Amddiffyn eich plant rhag cael eu cam-drin
Efallai mai siarad â'ch plentyn yw'r cam cyntaf i helpu i'w gadw'n ddiogel rhag cael ei gam-drin. Rydych yn fwy tebygol o ddarganfod unrhyw fygythiad i ddiogelwch eich plentyn os oes gennych berthynas agored ac ymddiriedgar gyda hwy. Os ydych chi'n amau bod plentyn yn cael ei gam-drin, cewch wybod yma gyda phwy y dylech gysylltu.
Riportio amheuon o gam-drin plant
Os ydych chi'n amau bod plentyn yn cael ei gam-drin, dylech roi gwybod i'r heddlu neu'ch gwasanaethau cymdeithasol lleol.
Os ydych chi'n meddwl bod plentyn mewn perygl enbyd, ffoniwch 999 yn syth. Fel arall, cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol. I ddod o hyd i’ch cyngor lleol, dilynwch y ddolen isod.
Cefnogaeth gan yr NSPCC
Elusen genedlaethol sy’n arbenigo mewn amddiffyn plant ac atal creulondeb i blant yw’r NSPCC.
I gael manylion cyswllt Llinell Gymorth yr NSPCC, dilynwch y ddolen isod.
Pethau y gallwch siarad amdanynt er mwyn helpu i ddiogelu'ch plentyn
Dyma ychydig o bethau y gallwch siarad amdanynt gyda'ch plentyn:
- mae gan eich plentyn yr hawl i fod yn ddiogel - rhowch wybod i'ch plentyn na fydd yn cael ei gosbi os yw'n teimlo'n anniogel neu dan fygythiad mewn unrhyw ffordd gan unrhyw berson (gan gynnwys aelodau o'r teulu)
- y gwir a gredir bob amser - anogwch eich plentyn i ddweud wrthych os oes unrhyw beth yn gwneud iddynt deimlo'n anghyfforddus, yn ddryslyd neu'n ofnus (anaml iawn y bydd plant yn dweud celwydd am gamdriniaeth)
- mae eu cyrff yn perthyn iddyn nhw - siaradwch â'ch plentyn am y rhannau y dylid eu gorchuddio (rhannau a orchuddir gan wisg nofio) ac anogwch hwy i ddweud wrthych os bydd rhywun yn ceisio gwthio'r terfynau y tu hwnt i'r hyn sy'n dderbyniol
- dweud 'na' - mae plant yn aml iawn yn meddwl bod rhaid iddynt wneud beth bynnag mae oedolyn yn dweud wrthynt am ei wneud, yn enwedig felly os ydynt wedi cael eu gorfodi i gofleidio neu gusanu oedolyn yn erbyn eu hewyllys.
- mae rhai cyfrinachau na ddylid eu cadw - gan fod camdrinwyr a bwlis yn aml yn dweud mai 'ein cyfrinach ni yw hon' neu hyd yn oed yn bygwth diogelwch aelodau eraill o'r teulu, dywedwch wrth eich plentyn na ddylid cadw cyfrinachau fel y rhain - byth
- rhowch dawelwch meddwl i'ch plentyn drwy ddweud na fydd niwed yn dod i'w rhan hwy nac i ran eu hanwyliaid os byddant yn dweud y gwir am gamdriniaeth
- os yw dieithryn yn ceisio siarad â'ch plentyn, dywedwch wrth y plentyn am gymryd arno i beidio clywed y dieithryn a dod yn syth atoch chi
Gellir priodoli'r ddau awgrym olaf hyn i bob math o sefyllfaoedd:
- dywedwch wrth eich plentyn ei bod yn iawn iddynt dorri'r rheolau os byddant mewn perygl - anogwch eich plentyn i weiddi, cicio, sgrechian, dweud celwydd neu redeg i ffwrdd os ydynt yn teimlo eu bod mewn perygl
- crëwch god neu arwydd arbennig fel mai dim ond chi a'ch plentyn (a rhiant/gofalwr arall) sy'n deall ei ystyr - os ydy'r plentyn angen cael ei gasglu, gall roi'r cod i'r person hwnnw
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a chyngor am yr holl bwyntiau uchod ar wefan Kidscape.