Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawliau a chyfrifoldebau fel rhiant

Yn wahanol i famau, nid oes gan dadau 'gyfrifoldeb rhiant' dros eu plant bob amser. Gyda mwy nag un o bob tri phlentyn yn cael eu geni heb i'w rhieni fod yn briod â'i gilydd, efallai y bydd rhai rhieni yn aneglur am bwy sydd â chyfrifoldeb rhiant dros eu plant.

Beth yw cyfrifoldeb rhiant?

Er nad yw'r gyfraith yn diffinio cyfrifoldeb rhiant yn fanwl, mae'r canlynol yn rhestru'r rolau allweddol:

  • rhoi cartref i'r plentyn
  • amddiffyn a chynnal y plentyn
  • disgyblu'r plentyn
  • dewis addysg y plentyn a darparu ar ei chyfer
  • pennu crefydd y plentyn
  • cytuno ar driniaeth feddygol y plentyn
  • enwi'r plentyn a chytuno ar unrhyw newid i'w enw
  • mynd gyda'r plentyn y tu allan i'r DU a chytuno i'r plentyn ymfudo, pe byddai'r mater yn codi
  • bod yn gyfrifol am eiddo'r plentyn
  • penodi gwarcheidwad i'r plentyn, os bydd angen
  • caniatáu i wybodaeth gyfrinachol am y plentyn gael ei datgelu

Pan fydd gan riant dibreswyl gyfrifoldeb rhiant, nid yw'n rhoi hawl absoliwt iddo gael cyswllt â'r plentyn. Hefyd, nid oes rhaid i'r rhiant preswyl ymgynghori â'r rhiant arall bob dydd am fagu'r plentyn. Fodd bynnag, disgwylir i'r rhiant preswyl wneud yn siŵr bod y rhiant dibreswyl yn cael gwybod am les a datblygiad cyffredinol y plentyn.

Pwy sydd â chyfrifoldeb rhiant?

Mae gan fam gyfrifoldeb rhiant dros ei phlentyn o'i enedigaeth yn awtomatig. Fodd bynnag, mae'r amodau ar gyfer tadau yn cael cyfrifoldeb rhiant yn amrywio ledled y DU.

Genedigaethau a gofrestrir yng Nghymru a Lloegr

Yng Nghymru a Lloegr, os yw rhieni plentyn yn briod â'i gilydd ar adeg ei eni, neu os ydynt wedi mabwysiadu plentyn ar y cyd, mae gan y ddau ohonynt gyfrifoldeb rhiant. Nid yw rhieni yn colli cyfrifoldeb rhiant os byddant yn ysgaru, ac mae hyn yn wir am y rhiant preswyl a'r rhiant dibreswyl.

Nid yw hyn bob amser yn wir am rieni nad ydynt yn briod â'i gilydd. Yn ôl y gyfraith bresennol, mae gan fab gyfrifoldeb rhiant dros ei phlentyn bob amser. Fodd bynnag, yn achos y tad, dim ond os bydd yn briod â'r fam pan gaiff y plentyn ei eni neu os yw wedi cael cyfrifoldeb rhiant dros ei blentyn drwy un o'r llwybrau canlynol y mae ganddo'r cyfrifoldeb hwn:

  • (ers 1 Rhagfyr 2003) drwy gofrestru genedigaeth y plant ar y cyd â'r fam
  • drwy gytundeb cyfrifoldeb rhiant â'r fam
  • drwy orchymyn cyfrifoldeb rhiant, a wnaed gan lys
  • drwy briodi mam y plentyn

Nid yw byw gyda'r fam, hyd yn oed am gyfnod hir, yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i'r tad. Os nad yw'r rhieni wedi priodi, nid yw cyfrifoldeb rhiant yn trosglwyddo’n awtomatig i'r tad biolegol os bydd y fam yn marw - oni bai bod ganddo gyfrifoldeb rhiant eisoes.

Genedigaethau a gofrestrir yn yr Alban

Ers mis Mai 2006, rhoddir cyfrifoldeb rhiant i fam a thad plentyn os byddant yn cofrestru genedigaeth y plentyn gyda'i gilydd. Mae hyn yn golygu bod enwau'r ddau ohonynt yn ymddangos ar dystysgrif geni'r plentyn.

O ran plant a anwyd yn yr Alban cyn mis Mai 2006, os oedd mam a thad plentyn yn briod â'i gilydd (neu gwnaethant briodi'n ddiweddarach), rhoddwyd cyfrifoldeb rhiant i'r ddau ohonynt. Os nad oedd mam a thad plentyn yn briod â'i gilydd, dim ond i'r fam y rhoddwyd cyfrifoldeb rhiant. Gall y tad gael hawliau a chyfrifoldebau rhiant os yw am gael hynny:

  • drwy briodi'r fam
  • os bydd y fam yn cytuno, drwy lenwi ffurflen o'r enw Cytundeb Cyfrifoldebau Rhiant a Hawliau Rhiant (PRPRA)
  • drwy ofyn i'r llys eu rhoi iddo

Genedigaethau a gofrestrir yng Ngogledd Iwerddon

Os yw rhieni plentyn yn briod â'i gilydd ar adeg geni'r plentyn, bydd gan y ddau ohonynt gyfrifoldeb rhiant dros eu plentyn.

Mae gan fam ddi-briod gyfrifoldeb rhiant awtomatig dros ei phlentyn. Nid oes gan dad di-briod gyfrifoldeb rhiant dros ei blentyn, ond gall gael cyfrifoldeb rhiant drwy:

  • briodi mam y plentyn (ar yr amod ei fod yn byw yng Ngogledd Iwerddon ar adeg y briodas)
  • gwneud cytundeb cyfrifoldeb rhiant gyda mam y plentyn - er mwyn iddo gael ei gydnabod, rhaid i'r cytundeb fod yn y ffurf a ragnodir ac wedi'i gofrestru â'r Swyddfa Gofal a Diogelwch yn y Llysoedd Barn Brenhinol, Belfast
  • gofyn i'r llys wneud gorchymyn cyfrifoldeb rhiant - bydd hyn yn golygu y bydd yn union yr un sefyllfa â thad priod ac yn rhannu cyfrifoldeb rhiant gyda'r fam
  • gofyn i'r llys wneud gorchymyn preswylio o'i blaid - caiff gorchymyn cyfrifoldeb rhiant ei wneud ar yr un pryd ag y bydd llys yn penderfynu bod gan y tad yr hawl i'r plentyn fyw gydag ef, a gall barhau i fod ar waith hyd yn oed ar ôl i'r gorchymyn preswylio ddod i ben
  • cofrestru genedigaeth y plentyn ar y cyd â'r fam, dim ond ar gyfer genedigaethau sydd wedi'u cofrestru ar y cyd ar ôl 15 Ebrill 2002

Noder: yn wahanol i Gymru a Lloegr, nid yw ailgofrestru genedigaeth plentyn a anwyd cyn mis Ebrill 2002 ar y cyd yn ffordd o gael cyfrifoldeb rhiant yng Ngogledd Iwerddon.

Gwneud cais i'r llysoedd am gyfrifoldeb rhiant

Gall tad wneud cais i'r llys am gael cyfrifoldeb rhiant. Wrth ystyried cais gan dad, bydd y llys yn ystyried y canlynol:

  • yr ymrwymiad a ddangosir gan y tad i'w blentyn
  • faint o gydberthynas sydd rhwng y tad a'r plentyn
  • rhesymau'r tad dros wneud cais am y gorchymyn

Yna bydd y llys yn penderfynu derbyn neu wrthod y cais ar sail yr hyn y mae'n credu sydd orau i'r plentyn.

Cysylltiadau defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU