Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cadw plant yn ddiogel: eich hawl i ofyn am archwiliad gan yr heddlu

Os ydych chi’n poeni am rywun ym mywyd eich plentyn, gallwch ofyn i’r heddlu gynnal archwiliad ar y person hwnnw i weld a oes ganddo record o gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plant. Yma, cewch wybod beth mae angen i chi ei wneud er mwyn gofyn am gynnal archwiliad.

Sut mae gofyn am gynnal archwiliad

O ganlyniad i’r cynllun datgelu troseddwyr sy’n cam-drin plant yn rhywiol, gall unrhyw un ofyn i’r heddlu gynnal archwiliad ar rywun sy'n peri pryder iddynt. Gallwch ffonio neu fynd i’ch gorsaf heddlu leol i gael rhagor o wybodaeth. I wneud cais am archwiliad, bydd angen i chi fynd i'ch gorsaf heddlu leol yn bersonol. Yn yr orsaf heddlu, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • dangos ID, er enghraifft eich pasbort neu’ch trwydded yrru
  • dweud wrth yr heddlu beth yw’ch perthynas â’r plentyn
  • dweud pam eich bod am i’r heddlu gynnal archwiliad ar y person hwn

Ar gyfer pwy mae’r cynllun

Mae hwn yn gynllun ar gyfer unrhyw un sydd am gael gwybod a oes gan rywun sydd mewn cyswllt â phlentyn record o gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plant. Gallech fod yn aelod o’r teulu, yn ffrind, yn gymydog neu’n unrhyw un sy'n pryderu am y plentyn.

Wrth gwrs, os oes rhywun yn poeni am ddiogelwch plentyn, gallant – a dylent – roi gwybod i’r heddlu ar unwaith. Os ydych chi'n meddwl bod plentyn mewn perygl enbyd, dylech bob amser ffonio'r heddlu ar 999.

Pam mae angen y cynllun hwn

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy’n cam-drin plant yn rhywiol yn adnabod y plant maent yn eu cam-drin. Maent yn aml yn ffrind i deulu’r plentyn, yn ffrind i’r plentyn neu’n aelod o deulu’r plentyn.

Ble mae’r cynllun ar gael

Bydd y cynllun ar gael ym mhob un o 43 o heddluoedd Cymru a Lloegr o 4 Ebrill 2011 ymlaen.

Beth os bydd rhywbeth yn codi o'r archwiliad?

Os bydd archwiliad yn dangos bod gan rywun record o gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plant, neu droseddau eraill a allai roi’r plentyn mewn perygl, mae’n bosib y bydd yr heddlu yn rhannu'r wybodaeth hon. Fodd bynnag, dim ond y bobl sydd yn y sefyllfa orau i amddiffyn y plentyn fydd yn cael yr wybodaeth hon, sef rhiant, gofalwr neu warcheidwad y plentyn fel arfer. Mae’n bosib na fyddant yn rhannu’r wybodaeth â’r sawl a wnaeth yr ymholiad.

Rhagor o wybodaeth

Os oes arnoch angen cyngor ar unwaith, gallwch gysylltu â’r canlynol:

  • Stop it Now! – rhif ffôn 0808 1000 900
  • NSPCC – rhif ffôn 0808 800 5000

Os oes arnoch angen cyngor neu gefnogaeth, gall amryw o sefydliadau eraill eich helpu.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU