Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Helpu eich plentyn i osgoi peryglon cyffuriau

Cael gwybod sut mae addysgu eich plentyn am beryglon cyffuriau ac adnabod yr arwyddion a allai ddangos eu bod yn defnyddio cyffuriau. Dylech hefyd wybod ble gallwch chi gael cymorth a gwybodaeth, a beth i'w wneud mewn argyfwng.

Siarad â'ch plentyn am beryglon cyffuriau

Dydy hi byth yn rhy fuan i addysgu eich plentyn am beryglon cyffuriau. Dylech eu hannog i drafod cyffuriau a gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod y dylai ddweud wrthych os oes rhywun yn cynnig unrhyw beth iddo.

Arwyddion bod eich plentyn o bosib yn defnyddio cyffuriau

Os byddwch yn gweld ambell newid penodol yn eich plentyn, gall fod yn arwydd ei fod yn defnyddio cyffuriau. Cadwch olwg am newid yn y canlynol:

  • ymddangosiad
  • ffrindiau eich plentyn
  • diddordebau
  • arferion bwyta a chysgu
  • hwyliau
  • pa mor agored yw'ch plentyn gyda chi

Fodd bynnag, gall pob un o'r rhain fod yn rhan naturiol o dyfu'n hŷn ac mae'n bosib y byddai'r un newidiadau i'w gweld mewn unigolyn ifanc nad yw'n defnyddio cyffuriau. Os ydych chi'n amheus, siaradwch â'ch plentyn ond peidiwch â meddwl y gwaethaf.

Beth i’w wneud os yw’ch plentyn yn cymryd cyffuriau

Os ydych chi'n canfod bod eich plentyn yn cymryd cyffuriau, mae'n debyg mai eich ymateb naturiol fydd mynd i banig. Fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod yn peidio â chynhyrfu, yn siarad ag ef ac yn ei gysuro. Dylech wneud y canlynol:

  • gadel iddo egluro yn ei eiriau ei hun beth mae wedi'i wneud
  • osgoi gofyn iddo pam ei fod wedi cymryd cyffuriau gan y bydd hyn yn gwneud iddo fod yn amddiffynnol
  • peidio â meddwl gormod am bwy sydd ar fai
  • dweud wrtho'n union sut rydych chi'n teimlo am y sefyllfa

Os oes gan eich plentyn broblem gyffuriau mae'n bwysig ei fod yn gwybod y byddwch chi'n gefn iddo. Gallech wneud hynny drwy ateb cwestiynau syml neu drwy ei helpu gyda'r broses anodd o roi'r gorau i'w defnyddio. Rhowch wybod i'ch plentyn eich bod yn ymddiried ynddo, ond dangoswch eich siom os torrir yr ymddiriedaeth honno. Gellir cael rhagor o gyngor a gwybodaeth gan Talk to FRANK.

Talk to FRANK

Talk to FRANK yw'r llinell gymorth cyffuriau genedlaethol sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth gyfrinachol a di-dâl 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Gallwch ffonio FRANK ar 0800 77 66 00 neu anfon eich cwestiwn mewn neges destun i 82111. Mae anfon neges destun i FRANK yn costio'r un faint â neges destun arferol – bydd hyn yn dibynnu ar dariff eich rhwydwaith. Gellir cael gwybodaeth a chyngor ar y wefan hefyd.

Cael help gan wasanaethau lleol a chan ysgol eich plentyn

Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio chi at asiantaethau cwnsela lleol ym maes cyffuriau. Dylai fod gan ysgol eich plentyn bolisi ar addysg gyffuriau a rheoli digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Bydd Adran Cyswllt â'r Gymuned eich heddlu lleol yn gallu ateb eich cwestiynau am y sefyllfa gyffuriau'n lleol, a'r gyfraith.

Beth i'w wneud mewn argyfwng

Os ydych chi'n gweld bod eich plentyn yn adweithio'n ddrwg i rywbeth y mae wedi'i gymryd, gallwch wneud ambell beth i'w helpu. Dylech chi bob amser geisio ei dawelu a'i gysuro.

Gellir rhoi cyffuriau mewn dau grŵp yn fras – 'symbylwyr' ac 'iselyddion'.

Os yw'ch plentyn wedi cymryd 'symbylydd'

Os yw'ch plentyn wedi cymryd amffetaminau (spîd), cocên, canabis, ecstasi, LSD (asid) neu fadarch hud, mae'n bosib y bydd ar bigau'r drain ac yn llawn panig. Os bydd hyn yn digwydd, dylech:

  • ei dawelu a'i gysuro, gan geisio peidio â dangos eich bod yn poeni neu'n ofnus
  • esbonio y bydd y teimladau'n pasio
  • ei annog i orwedd mewn ystafell ddistaw gyda golau gwan
  • dweud wrtho am anadlu'n araf ac yn hir os bydd yn dechrau anadlu'n gyflym iawn

Os yw'ch plentyn wedi cymryd 'iselydd'

Os yw'ch plentyn wedi cymryd heroin neu dawelyddion, neu wedi camddefnyddio nwy, glud neu aerosol, mae'n bosib y bydd yn dechrau teimlo'n flinedig iawn. Os bydd hyn yn digwydd, dylech wneud y canlynol:

  • ceisio peidio â chodi ofn arno na'i ddychryn, na gadael iddo wneud gormod
  • peidio byth â rhoi coffi na dim sy'n cynnwys caffein iddo er mwyn ceisio'i ddeffro
  • os yw'r symptomau'n parhau, dylid ei roi i orwedd ar ei ochr yn y safle adferol, fel na all y tafod ddisgyn yn ôl a'i rwystro rhag anadlu
  • ffonio am ambiwlans os nad yw'n dechrau dod yn fwy effro

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU