mwy. Os ydych chi'n anabl neu os oes gennych anhawster dysgu, gallwch gael cymorth nes eich bod yn 25 oed.

rhadffôn 0808 001 3219
ffôn testun 08000 968 336

Gallwch hefyd gysylltu dros e-bost neu drwy anfon neges destun.

Mynd i addysg bellach a chithau'n oedolyn)

Gweler ‘Dechreuwch ddysgu’ i gael cyfarwyddyd ar fynd i addysg bellach - p'un a ydych yn awyddus i wneud iawn am rywbeth y gwnaethoch golli allan arno yn yr ysgol, neu'n awyddus i baratoi ar gyfer cwrs addysg uwch.

Dysgu gartref

Mae cyrsiau e-ddysgu a dysgu o bell yn gadael i chi wneud eich gwaith i gyd, neu'n rhannol, gartref. Mae'n werth ystyried y dewis hwn os oes gennych anabledd sy'n ei gwneud yn anodd i chi fynd i'r

Hyfforddiant preswyl ar gyfer oedolion anabl

Os ydych yn ddi-waith a'r gallu gennych i weithio ond nad oes hyfforddiant addas ar gael yn lleol, efallai y bydd modd i chi fynd ar gynllun hyfforddiant preswyl. Mae mwy na 50 o gyrsiau galwedigaethol yn cael eu cynnig, a chewch lwfans i'ch helpu gyda'ch costau.

Cyngor am gyrsiau dysgu i oedolion

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd i gael cyfarwyddyd diduedd a di-dâl ar ddod o hyd i gwrs.

  • Rhadffôn 0800 100 900

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd modd i chi hefyd gael cyngor personol ac wyneb-yn-wyneb gan eich gwasanaeth nextstep lleol.

Hawlio budd-daliadau a chithau mewn addysg bellach

Lwfans Byw i’r Anabl

Gallai'r Lwfans Byw i'r Anabl ddarparu cymorth ariannol os bydd angen gofal personol arnoch neu os ydych yn cael anhawster wrth gerdded oherwydd anabledd.

Ni fydd dechrau ar gwrs yn effeithio ar eich hawliad.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Os oes gennych anabledd a'ch bod ar incwm isel, efallai y bydd modd i chi hefyd hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm tra'ch bod yn astudio.

Budd-dal Analluogrwydd

Taliad wythnosol ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd yw Budd-dâl Analluogrwydd.

Os ydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd ar hyn o bryd, mae'n bosib i chi barhau i'w hawlio tra'ch bod yn dilyn cwrs.

Cymhorthdal Incwm

Os oes gennych anabledd a'ch bod ar incwm isel, efallai y bydd modd i chi hefyd hawlio Cymhorthdal Incwm tra'ch bod yn astudio.

Mwy am hawlio budd-daliadau a chithau'n astudio

I gael canllaw manwl ar hawlio budd-daliadau a chithau'n fyfyriwr anabl, ewch i wefan Skill.

Mae gan Cross & Stitch wybodaeth am fudd-daliadau eraill y bydd modd i chi eu hawlio o bosib os ydych chi'n fyfyriwr anabl ar incwm isel - megis Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor.

Additional links

Cyngor gyrfa am ddim

Awgrymiadau am eich CV, dod o hyd i gwrs, proffiliau swydd a llawer mwy ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd

Allweddumynediad llywodraeth y DU