Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Amddiffyn eich plentyn rhag troseddau â chyllyll

Gallwch chwarae rhan bwysig yn y broses o atal troseddu gyda chyllyll rhag dod yn rhan o fywyd eich plentyn. Gall gwybod yr hyn sy'n gyfreithlon a siarad gyda'ch plentyn am y peryglon eu helpu i'w cadw'n ddiogel.

Gwybod am y gyfraith

Cyn siarad â’ch plentyn am gyllyll, mae angen i chi gael gwybod y ffeithiau:

  • mae’n anghyfreithiol i unrhyw un gario cyllell os yw’n bwriadu ei ddefnyddio fel arf – hyd yn oed wrth amddiffyn ei hun
  • gall yr heddlu chwilio unrhyw un y maent yn amau ei fod yn cario cyllell
  • gall cario cyllell olygu cael eich arestio, mynd i’r llys a chael cofnod troseddol, neu hyd yn oed gael eich dedfrydu i garchar

Cyllyll yn yr ysgol

Mae bod â chyllell neu arf arall ar dir yr ysgol yn drosedd.

Gall ysgolion ‘sgrinio' disgyblion am gyllyll unrhyw bryd, heb ganiatâd, hyd yn oed os nad oes rheswm amlwg dros eu hamau (wrth sgrinio, defnyddir ‘gwialen’ electronig neu fwa sgrinio i ddod o hyd i wrthrychau metalig). Gallant hefyd chwilio’r disgyblion am gyllyll heb ganiatâd os oes achos rhesymol dros eu hamau, neu alw’r heddlu i gynnal chwiliad.

Os bydd disgybl yn gwrthod cael ei chwilio neu ei sgrinio, gall yr ysgol wrthod gadael i’r disgybl aros ar dir yr ysgol. Os bydd hyn yn digwydd, caiff ei ystyried yn ‘absenoldeb anawdurdodedig’. Gall hyn effeithio arnoch chi, gan fod gan bob rhiant gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud yn siŵr fod ei blentyn yn mynychu’r ysgol.

Os canfyddir bod gan ddisgybl gyllell neu arf arall, bydd yr heddlu'n cael eu galw ac mae'r disgybl yn debygol o gael ei arestio.

Eich cyfrifoldebau chi

Mae pob rhiant yn gyfrifol am ymddygiad ei blentyn. Os caiff plentyn ei wahardd o’r ysgol am ymddygiad gwael parhaus, neu am ymddygiad troseddol megis cario cyllell, gall y llysoedd roi Gorchymyn Rhianta i'r rhieni. Diben hyn yw gwella ymddygiad y plentyn a sicrhau bod y rhieni yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros ymddygiad y plentyn.

Siarad â'ch plant am gyllyll

Y ffordd orau o atal eich plentyn rhag ymwneud â chyllyll yw siarad ag ef am y peryglon. Efallai na fydd hyn yn hawdd, oherwydd mae’n bosib na fydd am siarad am y peth. Ond, dylech chi ddyfal barhau, gan mai dyma’r cam cyntaf at gadw eich plentyn yn ddiogel. Dylech ei atgoffa ei fod, drwy gario cyllell:

  • yn rhoi sicrwydd ffug iddo'i hun
  • yn rhoi arf i’w ymosodwr, o bosib, gan gynyddu’r risg o gael ei drywanu neu ei anafu
  • yn torri’r gyfraith

Cadw llygad

Weithiau, efallai y bydd rhesymau amlwg dros feddwl bod eich plentyn yn cario cyllell – fel cyllell yn diflannu o’r gegin. Fodd bynnag, mae pethau eraill mwy cynnil y gallwch chi a rhieni ffrindiau eich plentyn gadw llygad amdanynt:

  • nid yw pethau’n mynd yn dda yn yr ysgol, neu nid yw am fynd i’r ysgol o gwbl
  • mae wedi dioddef lladrad neu fwlio, neu mae rhywun wedi’i fygio’n ddiweddar
  • mae ganddo rwydwaith gwahanol o ffrindiau sy’n hŷn nag ef o bosib

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU