Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Delio â bwlio

Mae bwlio'n annerbyniol. Os caiff eich plentyn ei fwlio yn yr ysgol, dylai fod gan yr ysgol bolisïau a gweithdrefnau i'ch cefnogi. Mae cyrff eraill ar gael hefyd a all eich helpu a chynnig rhagor o wybodaeth a chyngor i chi os bydd angen.

Adnabod bwlio

Gellir diffinio bwlio fel ymddygiad sy'n brifo rhywun yn fwriadol ac sy'n cael ei ailadrodd dros gyfnod. Gall hyn gynnwys:

  • pryfocio, sylwadau difrïol a galw enwau
  • bygythiadau a thrais corfforol
  • difrod i eiddo
  • disgyblion yn cael eu gadael allan o weithgareddau cymdeithasol yn fwriadol
  • ymledu straeon
  • negeseuon ffôn symudol neu e-bost cas
  • negeseuon ffôn symudol neu e-bost cas (a elwir ambell waith yn seiber-fwlio)

Os bydd eich plentyn yn cael ei fwlio

Mae'n bosibl na fydd eich plentyn yn dweud wrthych ei fod yn cael ei fwlio ond efallai y bydd yn arddangos symptomau eraill megis cur pen, a'i fod yn flin ei hwyliau neu'n bryderus, a ddim eisiau mynd i'r ysgol. Os yw eich plentyn yn ymddwyn fel hyn neu'n wahanol i'r arfer a'ch bod yn amau ei fod yn cael ei fwlio, ceisiwch siarad â'ch plentyn am:

  • sut mae gwaith ysgol yn dod yn ei flaen
  • ei ffrindiau yn yr ysgol
  • beth y mae'n ei wneud amser cinio ac amser egwyl
  • unrhyw broblemau neu anawsterau sy'n ei wynebu

Gall cael ar ddeall bod eich plentyn yn cael ei fwlio fod yn brofiad gofidus iawn, ond os yw'n digwydd ceisiwch siarad, heb gynhyrfu, â'ch plentyn am yr hyn sy'n digwydd, a hefyd:

  • gwnewch nodyn o'r hyn y mae yn ei ddweud: pwy oedd yn gysylltiedig, ym mhle, pryd a pha mor aml?
  • cysurwch eich plentyn ei fod wedi gwneud y peth iawn drwy ddweud wrthych
  • dywedwch wrth eich plentyn am roi gwybod yn syth i athro am unrhyw ddigwyddiadau pellach
  • siaradwch ag athro'ch plentyn am y bwlio

Seiber-fwlio

Mae dau o bob tri achos o fwlio yn fwlio geiriol, ac mae hyn ar gynnydd mewn ystafelloedd sgwrsio heb eu goruchwylio, drwy negeseuon gwib, neu drwy negeseuon testun ar ffonau symudol. Gall bwlio fod yn gynnil a chyfrwys, ond fel arfer os yw eich plentyn yn cael ei fwlio, yna mae'n gwybod yn iawn pwy sy'n ei fwlio.

Yr hyn y gallwch ei wneud:

  • gofynnwch iddynt ddangos unrhyw negeseuon y maent wedi eu derbyn neu ddweud wrthych yn syth os bydd unrhyw beth newydd yn digwydd
  • dywedwch wrthyn nhw am beidio byth ag ymateb i fwli ar-lein mewn ystafell sgwrsio a pheidio byth ag ymateb i negeseuon testun difrïol
  • gwnewch yn siŵr mai dim ond ystafelloedd sgwrsio sy'n cael eu goruchwylio y maent yn eu defnyddio
  • dywedwch wrthyn nhw y bydd bwlio fel arfer yn dod i ben ar ôl iddynt ddweud wrth bobl eraill amdano
  • os yw'r bwlio neu'r camdrin yn dechrau mewn ystafell sgwrsio, anogwch eich plant i adael yn syth a dod i ddweud wrthoch chi amdano - yna gallwch gysylltu â goruchwyliwr neu reolwr/golygydd y safle.
  • rhybuddiwch nhw i beidio â rhoi eu manylion cyswllt personol ar y we na rhoi lluniau o'u hunain ar wefannau

Siarad ag athrawon am fwlio

Pan fyddwch yn siarad ag athro eich plentyn, cofiwch efallai nad oes ganddyn nhw syniad bod eich plentyn yn cael ei fwlio. Ceisiwch beidio â chynhyrfu a:

  • rhowch fanylion penodol o'r hyn a ddigwyddodd yn ôl eich plentyn: rhowch enwau, ddyddiadau a lleoliadau
  • gwnewch gofnod o'r camau y bydd yr ysgol yn eu cymryd
  • gofynnwch a allwch chi wneud unrhyw beth i helpu
  • cadwch mewn cysylltiad â'r ysgol - rhowch wybod iddynt os bydd y broblem yn parhau neu os bydd y sefyllfa'n gwella
  • holwch beth yw polisi gwrth-fwlio'r ysgol (dylai fod gan bob ysgol un), er mwyn i chi wybod beth i'w ddisgwyl

Os ydych wedi siarad ag athrawon eich plentyn ond nid yw'r bwlio'n peidio, neu os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y mae'r ysgol yn delio â'r sefyllfa, mae'r mudiadau canlynol yn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth:

  • Llinell gymorth Parentline Plus: 0808 800 2222 (9.00 am i 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.30 am i 5.00 pm ar ddydd Sadwrn, 10.00 am i 3.00 pm ar ddydd Sul)
  • Llinell gymorth Kidscape i rieni: 08451 205204 (10.00 am i 4.00 pm)
  • llinell gyngor Anti Bullying Campaign ar gyfer rhieni a phlant: 020 7378 1446 (9.30 am i 5.00 pm)
  • Canolfan Gyngor am Addysg (cyngor i rieni a phlant am yr holl faterion sy'n ymwneud ag ysgolion): 0808 800 5793
  • Canolfan Gyfreithiol y Plant (cyngor cyfreithiol am ddim am bob agwedd ar y gyfraith sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc): 0845 120 2948

Os yw eich plentyn chi'n bwlio plant eraill

Os yw eich plentyn chi'n bwlio, mae'n bosibl ei fod yn efelychu ymddygiadau pobl eraill yn y teulu; neu efallai nad yw wedi dysgu dulliau gwell o gymysgu gyda'i ffrindiau. Efallai fod ffrindiau yn annog y bwlio, neu mae'n bosibl bod eich plentyn yn mynd drwy gyfnod anodd ac oherwydd hynny yn arddangos teimladau ymosodol.

Er mwyn atal eich plentyn rhag bwlio:

  • eglurwch wrth eich plentyn fod yr hyn y mae'n ei wneud yn annerbyniol ac yn gwneud plant eraill yn anhapus
  • dylech berswadio aelodau eraill eich teulu i beidio ag ymddwyn yn ymosodol neu'n dreisgar er mwyn cael yr hyn a ddymunant
  • dangoswch i'ch plentyn sut mae ymuno heb fwlio
  • ewch i weld athro eich plentyn i siarad am sut y gallwch gyd-weithio er mwyn atal eich plentyn rhag bwlio
  • holwch eich plentyn yn rheolaidd sut mae pethau'n mynd yn yr ysgol
  • canmolwch eich plentyn pan fydd yn cydweithredu ac yn garedig tuag at bobl eraill

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU