Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dysgu a’ch hawliau

Diwygiodd Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 gan ei wneud yn anghyfreithlon i ddarparwyr addysg gamwahaniaethu yn erbyn disgyblion a myfyrwyr anabl ac oedolion anabl sy'n dysgu. Aeth y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 ymhellach drwy roi dyletswydd gadarnhaol i’r rhan fwyaf o awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo cydraddoldeb anabledd.

Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995

Fe wnaeth y ddeddfwriaeth wahardd y rhan fwyaf o ddarparwyr nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau rhag trin pobl anabl yn llai ffafriol oherwydd eu hanabledd, oni bai y gallent gyfiawnhau'r driniaeth hon.

Yn wreiddiol nid oedd y gwaharddiad yn berthnasol i'r rhan fwyaf o ddarparwyr addysg, ond ymestynodd Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 i gynnwys:

  • awdurdodau addysg lleol (AALlau)
  • ysgolion
  • colegau
  • prifysgolion
  • darparwyr addysg i oedolion
  • y gwasanaeth ieuenctid statudol

Mae Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 hefyd yn golygu bod yn rhaid i'r cyrff hyn wneud addasiadau rhesymol, er mwyn sicrhau nad yw pobl anabl anabl dan anfantais sylweddol o'i gymharu â phobl nad ydynt yn anabl. Ar gyfer y rhan fwyaf o ddarparwyr addysg, gall gwneud 'addasiadau rhesymol' gynnwys

  • newidiadau i arferion neu weithdrefnau
  • newidiadau i nodweddion ffisegol
  • darparu cymorth ychwanegol (fel athrawon neu offer arbenigol)

Fodd bynnag, i ysgolion, nid yw'r ddyletswydd o dan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 i wneud 'addasiadau rhesymol' yn cynnwys darparu cymorth ychwanegol neu newid nodweddion ffisegol. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod cymorth ychwanegol eisoes ar gael i ddisgyblion ysgolion sydd â datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig, a disgwylir i ysgolion wneud cynlluniau tymor hwy ar gyfer gwella mynediad i'w hadeiladau.

Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 a’r Ddyletswydd ym maes Cydraddoldeb Anabledd

Cyflwynodd y Ddeddf hon ddyletswyddau newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus:

  • hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl
  • cymryd camau i ddileu gwahaniaethu ac aflonyddu
  • cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl, yn nodi sut y maent yn bwriadu gwneud hynny

Y nod yw dylanwadu ar y ffordd y mae cyrff cyhoeddus - gan gynnwys darparwyr addysg - yn gwneud penderfyniadau a datblygu eu polisïau, gan eu hannog i ystyried anghenion pobl anabl fel rhan o'u gweithgareddau bob dydd.

Deddfwriaeth anghenion addysgol arbennig (AAA)

Cafwyd darpariaeth yn Neddf Addysg 1996 ar gyfer cyhoeddi Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig. Mae'r cod ymarfer hwn yn rhoi arweiniad ymarferol i ddarparwyr addysg ar sut i nodi ac asesu plant gydag anghenion addysgol arbennig. Mae'n rhaid i sefydliadau cyn-ysgol a meithrinfeydd, ysgolion y wladwriaeth ac AALlau ystyried y cod hwn. Rhaid i wasanaethau cymdeithasol ac iechyd hefyd ystyried y cod wrth helpu AALlau.

I gyd-fynd â'r cod ymarfer, mae'r Adran Addysg a Sgiliau wedi cynhyrchu llyfryn, 'Special educational needs - a guide for parents and carers'. Gallwch lwytho copi oddi ar wefan Teachernet.

Anghenion addysgol arbennig: cyn-ysgol ac ysgol

Gofynnwch am gael gweld polisi'r ysgol ar Anghenion Addysgol Arbennig fel eich bod yn gwybod pa gymorth y gallant ei gynnig.

Os nad yw anghenion eich plentyn yn cael eu diwallu gan drefniadau anffurfiol darparwr addysg gynnar neu ysgol eich plentyn, gallwch chi, neu'r person proffesiynol sydd wedi bod yn gysylltiedig ag addysg eich plentyn, ofyn am 'asesiad statudol' o'i anghenion.

Anghenion addysgol arbennig: addysg bellach

Y Cyngor Dysgu a Sgiliau a'r AALl sy'n gyfrifol am dalu am gost addysg amser llawn unigolion hyd at 19 oed. Os penderfyna'r Cyngor Dysgu a Sgiliau mai dim ond drwy fynychu coleg preswyl arbenigol y gellir diwallu eich anghenion, mae'n ddyletswydd arnynt i gyllido hynny.

Os oes gennych ddatganiad AAA, rhaid i'ch AALl weithio gyda'r gwasanaethau cymdeithasol fel rhan o'ch 'Cynllun Pontio' wrth ichi nesáu at oedran gadael ysgol.

Anghenion addysgol arbennig: addysg uwch

Wrth fynd i'r brifysgol neu'r coleg, efallai na fydd y ffynonellau o gefnogaeth a oedd ar gael gartref ar gael mwyach. Fodd bynnag, dylai'r gwasanaethau cymdeithasol roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i chi ac mae gennych hawl i ofyn i'ch adran gwasanaethau cymdeithasol lleol am asesiad o'ch anghenion byw bob dydd, gan gynnwys unrhyw gymorth neu ofal personol y gallech fod ei angen.

Dylai pob sefydliad addysg uwch gyhoeddi datganiad Anabledd sy'n nodi sut y maent yn darparu cefnogaeth. Gallwch ofyn am weld copi o’r datganiad hwn.

Cymorth a chyngor wrth y Comisiwn Hawliau Anabledd

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CHA) yn ffynhonnell dda o gyngor os teimlwch i chi ddioddef gwahaniaethu yn eich erbyn mewn addysg neu fan arall. Mae llinell gymorth y comisiwn yn rhoi cyngor a gwybodaeth am y ddeddfwriaeth ar wahaniaethu ar sail anabledd i bobl anabl, eu ffrindiau a'u teuluoedd, cyflogwyr, darparwyr gwasanaeth, ysgolion a cholegau.

Rhif Ffôn: 08457 622 633

Ffôn testun: 08457 622 644

Ffacs: 08457 778 878

Mae'r llinellau ar agor rhwng 9am a 5pm ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener; a rhwng 8am a 8pm ddydd Mercher.

Allweddumynediad llywodraeth y DU