Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Siarad â'ch plentyn am ryw a beichiogrwydd ymhlith merched yn eu harddegau

Mae pobl ifanc sy’n gallu siarad yn agored am ryw â’u rhieni yn dueddol o beidio â bod yn fyrbwyll cyn cael rhyw ac maent yn fwy tebygol o ddefnyddio dulliau atal cenhedlu pan fônt yn penderfynu gwneud hynny. Fodd bynnag mae’n bosib eich bod yn cael y syniad ychydig yn lletchwith, neu nid ydych yn gwybod ble i ddechrau. Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu chi ar eich ffordd.

Siarad â phlant am ryw

Dydy siarad am ryw â'ch plant ddim yn golygu eich bod yn eu hannog i gael rhyw. Dyma'r ffordd orau o ddechrau siarad am ryw:

  • dechreuwch pan fydd eich plentyn yn ifanc, oherwydd gall aros i'ch plentyn gyrraedd blaenlencyndod ei gwneud yn lletchwith
  • gwnewch siarad am ryw yn rhan o fywyd bob dydd, nid sgwrs unwaith-ac-am-byth yn unig a daliwch ati i sgwrsio am y pwnc wrth iddynt fynd yn hŷn
  • defnyddiwch gyfryngau bob dydd i ddechrau sgwrs - rhaglenni sebon, hysbysebion, rhaglenni teledu, cylchgronau - wedyn gallwch siarad am bobl eraill, sy'n haws o bosib ar y cychwyn
  • defnyddiwch lyfrau, taflenni a gwefannau (gan gynnwys y rhai a restrir isod) os oes angen gwybodaeth arnoch neu syniadau am sut i ddechrau sgwrsio
  • sylweddoli y bydd angen preifatrwydd ar eich plentyn wrth dyfu, ac efallai na fydd eisiau siarad gyda chi bob amser
  • siarad â rhieni eraill ynghylch sut maen nhw'n ateb cwestiynau anodd ac yn trafod materion anodd

Siarad â phobl ifanc yn eu harddegau am ryw a beichiogrwydd

Efallai yr ydych am siarad â'ch plentyn yn ei arddegau ynghylch nifer o bethau sy’n ymwneud â rhyw a beichiogrwydd. Gallai’r rhain gynnwys aros cyn cael rhyw, dulliau atal cenhedlu, heintiau a drosglwyddir drwy ryw (STIs) ac effeithiau cael plentyn tra'u bod yn dal yn yr ysgol. Mae sawl ffordd y gallwch helpu:

  • holwch pa fath o addysg y maent yn eu cael yn yr ysgol am ryw a chydberthynas
  • darparwch wybodaeth a chyngor iddynt am bynciau sydd ddim yn cael eu trafod yn yr ysgol
  • cynigiwch ymweld â'r meddyg neu'r clinig Iechyd Rhyw gyda'ch plentyn yn ei arddegau er mwyn trafod unrhyw faterion sy'n ymdrin ag atal cenhedlu
  • sicrhewch eu bod yn gwybod am STIs, ac yn gwybod sut mae aros yn ddiogel
  • cefnogwch eich plentyn yn ei arddegau wrth iddynt ymdopi â'r emosiynau a ddaw yn sgil y berthynas agos gyntaf
  • siaradwch am bwysigrwydd ystyried teimladau pobl eraill mewn perthynas, ac nid dim ond y fioleg

Efallai y gwelwch chi na fydd gan eich plentyn yn ei arddegau yr un gwerthoedd â chi pan fydd rhyw yn y cwestiwn. Ceisiwch beidio â phoeni am hyn – mae’n anochel wrth iddynt dyfu i fyny.

Os yw’ch plentyn yn feichiog

Os bydd eich plentyn yn dweud wrthych ei bod yn feichiog neu fod ei gariad yn feichiog, y peth pwysicaf i'w wneud yw peidio â chynhyrfu, a siarad a chefnogi'r fam yn ei harddegau beth bynnag fydd ei phenderfyniad.

Y cam cyntaf yw i'r ferch yn ei harddegau ymweld â'i meddyg neu â gwasanaeth pobl ifanc. Byddant yn cadarnhau ei bod yn feichiog ac yn rhoi gwybod iddi am wasanaethau yn yr ardal ar gyfer merched yn eu harddegau sy'n feichiog. Yn aml, bydd gan ysbytai ac ymwelwyr iechyd wasanaethau ar gyfer mamau yn eu harddegau, sy'n ychwanegol at y gofal cyn geni a gynigir fel arfer. Yn ogystal â hyn mae gan ambell wasanaeth, megis Brook, gynghorwyr a fydd yn gallu archwilio sut mae hi'n teimlo ynghylch ei beichiogrwydd a rhoi gwybodaeth ddiduedd iddi am ei dewisiadau.

Ysgol

Does dim rheswm pam na all eich merch aros yn yr ysgol tan yr enedigaeth, ac yna dychwelyd i'r ysgol wedi hynny. Caniateir hyd at 18 wythnos o absenoldeb yn y cyfnod yn union cyn ac ar ôl yr enedigaeth.

Fodd bynnag, efallai na fydd eich merch eisiau mynd i'r ysgol ar ôl iddi ganfod ei bod yn feichiog. Os felly, ceir dewisiadau eraill fel mynychu uned arbenigol i famau yn eu harddegau (os oes un yn eich ardal), addysg gartref neu astudio mewn coleg addysg bellach. Bydd adran addysg eich cyngor lleol yn gallu helpu.

Os yw eich plentyn dan 20 oed, gallent hefyd gael cymorth gyda chostau gofal plant drwy'r cynllun Gofal i Ddysgu i'w helpu i barhau i ddysgu ar ôl rhoi genedigaeth.

Eich hawliau chi, a hawliau eich plentyn

Er y bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn annog pobl ifanc sy'n cael rhyw i siarad â'u rhieni am eu sefyllfa bob amser, mae gan bobl ifanc yr un hawliau cyfrinachedd ag oedolion. Felly, does dim rhaid i feddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol arall ddweud wrth rieni pan fydd person ifanc yn gofyn am gyngor a thriniaeth am atal cenhedlu a/neu iechyd rhyw.

Gall gweithwyr iechyd proffesiynol benderfynu cyfeirio achos at y gwasanaethau cymdeithasol os oes gwahaniaeth oedran mawr rhwng y ddau berson dan sylw, neu os oes tystiolaeth o gam-drin. Wrth ddelio ag achosion sy'n ymwneud â phobl iau yn eu harddegau, penderfynir yn aml fod risg o niwed, a chysylltir â'r gwasanaethau cymdeithasol.

Hawliau'r tad

Yn unol â'r gyfraith bresennol, bydd gan y fam gyfrifoldeb rhiant dros ei phlentyn bob amser. Fodd bynnag, ni fydd y cyfrifoldeb hwn gan y tad oni bai ei fod wedi priodi'r fam neu wedi cael cyfrifoldeb cyfreithiol dros ei blentyn. Mae nifer o wahanol ffyrdd i dad gael cyfrifoldeb cyfreithiol dros ei blentyn, megis cofrestru neu ailgofrestru'r enedigaeth, neu ymgeisio drwy'r llysoedd.

Gwybodaeth a chefnogaeth i rieni

I gael mwy o wybodaeth a chyngor cyfrinachol, ffoniwch Parentline Plus am ddim ar 0808 800 2222. Mae gwasanaeth ffôn testun di-dâl ar gael hefyd ar 0800 783 6783 ar gyfer pobl gyda nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd. Gall y Gymdeithas Cynllunio Teulu (fpa) hefyd ddarparu gwybodaeth a chyngor. Llinell Gymorth: 0845 310 1334.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU